Hefyd ar gael yn: English

Tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Wedi'i bostio ar y 17th Tachwedd 2023

Mae ERS Cymru yn croesawu Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Rydym yn gefnogol i’r syniad o ddod ag etholiadau yng Nghymru i’r oes fodern a’r nod o ddileu rhwystrau i bleidleiswyr. Mae’n briodol, gyda datganoli etholiadau i Gymru, ein bod yn ystyried sut y gallwn greu democratiaeth sydd wir yn gweithio i bobl Cymru.

Mae’n bwysig bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweld fel pecyn ehangach o ddiwygio democrataidd gyda Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ac unrhyw ddeddfwriaeth sydd ar ddod ynghylch cwotâu rhywedd.

Rydym wedi amlinellu ein barn ar rai o brif feysydd y Bil isod.

Bwrdd Rheoli Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru gorff penodol i oruchwylio democratiaeth. Er bod Llywodraeth Cymru a’r Senedd fel sefydliad yn ymgymryd â nifer o weithgareddau yn ymwneud ag etholiadau ac ymgysylltu â’r cyhoedd, dylai goruchwyliaeth fod ar sail hyd braich. Gallai hyn fod ar ffurf corff a fyddai’n cymryd golwg strategol ar ddemocratiaeth, gan gynnwys yn ystod etholiadau. Mae gan greu Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru (CFfDC) fel rhan o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) y potensial i lenwi’r bwlch hwn.

Rydym wedi galw o’r blaen am greu Bwrdd Rheoli Etholiadol (BRhE) ac rydym yn falch o weld darpariaethau ar gyfer ei sefydlu yn y Bil hwn. Mae’n rhesymegol y dylai’r BRhE fod yn rhan o CFfDC.

Un peth a fydd yn allweddol i lwyddiant y BRhE newydd, ac yn wir CFfDC, yw ymgysylltiad â rhanddeiliaid a phartneriaid. Ers ymestyn yr hawl i bleidleisio, mae amryw o rwydweithiau wedi’u sefydlu i ddod â phartneriaid sy’n gweithio gyda grwpiau sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio neu’r rhai sy’n llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio ynghyd. Mae ERS Cymru yn cydlynu Grŵp Democratiaeth Cymru, sef rhwydwaith o tua 50 o fudiadau ledled Cymru, sy’n gweithio i ddod â mudiadau sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â democratiaeth ac etholiadau ynghyd, yn ogystal â rhannu arfer gorau a datblygiadau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnull Grŵp Partneriaeth Ymgysylltu Democrataidd. Er y gall y grwpiau hyn ddal ati neu ddod i ben yn sgil creu CFfDC a’r BRhE, mae’n hanfodol bod y mathau hyn o rwydweithiau’n parhau i fodoli. Er enghraifft, mae’r ddeddfwriaeth yn darparu bod y BRhE yn cynnwys Comisiynydd o’r CFfDC (i weithredu fel Cadeirydd), gydag aelodau eraill yn cynnwys Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau. Nid ydym yn anghytuno â hyn, ond bydd ymgysylltiad y bwrdd â’r trydydd sector, sy’n aml yn cynrychioli grwpiau sydd naill ai newydd gael yr hawl i bleidleisio neu’n llai tebygol o fod wedi’u cofrestru, yn hollbwysig. Dylid mabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig.

O ran swyddogaethau’r BRhE, fel y nodwyd gennym yn ein hymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Etholiadol a Gweinyddiaeth ym mis Ionawr 2023, dylai casglu a chyhoeddi data fod yn un o’i gyfrifoldebau.[1] Mae cyhoeddi data ynghylch canlyniadau etholiadau yn yr Alban yn llawer mwy cyson ar hyn o bryd nag yng Nghymru. Er enghraifft, ar ôl etholiadau lleol 2022, cyhoeddodd awdurdodau lleol yn yr Alban eu data ar ganlyniadau etholiadau gan ddefnyddio’r un profforma, tra yng Nghymru roedd y data a gyhoeddwyd mewn fformat gwahanol ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol. Mae cyhoeddi data yn un maes lle credwn y gallai Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer Cymru fabwysiadu ymagwedd Cymru-gyfan. Byddai dull cyson yn golygu bod y canlyniadau’n gliriach a bod yr holl ddata perthnasol yn cael ei gyhoeddi gan bob awdurdod lleol. Byddai hefyd yn darparu lleoliad i gyhoeddi data ar ganlyniadau cyffredinol, fel y mae BRhE yr Alban yn ei wneud ar hyn o bryd.

Cofrestru etholiadol heb wneud cais

Rydym yn croesawu’r darpariaethau yn y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chofrestru etholiadol heb orfod gwneud cais. Bydd symleiddio cofrestru etholiadol ar gyfer pleidleiswyr yn mynd gryn lawer o’r ffordd i gael gwared ar rwystrau i’n democratiaeth. Fel y mae’r Comisiwn Etholiadol wedi canfod, mae tua 260,000 o etholwyr cymwys yng Nghymru heb gofrestru i bleidleisio, sef bron i 10%.[2] Mae data hefyd yn dangos bod rhai grwpiau’n llai tebygol o fod wedi’u cofrestru nag eraill, gyda phobl ifanc, dinasyddion yr UE a phobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar a’r rhai yn y sector rhentu preifat ymhlith y rhai lleiaf tebygol.[3]

Bydd cofrestru etholwyr cymwys heb iddynt orfod gwneud cais yn gwneud y sefyllfa’n gyfartal, ond mae’n hanfodol bod cofrestru awtomatig yn cael ei weinyddu’n effeithiol. Felly, rydym yn croesawu’r syniad o gyfnod peilot a gwerthuso.

Mae yna lawer o gwestiynau y gellir mynd i’r afael â nhw yn ystod y cyfnod hwn. Er ein bod wedi sylwi y bydd Hysbysiad Cofrestru yn cael ei anfon at etholwyr cymwys pan gânt eu hychwanegu at y gofrestr, nid yw’n glir pryd y gall pobl ddisgwyl hysbysiad o’r fath. O ystyried hyn, mae’n bwysig bod Gweinidogion yn nodi sut y bydd pobl yn ymwybodol os ydynt wedi cael eu methu o’r gofrestr heb broses ymgeisio? Rydym wedi galw o’r blaen am ffordd hygyrch a hawdd i wirio a ydych chi wedi cofrestru, yn ddelfrydol trwy borth ar-lein, a byddem yn gobeithio y bydd ffordd o gyflawni hyn yn cael ei datblygu.

Byddem hefyd yn awgrymu y dylid anfon llythyr cyn unrhyw etholiadau datganoledig yn atgoffa pob unigolyn eu bod wedi cofrestru, dyddiad yr etholiad a chyfeirio pobl at ragor o wybodaeth cyn bwrw eu pleidlais. Anfonir llythyr tebyg at drigolion Estonia, lle caiff pleidleiswyr eu cofrestru’n awtomatig (CPA), cyn etholiadau. Rydym wedi darparu copi o’r llythyr diweddaraf i’r Pwyllgor ochr-yn-ochr â’r dystiolaeth ysgrifenedig hon.

Rydym yn cytuno’n gryf â dileu’r gofrestr agored ar gyfer etholiadau datganoledig. Byddai’r cyfuniad o system CPA a chofrestr etholiadol agored yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer twyll a thanseilio preifatrwydd oherwydd y posibilrwydd cynyddol o gysylltiadau data’n cael eu gwneud rhwng Gwybodaeth Adnabyddadwy Bersonol a gedwir ar y systemau. Yn ogystal â hynny, mae gwerthu’r cofrestrau etholiadol agored yn arfer cyffredin ar hyn o bryd, a dylid cyfyngu ar hynny oherwydd y posibilrwydd o gamddefnydd a thorri rheolau preifatrwydd. Byddai dileu’r gofrestr agored o dan CPA yn lliniaru’r peryglon hyn. Ni ddylai data pobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio fod ar werth yn fasnachol ac ni ddylai fod er elw. Rhoddir y data a ddarperir yn ddidwyll fel y gall aelod o’r boblogaeth gymryd rhan weithredol yn y broses ddemocrataidd o bleidleisio.

Mae’r darpariaethau yn y Bil i ganiatáu gwneud cais am gofrestriad dienw yn ystod y cyfnod rhybudd o 45 diwrnod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cofrestru dienw yn dal yn bosibl o dan system lle nad oes angen gwneud cais. Mae’n hanfodol bod gwybodaeth am sut i wneud cais am gofrestriad dienw yn glir a bod y broses mor syml â phosibl. Nid yw’n glir o’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil a fyddai angen ailymgeisio am gofrestriad dienw yn flynyddol, fel sy’n digwydd gyda’r dull presennol o dan y broses Cofrestru Etholiadol Unigol. Hefyd a fyddai’r weithdrefn bresennol o Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn anfon nodyn atgoffa blynyddol i ailymgeisio am gofrestriad dienw yn parhau ar waith ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru’n ddienw.[4] Mae’r prosesau a’r rhwydi diogelwch hyn yn dod yn fwyfwy hanfodol o dan system CPA ac felly mae cyfathrebu’n allweddol, yn enwedig gan y gallai rhai o’r bobl yr effeithir arnynt fod wedi osgoi cofrestru i bleidleisio o’r blaen.

Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch ffurf y cynlluniau peilot ar gyfer cofrestru awtomatig. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am hyn cyn gynted â phosibl. Gallai fod yn ddefnyddiol cynnal cynlluniau peilot sy’n targedu grwpiau a dangynrychiolir yn draddodiadol a’r rhai sy’n debygol o fod yn anodd eu cofrestru neu ddilysu adnabyddiaeth, er enghraifft, rhentwyr preifat, myfyrwyr a phobl heb gartref sefydlog. Byddai’n fuddiol asesu pa mor dda y mae CPA yn gweithio yn y cyd-destunau hyn. Gellid hefyd treialu CPA o fewn ardal awdurdod lleol ac yna gwneud cymhariaeth rhwng cyflawnrwydd y gofrestr yno ag awdurdod lleol nad yw’n defnyddio CPA.

Cynlluniau Peilot ar gyfer Etholiadau yng Nghymru

Rydym wedi croesawu ers tro’r syniad o dreialu a phrofi gwahanol arloesiadau etholiadol yng Nghymru. Mae gan lawer o wledydd ar draws y byd agwedd wahanol at ddemocratiaeth, a bydd cynlluniau peilot pellach yng Nghymru yn caniatáu i ni archwilio a fyddai arloesedd o’r fath yn cryfhau democratiaeth Cymru. Roedd y cynlluniau peilot yn 2022, er eu bod yn gyfyngedig o ran nifer a gwasgariad daearyddol, yn dangos y gellid cyflwyno prosesau fel cofrestrau electronig sy’n caniatáu i bleidlais gael ei bwrw y tu allan i orsaf bleidleisio arferol pleidleisiwr, a bod â gorsaf bleidleisio ar agor am sawl diwrnod yn hytrach na diwrnod yr etholiad yn unig. Mae bellach yn bryd adeiladu ar y profiad hwn.

Mae’r darpariaethau ar gyfer cynlluniau peilot pellach yn y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig yn mynd ymhellach na’r darpariaethau presennol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Croesawn y datblygiad hwn gan fod y ddeddfwriaeth hon yn llawer mwy cynhwysfawr ac yn caniatáu ar gyfer cynnal ystod ehangach o gynlluniau peilot. Rydym hefyd yn croesawu’r darpariaethau cryfach ynghylch pwy all awgrymu cynlluniau peilot, sy’n caniatáu ar gyfer llawer mwy o oruchwyliaeth a chydweithio.

Mae’r pŵer i orfodi cynllun peilot yn rhywbeth yr ydym hefyd yn ei gefnogi. Roedd pob un o’r pedwar awdurdod lleol a ddewisodd gymryd rhan yn y cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw yn 2022 yn dod o ardaloedd mwy trefol canol de Cymru a’r de-ddwyrain, ac yn weddol fach o ran arwynebedd tir.[5] Byddai cyfarwyddyd pŵer a fyddai’n galluogi Gweinidogion Cymru i orfodi awdurdod lleol i dreialu arloesiadau etholiadol yn arf da i ehangu’r ardaloedd dan sylw a sicrhau cydbwysedd ar draws daearyddiaeth a demograffeg y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Gellid targedu cynlluniau peilot i ddatrys materion penodol, er enghraifft cynyddu opsiynau pleidleisio yng nghymunedau gwledig mwy gwasgaredig Cymru, at yr awdurdodau lleol hynny a fyddai’n gweddu orau i’r gofynion hyn. Byddai angen sicrhau bod cymorth ac adnoddau ar gael fel na fyddai unrhyw awdurdod lleol dan anfantais yn sgil bod yn rhan o gynlluniau peilot yn y dyfodol. Mae’n allweddol hefyd nad gorfodi cynllun peilot yw’r pwynt cyswllt cyntaf o ran gweithio gydag awdurdod lleol i sicrhau bod cynllun peilot yn cael ei gynnal. Dylai sgyrsiau ag awdurdodau lleol fod yn adeiladol a dechrau yn llawer cynharach yn y cylchred etholiadol na chyn etholiadau 2022.

Yr her sy’n perthyn i newid y ffordd y gall pobl bleidleisio bob amser fydd y ffordd orau o gyfleu hynny i’r cyhoedd. Yn ystod cynlluniau peilot 2022, o ystyried y nifer fach o ardaloedd a gymerodd ran a’r amserlen fer ar gyfer cynllunio, roedd yn anodd rhoi gwybod i bobl bod ganddyn nhw gyfle i bleidleisio mewn gwahanol leoedd ac ar ddiwrnodau gwahanol. Yn wir, dim ond 22-30% o bobl a ddywedodd eu bod yn ymwybodol y gallent bleidleisio cyn diwrnod yr etholiad ar draws ardaloedd y cynllun peilot, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.[6] Pe bai hyn yn cael ei gyflwyno mewn cynlluniau peilot pellach, mewn ardaloedd ehangach neu ar raddfa genedlaethol, byddai angen ymgyrch gyfathrebu lawer mwy, a allai fod yn haws mewn egwyddor o ystyried y gallai gael ei thargedu’n ehangach. Dylai ymgyrch gyfathrebu hefyd ddechrau yn llawer cynharach yn y cylchred etholiadol. Dylai’r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr y darperir ar ei gyfer yn y ddeddfwriaeth hon hefyd gynnwys gwybodaeth am hyn, er enghraifft cysylltu ag estyniad o lwyfan ble ydw i’n pleidleisio’r Clwb Democratiaeth.

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 26ain Hydref, cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol na fyddai unrhyw gynlluniau peilot cyn 2026 ac eithrio ar gyfer cynlluniau peilot ynghylch cofrestru awtomatig. Byddai’n ddefnyddiol cael gweld a fydd rhagor o gynlluniau peilot ar gyfer yr etholiadau yn 2026 a 2027.

Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi trefniadau ar waith gyda’r nod o wella amrywioldeb yn y Senedd ac ymhlith aelodau llywodraeth leol

 Ar y cyfan, rydym yn cefnogi’r mesurau i wella amrywioldeb mewn swyddi etholedig yn y Bil hwn. Edrychwn ymlaen at gyflwyno deddfwriaeth ynghylch cwotâu rhywedd, i weld pa feysydd eraill sy’n cael eu hystyried mewn perthynas ag amrywioldeb.

Dyletswydd i gynorthwyo pleidleiswyr anabl

Rydym yn cefnogi’r egwyddor o osod dyletswydd ychwanegol ar y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag adrodd ar y camau a gymerwyd gan Swyddogion Canlyniadau mewn etholiadau i gynorthwyo pobl anabl yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Fodd bynnag, dylai’r Comisiwn ymgysylltu’n briodol â mudiadau anabledd a phleidleiswyr anabl i asesu’r ffordd orau o wneud hyn yn ymarferol. Mae’n bwysig bod y newidiadau hyn yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol i’r rhai yr effeithir arnynt fel eu bod yn gwybod bod mwy o gymorth ar gael.

Rydym hefyd yn cefnogi is-ddeddfwriaeth i ddarparu offer i helpu pobl anabl allu pleidleisio’n annibynnol, a chredwn y dylid cyd-gynhyrchu’r canllawiau i wneud hyn gyda’r rhanddeiliaid allweddol hynny y mae deddfwriaeth o’r fath yn effeithio arnynt.

Mae cwestiwn hefyd a fyddai’r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr sydd yn y Bil yn gallu cynnal gwybodaeth am hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio neu’r offer a ddarperir mewn gorsafoedd unigol. Gallai hyn symleiddio mynediad i wybodaeth ar gyfer pleidleiswyr anabl.

Amrywioldeb cynrychiolaeth mewn swyddi etholedig

Rydym yn croesawu’r darpariaethau yn adran 29 o’r ddeddfwriaeth i ffurfioli’r hyn y cyfeirir ati ar hyn o bryd fel y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig. Gall ymgeiswyr anabl wynebu costau ychwanegol, a bydd angen cymorth ychwanegol arnynt wrth sefyll am swydd etholedig. Felly, rhaid parhau â chynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl i oresgyn rhwystrau. Gobeithiwn y gall y cynllun adeiladu ar lwyddiant cynlluniau peilot 2021 a 2022 a bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad o’r gronfa, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf eleni.[7]

Mae adran 29 o’r Bil hefyd yn darparu ar gyfer rhoi cynlluniau cymorth ariannol ar waith i gynnig cefnogaeth i eraill sydd â nodweddion neu amgylchiadau penodedig. Rydym yn cefnogi’r ehangu hwn ar feini prawf ar gyfer cymorth ariannol ac rydym wedi galw ers tro am ymestyn y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig neu am gyflwyno cynllun tebyg, ehangach. Er enghraifft, byddai talu costau gofal plant yn ystod ymgyrch yn ddefnyddiol i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofal plant. Dylid cynnal asesiad o ba gostau sy’n creu rhwystrau i ymgeiswyr, a byddai’n ddefnyddiol cael asesiad gan Lywodraeth Cymru ar ba gynlluniau penodol y gallent fod yn eu hystyried cyn etholiadau 2026 a 2027.

Yn fwy cyffredinol, o ran adran 28 o’r ddeddfwriaeth, rydym yn cefnogi’r ddyletswydd sy’n cael ei gosod ar Weinidogion Cymru i roi darpariaethau ar waith i wella amrywioldeb a chynrychiolaeth cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru. Rydym hefyd yn croesawu bod hyfforddi a mentora wedi’u nodi’n benodol fel maes cymorth yn y Bil. Mae gan gynlluniau fel y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal ran allweddol i’w chwarae wrth annog ystod ehangach o lawer o bobl i sefyll etholiad.

Un peth a fydd yn hollbwysig i wella amrywioldeb cynrychiolaeth mewn swyddi etholedig yng Nghymru fydd y ddarpariaeth o ddata. Rhaid gwella’r broses o gasglu data er mwyn deall ble mae bylchau ar hyn o bryd a ble mae cynnydd yn cael ei wneud. Rydym yn rhoi sylw pellach i’r pwynt hwn yn ein tystiolaeth yn ymwneud â hyblygrwydd yr arolwg o ymgeiswyr ar gyfer llywodraeth leol, ac rydym yn aros am ragor o fanylion ynghylch pa fesurau sy’n debygol o fod o fewn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod ynghylch cwotâu rhywedd ar hyn. Mae arolwg neu gasgliad o ddata am ymgeiswyr ar gyfer y Senedd hefyd yn hanfodol, a gobeithiwn y bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn rhyw ffordd yn y ddeddfwriaeth sydd i ddod.

Caniatáu mwy o hyblygrwydd yn yr arolwg ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol

Rydym yn cytuno’n gryf â’r darpariaethau i wella hyblygrwydd yr arolwg ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol drwy ddileu’r gofyniad i eiriad a ffurf benodol yr arolwg fod yn y rheoliadau. Dim ond 12% a gyfranogodd yn yr arolwg diwethaf ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol yng Nghymru; 19% o ymgeiswyr ar gyfer cynghorau sir gymerodd ran.[8] Roedd y gyfradd ymateb isel yn rhannol oherwydd bod yr arolwg wedi’i ohirio o ganlyniad i’r cymhlethdodau ychwanegol wrth ei ddiwygio o ystyried y geiriad a ddarparwyd ar ei gyfer yn y rheoliadau.

Dylid cymryd camau hefyd i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan y tro nesaf. Nid ydym yn glir ar hyn o bryd a fydd mesurau i gasglu gwell data am ymgeiswyr yn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod ynghylch cwotâu rhywedd. Rydym wedi dadlau ers tro bod casglu a chyhoeddi data demograffig ar gyfer ymgeiswyr yn hanfodol i fesur effeithiolrwydd darpariaethau i gynyddu amrywioldeb ein cynrychiolwyr etholedig. Os yw’r mesurau hyn wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth sydd i ddod, yna byddem yn croesawu gwybodaeth am sut y byddai hynny’n rhyngweithio â’r arolwg ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol. Os nad yw’r mesurau hynny wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth sydd i ddod, neu os nad ydynt mor gryf ag yr hoffem o ran ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr rannu neu i bleidiau gasglu’r wybodaeth hon, rhaid gwneud llawer mwy i wella’r nifer sy’n cymryd rhan yn yr arolwg ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol. Dylid datblygu arolwg tebyg hefyd ar gyfer etholiadau’r Senedd.

Mynnu llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr a all gynnal gwybodaeth am ymgeiswyr a phleidleiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd a phrif etholiadau cyffredin cynghorau

Yn dilyn etholiadau lleol 2022 cynhaliodd Grŵp Democratiaeth Cymru, a hwyluswyd gan ERS Cymru a’r Prosiect Gwleidyddiaeth, weithdy gydag aelodau i nodi pa fesurau y gellid eu cyflwyno i hybu ymgysylltiad mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Roedd llawer o’r argymhellion a luniwyd ar y cyd yn y sesiwn hon yn ymwneud â gwybodaeth ac addysg i bleidleiswyr. Er bod llawer o wahanol sefydliadau ledled Cymru yn cynhyrchu ystod o adnoddau da iawn ar ddemocratiaeth ac etholiadau, nid oes un man penodol y gall pleidleiswyr fynd iddo i gael mynediad hawdd at yr holl wybodaeth hon.

Byddai llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr yn darparu ‘siop un stop’ i bleidleiswyr weld gwybodaeth am etholiadau ar wefan hygyrch a hawdd ei chwilio, er enghraifft ar url penodol ‘pleidleisio.cymru’.

O ran pa wybodaeth y dylai’r wefan hon ei chynnwys neu gyfeirio ati, mae nifer o feysydd penodol y gwyddom yr hoffai pleidleiswyr gael rhagor o wybodaeth amdanynt.

Y meysydd sylfaenol hynny fyddai:

  • Cofrestru – sut i gofrestru i bleidleisio, neu yn achos cyflwyno cofrestru awtomatig, cyfeirio at sut i wirio a ydych wedi cofrestru
  • Beth mae’r etholiad yn ei gylch – e.e. beth mae’r Senedd yn ei wneud, sut mae’n berthnasol i Lywodraeth Cymru a beth yw rôl Aelodau’r Senedd
  • Pwy yw’r ymgeiswyr – gyda dolen i ddatganiadau personol
  • Y broses o fwrw pleidlais – sut i ddod o hyd i orsaf bleidleisio, gwahanol opsiynau pleidleisio a beth i’w ddisgwyl ym mhob un (e.e. beth allwch chi ei ddisgwyl mewn gorsaf bleidleisio a sut i fwrw pleidlais yno)
  • Ble i geisio cyngor a chymorth – byddai hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cwestiynau am hygyrchedd

Mae rhywfaint o’r wybodaeth hon yn bodoli eisoes, er enghraifft mae’r Clwb Democratiaeth yn cynnig gwasanaeth dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio, ynghyd â theclyn chwilio i ddarganfod pwy yw eich ymgeiswyr. Mae gan y Comisiwn Etholiadol a’r Senedd rai adnoddau da ar wahanol etholiadau. Mae’r Democracy Box hefyd wedi amlinellu stori democratiaeth y dylai pob dinesydd fod yn gyfarwydd â hi. Dylai’r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ddod â hyn i gyd at ei gilydd mewn un lle.

O ystyried bod rhywfaint o’r wybodaeth sydd ei hangen eisoes ar gael, byddai ymarfer mapio o gymorth mawr wrth gynllunio’r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr. Byddai’n syniad cynnwys y Prosiect Gwleidyddiaeth yn y gwaith mapio hwn, gan eu bod yn coladu llawer o’r adnoddau sy’n bodoli eisoes ar adeg etholiad. Dylid cynnal trafodaethau gyda’r rhai sy’n darparu’r wybodaeth bresennol hefyd er mwyn caniatáu ar gyfer cydweithredu – dylai’r platfform hwn ddefnyddio dull partneriaeth.

Rydym hefyd wedi gweld rhywfaint o brofi ar syniadau mewn rhai awdurdodau lleol, a chredwn y gallai fod yn fuddiol eu rhannu’n ehangach. Er enghraifft ym Merthyr ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2022 roedd datganiad ar gael ar gyfer llawer o’r ymgeiswyr, yn dweud pwy oedden nhw a pham eu bod eisiau bod yn gynghorydd. Byddai adeiladu ar waith safle https://whocanivotefor.co.uk/ y Clwb Democratiaeth, ble gellir gweld datganiadau rhai ymgeiswyr yn ddefnyddiol iawn pe bai’n cael ei gyflwyno ar lefel genedlaethol; fodd bynnag mae faint sydd ar gael yn amrywio o ardal i ardal. Er bod hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi, rydym hefyd yn ymwybodol o’r risgiau o ran yr hyn y gallai ymgeiswyr fod eisiau ei osod ar-lein mewn rhai achosion. Felly, dylid cynhyrchu canllawiau, er enghraifft o ran yr hyn y dylai datganiadau ymgeiswyr ei gynnwys a’r hyn na ddylent ei gynnwys, uchafswm geiriau a fformat.

Yng ngoleuni’r ffaith bod gan y mudiadau hyn eisoes lawer o’r cynnwys a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr, dylai pwy bynnag sy’n arwain ar gyflwyno’r llwyfan ymgysylltu â’r rhanddeiliaid hyn wrth fynd ati i ddatblygu’r llwyfan.

Mae yna gwestiwn hefyd o ran pwy sy’n cynnal ac yn rheoli’r llwyfan hwn. Ar hyn o bryd mae’r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer sefydlu a rheoli llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr. Yn ymarferol gallai hyn gael ei gyflawni gan y CFfDC neu gallai BRhE reoli elfennau ohono.

I grynhoi, rydym yn falch iawn o weld darpariaethau ynghylch llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr yn y Bil. Credwn yn gryf y gall hon fod yn broses barhaus, yn ddelfrydol ar waith ar gyfer etholiadau 2026 a 2027, ac y gellir adeiladu arni. Dylid ystyried hefyd sut y gall y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gael gafael ar well gwybodaeth i bleidleiswyr cyn etholiad. Felly, rydym yn croesawu darpariaethau yn y ddeddfwriaeth sy’n golygu y gall y wybodaeth ar y llwyfan fod ar gael heblaw drwy ddulliau electronig. Byddai ein hargymhelliad ar gyfer dogfen un-dudalen ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth i bleidleiswyr i’w hanfon at bob pleidleisiwr cymwys cyn yr etholiad, fel sy’n digwydd yn Estonia, yn mynd ymhell i ategu adnodd ar-lein. Gyda’i gilydd, byddai’r mesurau hyn yn darparu set gynhwysfawr o wybodaeth a chyfeirio ar gyfer pleidleiswyr cyn unrhyw etholiad.

Dal ymgeiswyr ac asiantau’n atebol am wariant tybiannol dim ond os yw hynny wedi’i gyfarwyddo neu ei awdurdodi, ac egluro rheolau ymgyrchu trydydd parti

Rydym yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod y trefniadau datganoledig yn cyd-fynd â newidiadau ar lefel y DU a wnaed yn Neddf Etholiadau 2022 Llywodraeth y DU.

Roeddem yn siomedig nad oedd mesurau i dynhau’r broses o reoleiddio cyllid gwleidyddol – fel yr argymhellwyd gan adroddiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (PSBC) ‘rheoleiddio cyllid etholiad’[9] – wedi’u cynnwys yn Neddf Etholiadau 2022.

Mae’n bwysig bod trefn gadarn a thryloyw ar gyfer cyllid gwleidyddol sy’n berthnasol i bleidiau ac i ymgyrchwyr heb rwystro dadl ddemocrataidd a chyfranogiad. I’r perwyl hwnnw rydym yn cefnogi argymhellion y PSBC a hoffem eu gweld yn cael eu gweithredu ar lefel y DU.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod potensial am ddryswch os yw’r fframwaith rheoleiddio yn amrywio ar gyfer gwahanol etholiadau. Er yr hoffem weld mwy yn cael ei wneud ar lefel y DU, mae’r newidiadau hyn yn gwneud synnwyr o ran sicrhau cysondeb ar draws etholiadau.

Sylwadau Ychwanegol:

STV

Er ein bod wedi croesawu’r Bil hwn a’i ymdrechion i gael gwared ar y rhwystrau y mae pleidleiswyr yn eu hwynebu, mae un diwygiad mawr ar goll o’r ddeddfwriaeth hon a allai drawsnewid democratiaeth Cymru mewn gwirionedd. Nid yw’r system bleidleisio bresennol ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol yn addas i’r diben ac mae dirfawr angen diwygio system bleidleisio llywodraeth leol.

Er bod cynghorau bellach yn gallu pleidleisio i symud i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), mae’r gofynion penodol i wneud hyn yn sicrhau mai dim ond y status quo sy’n cael ei gymell. Byddai cynghorau’n gorfod ysgwyddo’r gost eu hunain pe baent am symud i STV ar hyn o bryd.

Mae problemau sylweddol o fewn democratiaeth leol yng Nghymru gan gynnwys seddi diwrthwynebiad, canlyniadau anghymesur ac yn y pen draw pleidleiswyr yn teimlo nad oes ganddynt ddewis. Oni bai y caiff diwygiad llawn o’r system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru ei gychwyn, bydd yr anawsterau hyn yn parhau er gwaethaf y newidiadau cadarnhaol a geir yn y ddeddfwriaeth hon.

Cyfathrebu

Fel yr ydym wedi’i ddweud yn ein tystiolaeth ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio, mae cyfathrebu â phleidleiswyr ynghylch y newidiadau yn mynd i fod yn hollbwysig.

Mae cyfathrebu clir a chydgysylltiedig o’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno cyn etholiadau’r Senedd yn 2026 yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu denu ar y daith honno. Bydd hyn yn golygu gweithio ar draws y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a’r bil sydd ar ddod ar gwotâu rhywedd i ddarparu naratif clir sy’n cwmpasu’r holl newidiadau yn nemocratiaeth Cymru ar gyfer pleidleiswyr.

[1] https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/parliamentary-briefings/response-to-the-welsh-governments-electoral-reform-and-administration-white-paper-consultation/

[2] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/our-views-and-research/our-research/electoral-registration-great-britain-2022

[3] https://www.electoralcommission.org.uk/who-is-registered

[4] https://www.electoralcommission.org.uk/i-am-a/voter/register-vote/register-vote-anonymously

[5] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/our-views-and-research/our-research/advance-voting-pilots-evaluation

[6] Ibid.

[7] https://www.llyw.cymru/peilot-mynediad-swyddfa-etholedig-cymru

[8] https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2023-03/local-government-candidates-survey-2022_0.pdf

[9] https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/999636/CSPL_Regulating_Election_Finance_Review_Final_Web.pdf

Darllen mwy o bostiadau...