Hefyd ar gael yn: English

Tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Wedi'i bostio ar y 2nd Tachwedd 2023

Mae ERS Cymru yn croesawu Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Rydym wedi cefnogi ac ymgyrchu ers tro ar yr achos dros gynyddu maint y Senedd ynghyd â diwygio trefniadau etholiadol y Senedd yn ehangach, ac rydym yn falch iawn o weld cynigion yn cael eu cyflwyno ar gyfer 96 o aelodau o fewn y ddeddfwriaeth hon. Er ein bod yn cefnogi’r mesurau i gynyddu capasiti’r Senedd, mae gennym rai pryderon ynghylch y system bleidleisio benodol a ddewiswyd, y byddwn yn ymhelaethu arnynt isod.

Cynnydd ym maint y Senedd

Mae bron i ddegawd ers cyhoeddi ein hadroddiad ‘Mae Maint yn Bwysig’ yn galw am gynnydd yn nifer aelodau’r Senedd,[1] a bron i ddau ddegawd ers gwaith Comisiwn Richard oedd yn argymell y dylai ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynyddu mewn maint o 60 i 80 o aelodau erbyn 2011’.[2] Mae sawl pwyllgor ac, yn fwyaf nodedig, y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, wedi dod i gasgliad tebyg ers hynny.[3]  Yn ystod y cyfnod hwn mae pwerau pellach wedi’u datganoli i Gymru, gan gynnwys pwerau deddfu, ac felly mae’r Senedd wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau ac wedi ymestyn ei chapasiti craffu hyd yn oed ymhellach. Mae’n hen bryd cynyddu nifer Aelodau’r Senedd, ac rydym yn croesawu’r ddarpariaeth yn y Bil hwn i unioni’r diffyg adnoddau hwn a sicrhau Senedd i Gymru sydd â chapasiti digonol i wneud ei gwaith.

 

Roedd adroddiad y Panel Arbenigol a Phwyllgor Diwygio’r Senedd yn argymell cynyddu maint y Senedd i rhwng 80 a 90 o aelodau, gyda’r Panel Arbenigol yn tynnu sylw at y ffaith y byddai symud i ben uchaf yr ystod hon yn darparu’r buddion mwyaf ac yn caniatáu lefel o ddiogelu capasiti yn y dyfodol. [4], [5]

Ers cyhoeddi’r ddau adroddiad hyn yn 2017 a 2020, mae’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru wedi newid yn sylweddol gyda Brexit, pandemig Covid-19 ac adolygiad ffiniau seneddol y DU yn lleihau nifer yr ASau yng Nghymru o 40 i 32. Mae cyfrifoldebau ychwanegol mewn meysydd datganoledig, a oedd gynt yn dod o dan gyfraith yr UE, wedi ychwanegu at lwyth gwaith y Senedd ac felly argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd y dylid cynyddu nifer yr Aelodau Seneddol y tu hwnt i 90.[6] Rydym yn cytuno bod 96 o aelodau yn nifer priodol i ganiatáu gwell craffu ar y ddeddfwriaeth bresennol ac i ddiogelu’r Senedd ar gyfer datganoli pwerau pellach yn y dyfodol. Mae hyn hefyd yn dod â’r Senedd yn debycach i seneddau datganoledig eraill; byddai’n sylweddol llai na Senedd yr Alban o hyd, a dim ond ychydig yn fwy na Stormont.

Y System Bleidleisio

Er ein bod yn cytuno bod angen system bleidleisio newydd i ethol Senedd fwy, mae gennym bryderon am y system gynrychiolaeth gyfrannol (PR) gyda rhestr gaeedig sydd wedi’i chynnwys yn y ddeddfwriaeth hon.

Mae memorandwm esboniadol y Bil yn cydnabod bod system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr gaeedig yn lleihau’r dewis i bleidleiswyr ac yn ei ddefnyddio fel rhan o’r rhesymeg dros gyflwyno gofyniad preswylio i ymgeiswyr, gan nodi “os yw etholwr yn cefnogi rhestr plaid ac eithrio ymgeisydd y mae’n credu nad yw’n byw yng Nghymru, rhaid iddo naill ai beidio â phleidleisio i’r blaid honno neu fethu â mynegi ei wrthwynebiad”.[7]

Nid yw’r cyfyng-gyngor hwn yn unigryw i fater preswyliad ymgeisydd, gan fod rhesymau diddiwedd pam na all etholwr gefnogi’r ymgeisydd ar frig rhestr plaid benodol ond ei fod yn dymuno cefnogi un neu fwy o’r ymgeiswyr sydd ymhellach i lawr y rhestr gyda’u pleidlais. Dyma un o’r dadleuon pam nad yw system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr gaeedig yn system etholiadol briodol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru.

Dangosodd ymchwil gan LSE yn 2013 y gall systemau rhestr gaeedig arwain at bleidleiswyr yn dewis pa blaid i bleidleisio drosti yn seiliedig ar faterion unigol, sy’n aml yn gynhennus. Roedd hyn oherwydd bod safbwynt cyffredinol y blaid dan sylw ar bwnc yn gyffredin i bawb sy’n sefyll o dan y rhestr honno a’r diffyg ystyriaeth i safbwyntiau ymgeiswyr unigol, a all amrywio hyd yn oed o fewn yr un blaid.[8]

Byddem yn cefnogi’r syniad o Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) i fod yn system etholiadol newydd y Senedd, fel y gwnaeth y Panel Arbenigol yn 2017, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2020 a dau aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd yn 2022.[9], [10], [11] Byddai system STV yn caniatáu i bleidleiswyr nid yn unig ddethol yr ymgeisydd o’u dewis, ond hefyd ddarparu cymaint o opsiynau amgen ag y dymunant, trwy raddio ymgeiswyr,  Dyma hefyd y system etholiadol sydd wedi cael ei dewis i gynghorau optio i symud iddi o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).[12] Ledled y DU mae STV hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau lleol yr Alban ers 2007 ac ar gyfer etholiadau lleol a seneddol yng Ngogledd Iwerddon.

O ystyried bod yr amserlen ar gyfer gweithredu’r Bil hwn yn dynn, opsiwn arall fyddai ystyried y system etholiadol a argymhellir gan y Panel Arbenigol pe na bai STV yn cael ei rhoi ar waith, sef y system rhestr hyblyg.[13]

Byddem yn cymeradwyo ychwanegu gwelliant at y ddeddfwriaeth i ganiatáu ar gyfer rhestr hyblyg. Byddai hyn yn golygu caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol neu blaid, gydag ymgeiswyr unigol ond yn symud i fyny rhestr eu plaid os ydynt yn pasio canran trothwy penodol o bleidleisiau’r blaid yn yr etholaeth honno. Byddai hyn yn gwella dewis pleidleiswyr, ac yn cynnig cyfle i bleidleiswyr ddad-ddewis yn effeithiol ymgeisydd ar frig y rhestr os ydynt yn credu nad oeddent yn gwneud gwaith da. Gallai mân welliannau i’r Bil fel y mae hwyluso’r newid i system bleidleisio rhestr hyblyg.

Defnyddir y dull rhestr hyblyg hwn yn eang mewn gwledydd ar draws Ewrop gan gynnwys Awstria, Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, Norwy, yr Iseldiroedd, Slofacia, a Sweden.[14] Mae yna hefyd enghreifftiau o wledydd sydd wedi cefnu ar restrau caeedig o blaid dull rhestr hyblyg. Un enghraifft o’r fath yw Sweden, a ddefnyddiodd system gynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr gaeedig i ddechrau ac yna ei huwchraddio trwy symud i system gyda rhestr hyblyg ym 1998.

Datblygodd y Panel Arbenigol system ar gyfer rhestrau hyblyg yng Nghymru fel rhan o’u hadroddiad yn 2017.

“O ran yr ail ddimensiwn, mae systemau Rhestr Hyblyg yn defnyddio amrywiaeth eang o fecanweithiau. Mae’r system a ddatblygwyd gennym yn defnyddio rhestrau hyblyg ar ffurf ‘trothwy’. “O dan y system hon, y pleidiau sy’n pennu’r drefn y mae enwau ymgeiswyr yn ymddangos ar y papur pleidleisio. Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn derbyn digon o bleidleisiau personol i gyrraedd trothwy penodedig ar gyfer ymgeisydd, trefn ddewisol y blaid yw’r drefn y bydd ymgeiswyr yn cymryd unrhyw seddi a enillwyd gan y blaid honno. Os bydd pleidleisiau personol ymgeisydd yn pasio’r trothwy, bydd yn symud i frig y rhestr. Os bydd nifer o ymgeiswyr yn pasio’r trothwy, cânt eu trefnu yn ôl nifer y pleidleisiau y mae pob un wedi’u derbyn. Er enghraifft, yn Sweden, mae ymgeiswyr sy’n cael 5 y cant neu fwy o’r pleidleisiau a dderbyniwyd gan restr y blaid yn symud i frig y rhestr.” Rydym wedi dewis y system hon oherwydd ei bod yn syml ac felly yn hawdd ei deall gan bleidiau, ymgeiswyr a phleidleiswyr. Er bod rhai manteision yn perthyn i fathau eraill o restrau hyblyg, nid ydym yn credu bod y rhain yn gorbwyso gwerth symlrwydd y system drothwy yng nghyd-destun etholiadau’r Cynulliad.”

Gallai dull rhestr hyblyg, fel y disgrifiwyd gan y Panel Arbenigol, leddfu rhai pryderon ynghylch y diffyg dewis i bleidleiswyr o dan y system a gynigir ar hyn o bryd, ac mae’n debygol o fod yn hylaw yng ngoleuni amserlenni tynn y Bil.

Dyraniad Seddi

Y fformiwla etholiadol a nodir yn y Bil i ddyrannu seddi o dan system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr yw dull D’Hondt. Mae gennym amheuon ynghylch hyn gan y gall y dull hwn arwain at ganlyniadau llai cymesur na’r dull Sainte-Laguë a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol.[15]

Os bydd dull cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr yn parhau (naill ai’n hyblyg neu’n gaeedig), yna fel yr argymhellodd y Panel Arbenigol, dylid mabwysiadu fformiwla Sainte-Laguë i ddyrannu seddi ar sail cymesuredd. Mae dull D’Hondt fel arfer yn cynhyrchu canlyniadau llai cymesur na dull Sainte-Laguë, oherwydd bod y fformiwla etholiadol yn aml yn ffafrio pleidiau mwy dros bleidiau llai. Canfu’r Panel Arbenigol yn ei waith modelu “fod fformiwla etholiadol D’Hondt yn gyffredinol yn cynhyrchu canlyniadau sy’n llai cyfrannol na’r rhai sy’n defnyddio fformiwla Sainte-Laguë, ac weithiau’n llai cyfrannol na’r system etholiadol bresennol” gyda dau aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig hefyd yn ffafrio’r fformiwla hon i ddechrau.[16]

Ffiniau Etholaethau

Er ein bod yn cydnabod y cyfyngiadau amser o ran sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio ar gyfer Etholiadau’r Senedd yn 2026, hoffem nodi ei bod yn drueni na fydd etholaethau wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer y Senedd erbyn hynny. Mae defnyddio etholaethau seneddol newydd y DU yn dibynnu ar ffiniau sy’n gweithredu ar gyfer system wleidyddol hollol wahanol, sy’n cael eu llunio ar sail cofrestrau etholiadol anghyflawn yn hytrach na ffigurau poblogaeth gwirioneddol ac sy’n seiliedig ar drefn etholiadol wahanol.

Mae gennym hefyd bryderon am y darpariaethau i sicrhau bod nifer y cynrychiolwyr fesul etholaeth yn gyfartal oherwydd yr amrywiaeth ym maint etholaethau a nifer y pleidleiswyr a gynrychiolir, sy’n broblem benodol yn achos Ynys Môn o ystyried ei statws gwarchodedig yn adolygiad ffiniau San Steffan. Fel y cydnabuwyd ym memorandwm esboniadol y Bil, bydd hyn yn golygu bod pleidleiswyr yn yr etholaeth bâr honno i bob pwrpas yn cael eu gorgynrychioli yn Senedd Cymru.[17].

Nid yw paru etholaethau San Steffan ychwaith yn rhoi ystyriaeth i’r gwahanol drefn etholiadol yng Nghymru a sut y gallai hynny newid nifer yr etholwyr o un etholaeth i’r llall. Dylai’r adolygiad o’r ffiniau cyn etholiadau’r Senedd yn 2030 unioni hyn trwy sefydlu etholaethau pwrpasol ar gyfer y Senedd gyda niferoedd etholwyr mwy cytbwys yn seiliedig ar drefn etholiadol Cymru. Fodd bynnag, mae gan y fanyleb ar wyneb y Bil ar gyfer 16 o etholaethau, pob un ohonynt yn ethol chwe aelod, y potensial i fod yn rhy anhyblyg o ran cydbwyso buddiannau cystadleuol niferoedd cyfartal o etholwyr a pharchu ffiniau cymunedau naturiol yn yr ymarfer adolygu ffiniau hwn.

Yn Ewrop, mae Sbaen a Phortiwgal yn defnyddio’r system gynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr gaeedig ar gyfer eu hetholiadau seneddol. Mae gan Sbaen feintiau ardal yn amrywio o 2 i 37 ar draws ei 50 etholaeth aml-aelod, ac mae gan Bortiwgal feintiau ardal yn amrywio o 2 i 48 ar draws ei 22 etholaeth aml-aelod. Yn y DU, arferai etholiadau AS Ewrop gael eu cynnal gan ddefnyddio’r system gynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr gaeedig; roedd y rhain hefyd yn amrywio o ran maint ardal, gyda rhwng 3 a 10 AS Ewrop yn cael eu hethol ar draws y gwahanol wledydd a rhanbarthau. Mae cael meintiau ardal cyfartal, fel sydd yn y Bil hwn, ymhell o fod yn arferol gan mai anaml y mae ffiniau naturiol a chymunedau’n cyfateb i ranbarthau sydd â phoblogaeth o’r un maint.

Mewn gwirionedd ar draws pob un o’r 20 gwlad sy’n aelodau o’r UE sy’n defnyddio unrhyw amrywiad o’r system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestrau, dim ond dwy wlad, Croatia a Slofenia, sy’n defnyddio maint ardal cyfartal ar draws nifer o etholaethau. Canlyniad hyn yw bod eu hardaloedd etholiadol yn dilyn ffiniau annaturiol, rhywbeth sy’n destun cynnen ar hyn o bryd yng Nghroatia.[18] O ystyried hyn, credwn nad oes angen y fath anhyblygrwydd ynghylch nifer yr aelodau etholedig fesul etholaeth. Bydd hyn ond yn cyfyngu ar yr adolygiad o’r ffiniau sydd i’w gynnal ar ôl etholiadau’r Senedd yn 2026.

Rhannu Swyddi

Mae’r gofynion yn y Bil i’r Senedd nesaf bleidleisio ar gynnig i sefydlu pwyllgor i ymchwilio i rannu swyddi i’w croesawu, ond mae’n ein gadael ni unwaith eto heb gyfle i fanteision rhannu swyddi gael eu gwireddu yn y Senedd nesaf. Gwnaeth y Panel Arbenigol argymhellion ynghylch trefniadau i ASC rannu swyddi yn 2017, a bron i ddegawd yn ddiweddarach ni fyddwn wedi gwneud llawer o gynnydd ymarferol ar y mater hwn.[19] Edrychodd y Pwyllgor ar Ddiwygio’r Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ar rannu swyddi mewn gwahanol lefelau o ddyfnder, ond dywedwyd bod angen ystyriaeth bellach. Mae rhannu swyddi ar gyfer aelodau cabinet mewn prif gynghorau eisoes yn digwydd, ac wedi cael ei ystyried yn eithaf llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd.

Mae gennym nifer o bryderon ynghylch y dull a awgrymir ar gyfer unrhyw drafodaeth ar rannu swyddi yn y dyfodol. Dim ond yn dilyn etholiad Senedd 2026 i sefydlu pwyllgor y mae’r ddeddfwriaeth fel y’i drafftiwyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynnig gael ei gyflwyno. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai’r cynnig hwnnw’n cael ei basio gan y Senedd. Mae yna hefyd gyfyngiadau yn y ddeddfwriaeth o ran y pwyllgor hwnnw pe bai’n cael ei sefydlu. Er y bydd yn ofynnol adrodd ar rannu swydd a chyflenwi dros-dro pe na bai aelod ar gael, ychydig iawn o sicrwydd sydd bod y gwaith hwn yn helaeth. Yn yr un modd, er bod y ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad gael ei gyflwyno a bod Gweinidogion Cymru’n ymateb, nid oes unrhyw sicrwydd y caiff yr argymhellion hyn eu gweithredu. Mae gennym bryderon bod hyn yn mynd i olygu gohirio pellach mater sydd eisoes wedi bod yn destun cryn drafod mewn amryw bwyllgorau’r Senedd ac a gefnogir gan ystod o sefydliadau trydydd sector ac academyddion.

Cyfnodau’r Senedd

Rydym yn cefnogi symud yn ôl i gyfnodau pedair blynedd ar gyfer y Senedd, sy’n golygu bod yr etholwyr yn gallu dewis eu cynrychiolwyr yn amlach. Mae’r penderfyniad hwn i ddychwelyd i’r drefn cyn 2011 yn rhesymegol o ystyried bod y broblem o wrthdaro ag etholiadau seneddol y DU wedi newid gyda chyflwyniad y Bil Diddymu a Galw’r Senedd (y DU), a ddirymodd Ddeddf Seneddau Cyfnod Penodol 2011, gan ddileu’r cyfnod o bum mlynedd rhwng Etholiadau Senedd y DU.[20] Ochr-yn-ochr â’r darpariaethau i newid etholiadau Senedd Cymru i bob pedair blynedd, dylai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried gwneud y newid hwn ar gyfer etholiadau lleol. Dylai’r etholwyr gael llais cyson o ran eu cynrychiolwyr ar lefel leol.

Mecanwaith ar gyfer is-etholiadau

Mae’r darpariaethau ar gyfer llenwi seddi gweigion yn gyson â’r rheolau presennol ynghylch swyddi gwag pan fo aelod sydd wedi’i ethol ar y rhestr ranbarthol yn rhoi’r gorau iddi, yn cael ei ddiarddel neu’n marw, gyda’r person nesaf ar y rhestr yn cymryd y sedd wag yn y rhan fwyaf o achosion. Mae hyn yn amlygu’r angen i bleidiau gynnig rhestr lawn ym mhob etholaeth os gallant.

Rydym yn pryderu am y diffyg darpariaeth ar gyfer protocol ynghylch Aelodau’r Senedd sy’n newid pleidiau neu’n gadael plaid i ddod yn aelod annibynnol, fel y manylir ym mharagraff 265 ar dudalen 73 o’r Memorandwm Esboniadol.[21] O ystyried, o dan system gynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr gaeedig, y bydd pleidleiswyr yn pleidleisio’n benodol dros blaid nid ar gyfer ymgeiswyr unigol, mae hyn yn codi amheuaeth ynghylch cyfreithlondeb y mandad gan eu hetholwyr yn achos unrhyw Aelod sy’n newid plaid yn ystod cyfnod  y Senedd.

Er bod hwn yn ddigwyddiad cymharol anghyffredin hyd at 2016, gyda dim ond pedwar Aelod o’r Senedd yn newid plaid yn ystod pedwar cyfnod cyntaf y Senedd (1999 – 2016), ym mhumed cyfnod y Senedd (2016 – 2021) newidiodd naw Aelod eu pleidiau, a hynny 19 o weithiau. Etholwyd pob un o’r ASC dan sylw o dan y rhestr ranbarthol, gan ddefnyddio’r system gynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr gaeedig lle mae pleidleiswyr yn bwrw eu pleidlais dros blaid nid ymgeisydd unigol. Newidiodd chwech o’r naw Aelod hyn bleidiau sawl gwaith yn ystod y pumed Senedd, gyda’r Aelod o’r Senedd ar y pryd Mark Reckless yn newid teyrngarwch bedair gwaith. Hyd yma mae 87% o’r achosion o Aelodau’r Senedd yn newid pleidiau yn ystod cyfnod y Senedd wedi bod yn rhai a etholwyd trwy’r rhestr ranbarthol (20 o’r 23 digwyddiad), gyda’r rhestr ranbarthol ar hyn o bryd yn cynrychioli dim ond ⅓ o aelodaeth y Senedd. Gallai’r sefyllfa hon waethygu wrth i ni symud i system PR rhestr gaeedig 100% a fyddai’n golygu bod pleidleiswyr yn cael eu cynrychioli gan blaid na wnaethant bleidleisio drosti. Byddai symud i system restr hyblyg yn rhoi mwy o fandad personol i ymgeiswyr ac yn lleddfu rhywfaint ar y sefyllfa hon.

Adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar ôl etholiad 2026

Roeddem yn falch o weld gofyniad yn y Bil i adolygu’r ddeddfwriaeth ar ôl etholiadau’r Senedd yn 2026. Credwn y dylai’r adolygiad hwn fod mor eang â phosibl o ran cwmpas, a chroesawn y ffiniau a amlinellir ym Memorandwm Esboniadol y Bil.

Hefyd credwn y gallai fod rôl i egwyddorion ychwanegol gael eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd y newidiadau a gyflwynir yn y Bil. Er enghraifft, nododd y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol chwe egwyddor i arwain y rhaglen hirdymor o ddiwygio etholiadol; tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwella profiad dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb.[22] Yn yr un modd, yn 2017 cymerodd y Panel Arbenigol ymagwedd oedd yn seiliedig ar egwyddorion o asesu systemau etholiadol gwahanol yn ei waith; roedd y rhain yn cwmpasu 10 maes: atebolrwydd ac effeithiolrwydd y llywodraeth, cymesuredd, atebolrwydd aelodau, statws cyfatebol, amrywioldeb, dewis pleidleiswyr, mandadau cyfatebol, ffiniau, symlrwydd, cynaladwyedd ac addasrwydd.[23]

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi y dylai’r adolygiad hefyd ystyried “i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru”.[24] Mae’r adroddiad Diffinio, Mesur, a Monitro Iechyd Democrataidd yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi amlinellu gwahanol fetrigau y gellid eu defnyddio i wneud hyn. Gallai hyn fod trwy gynnwys casglu data sy’n benodol i Gymru mewn prosiectau rhyngwladol fel y prosiect Amrywiaethau o Ddemocratiaeth (V-Dem) neu trwy ddata sydd eisoes wedi’i gasglu ar lefel Cymru fel metrigau o amgylch Llesiant Cymru yn yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru neu ddata o Astudiaeth Etholiadol Cymru.[25] Mae’n debygol y bydd set ddata gynhwysfawr sy’n cwmpasu pob agwedd ar iechyd democrataidd yng Nghymru yn cynnwys cyfuniad o arolygon/prosiectau sy’n bodoli eisoes a chomisiynu casglu data newydd.[26] Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad hwn, a meddwl pa ddata ychwanegol y gallai ei gomisiynu neu ei gynhyrchu ynghylch etholiadau. Er enghraifft, mae’r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil yn cynnwys y ganran a bleidleisiodd fel mesur y gellid ei ystyried. Byddem yn cefnogi’r syniad o ddadgyfuno hyn gan ddefnyddio data demograffig, fel sy’n digwydd yng Ngwlad yr Iâ.[27]  Credwn ei bod yn synhwyrol cysylltu’r data hwn ag adolygiad o drefniadau etholiadol y Senedd.

Sylwadau Ychwanegol

Mae gweithrediad llwyddiannus y Bil hwn yn dibynnu ar gyfathrebu da. Bydd cynllunio etholiadol da a phrofion trwyadl yn hanfodol yn nes at yr etholiad, yn ogystal ag ymgysylltu ehangach â’r cyhoedd ynghylch y newidiadau hyn.

Mae amrywiaethau etholiadol parhaus rhwng systemau ar draws y DU yn golygu bod ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu’n hanfodol, yn enwedig pan fydd y newidiadau yn y Bil hwn yn cael eu hystyried ochr-yn-ochr â’r rhai yn y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Er na ddylai gwahaniaethau etholiadol fod yn rhwystr i wella etholiadau datganoledig a gwneud newidiadau i’r Senedd, mae’n cynyddu’r angen am gyfathrebu effeithiol â phleidleiswyr.

Mae cyfathrebu clir a chydgysylltiedig o’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno cyn etholiadau’r Senedd yn 2026 yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu denu ar y daith honno. Bydd hyn yn golygu gweithio ar draws Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a’r bil sydd ar ddod ar gwotâu rhywedd i ddarparu naratif clir sy’n cwmpasu’r holl newidiadau i ddemocratiaeth Cymru ar gyfer pleidleiswyr.

[1] https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/size-matters/

[2] https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn03018/

[3] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf

[4] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf

[5] https://senedd.wales/laid%20documents/cr-ld13452/cr-ld13452%20-e.pdf

[6] https://senedd.wales/media/5mta1oyk/cr-ld15130-e.pdf

[7] https://senedd.cymru/media/ixjdywtx/pri-ld16037-em-e.pdf Paragraff 184, t53.

[8] https://eprints.lse.ac.uk/62331/1/Hix_Open%20closed%20list_2016.pdf

[9] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf

[10] https://senedd.wales/laid%20documents/cr-ld13452/cr-ld13452%20-e.pdf

[11] https://senedd.wales/media/5mta1oyk/cr-ld15130-e.pdf

[12] https://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/contents

[13] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf

[14] https://www.santiagoolivella.info/pdfs/es2013.pdf

[15] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf

[16] https://senedd.cymru/media/5mta1oyk/cr-ld15130-e.pdf, t37.

[17] https://senedd.wales/media/ixjdywtx/pri-ld16037-em-e.pdf

[18] https://analihpd.hr/en/hrvatske-muke-po-izbornim-jedinicama-sto-ne-valja-s-vladinim-rjesenjem/

[19] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf

[20] https://bills.parliament.uk/publications/41467/documents/206

[21] https://senedd.wales/media/ixjdywtx/pri-ld16037-em-e.pdf

[22] https://www.gov.wales/consultation-electoral-administration-and-reform-white-paper-html

[23] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf

[24] Paragraff 201 https://senedd.cymru/media/ixjdywtx/pri-ld16037-em-e.pdf

[25] https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2023/10/Defining-Measuring-and-Monitoring-Democratic-Health-in-Wales-REPORT.pdf

[26] Ibid.

[27] https://www.hagstofa.is/utgafur/frettasafn/kosningar/althingiskosningar-29-oktober-2016/

Darllen mwy o bostiadau...