Hefyd ar gael yn: English

Opsiynau ar gyfer ethol Senedd amrywiaethol

Wedi'i bostio ar y 8th Ebrill 2022

Mae’r papur briffio hwn yn trafod nifer o’r systemau etholiadol gwahanol sy’n cael eu hystyried fel rhan o’r trafodaethau ar Ddiwygio’r Senedd; y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy a’r tri amrywiad o Gynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr – agored, lled-agored/hyblyg a chaeedig; ynghyd ag enghreifftiau o wledydd sydd wedi integreiddio cwotâu rhywedd o dan bob un o’r systemau etholiadol hyn.

Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) yw’r ffurf o gynrychiolaeth gyfrannol a ffafrir gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS). Fe’i defnyddir yn yr Alban ar gyfer etholiadau lleol; yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a rhai lleol; ac yng Ngweriniaeth Iwerddon ar gyfer etholiadau cyffredinol i Dail Éireann ac ar gyfer etholiadau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio deddfwriaeth sy’n caniatáu i gynghorau lleol Cymru symud i STV ar gyfer eu hetholiadau, ar ôl y set nesaf o etholiadau lleol ym mis Mai 2022.

Sut mae’n gweithio

Enghraifft o bapur pleidleisio STV o Etholiadau Lleol yr Alban

Mae nifer o ymgeiswyr yn cael eu hethol ar gyfer pob etholaeth, yn aml rhwng pedwar a phump, gan gynrychioli amrywioldeb barn ar draws ardal. Er mwyn cael ei ethol, mae angen nifer penodol o bleidleisiau ar ymgeisydd, a elwir yn gwota, sy’n seiliedig ar nifer y bobl sydd i’w hethol a nifer y pleidleisiau sy’n cael eu bwrw. Caiff unrhyw ymgeisydd sy’n derbyn mwy o bleidleisiau dewis cyntaf na’r cwota ei ethol, gydag unrhyw bleidleisiau dros ben y tu hwnt i’r cwota’n cael eu trosglwyddo i ail ddewis y pleidleiswyr a bleidleisiodd dros yr ymgeisydd hwn. Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn cyrraedd y cwota, caiff yr ymgeisydd lleiaf poblogaidd ei fwrw allan o’r etholiad, a chaiff pleidleisiau’r bobl a bleidleisiodd drostynt eu symud i’r ymgeisydd oedd yn ail ddewis iddynt. Bydd y broses hon yn parhau nes bod yr ymgeiswyr i gyd wedi cael eu hethol.

Pam STV?

Mae STV yn rhoi’r pŵer mwyaf posibl yn nwylo pleidleiswyr, ac mae’n system rwydd iawn iddynt ei defnyddio. Yn syml, mae pleidleiswyr yn gosod cymaint o ymgeiswyr ag y dymunant yn nhrefn blaenoriaeth, 1,2,3,4 a.y.b. Mae hyn yn caniatáu iddynt fynegi dewisiadau cynnil a nodi nid yn unig pa bleidiau sydd orau ganddynt ond yn aml hefyd pa ymgeiswyr o’r un blaid.

Sut i weithredu cwotâu rhywedd o dan STV

O’r gwledydd sy’n defnydio STV, Iwerddon oedd y gyntaf i basio deddf cwota rhywedd yn 2012.[1] Mae’r gyfraith yn cyfarwyddo pleidiau gwleidyddol i ddewis o leiaf 30 y cant o ymgeiswyr sy’n fenywod a 30 y cant o ymgeiswyr sy’n ddynion (fydd yn cynyddu i 40 y cant ar gyfer etholiadau o 2023 ymlaen). Mae peidio â gwneud hynny yn arwain at ildio 50 y cant o arian y Wladwriaeth y mae pleidiau gwleidyddol yn ei dderbyn yn flynyddol. Mae’r cwota wedi’i gynllunio i gymell pleidiau gwleidyddol i ddewis menywod fel ymgeiswyr, ond nid yw’n rhoi cyfarwyddyd iddynt ynghylch sut i wneud hyn. Mae pleidiau’n cadw eu hannibyniaeth o ran sut maen nhw’n penderfynu ar eu prosesau a’u gweithdrefnau ar gyfer dewis ymgeiswyr.[2]

O fewn pleidiau gwleidyddol yn Iwerddon, mae’r broses o ddethol ymgeiswyr yn gweithredu o fewn fframwaith hybrid o ‘ddethol yn lleol, ond gyda chymeradwyaeth genedlaethol’.

Yn 2016 cynyddodd nifer yr ymgeiswyr benywaidd 95 y cant o 15.2 y cant yn 2011 i 29.6 y cant yn 2016[3], gyda chynnydd o 47 y cant yn nifer y menywod a etholwyd o 15.1 y cant yn 2011 i 22.2 y cant yn 2016.[4] Mae hyn yn adlewyrchu’r newidiadau y gellir eu cyflawni mewn un cylchred etholiadol yn unig yn dilyn integreiddio cwotâu rhywedd, ond yn amlwg o fan cychwyn isel iawn, a chyda maint cwota cyfredol o 30 y cant. Nid oes ychwaith fecanwaith ar gyfer trefn benodol ar restrau wedi’i gynnwys yn y cwota, sy’n debygol o gael effaith ar nifer y menywod sy’n cael eu hethol mewn gwirionedd o ganlyniad i hyn. Yn etholiadau 2020 roedd nifer yr ymgeiswyr oedd yn fenywod yn uwch na’r cwota ar 31 y cant, ond ni chynyddodd nifer y menywod a etholwyd ond ychydig i 22.5 y cant.[5]

Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr

Mae cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr yn ffurf arall ar gynrychiolaeth gyfrannol. Nid yw’r system hon yn cael ei defnyddio yn y DU ar hyn o bryd, ond defnyddiwyd ffurf ohoni ym Mhrydain ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop, cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Sut mae’n gweithio

Fel sy’n digwydd gyda STV, mae nifer o ymgeiswyr yn cael eu hethol ar gyfer etholaeth, a’r nod yw cynrychioli amrywioldeb barn ar draws ardal. Mae yna wahanol fathau o system sy’n seiliedig ar restr, sy’n rhoi gwahanol lefelau o bŵer yn nwylo pleidleiswyr. Peth arall i’w ystyried yw’r dull o ddyrannu seddi o dan system etholiadol Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr – defnyddir dwy brif fformiwla etholiadol, sef dull D’Hondt a dull Sainte-Laguë.

Enghraifft o bapur pleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Gaeedig o Etholiadau Senedd Ewrop yn y DU

Mae dull D’Hondt fel arfer yn cynhyrchu canlyniadau llai cymesur na dull Sainte-Laguë, oherwydd bod y fformiwla etholiadol fel arfer yn ffafrio pleidiau mwy dros bleidiau llai. Pa ddull bynnag a ddefnyddir, dyrennir seddi mewn rowndiau i’r blaid sydd â’r cyniferydd uchaf, a chaiff cyniferydd pob plaid ei ail-gyfrifo bob tro y byddant yn ennill sedd.

System rhestr gaeedig yw’r fersiwn sy’n rhoi’r lleiaf o bŵer yn nwylo’r pleidleiswyr. Mae pob plaid yn cyhoeddi rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob etholaeth. Mae pleidleiswyr yn gosod croes wrth ymyl y blaid y maent yn ei chefnogi. Mae pob plaid yn cael nifer o seddi sy’n gymesur yn fras â nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd; ar y cyfan, po fwyaf o seddi sydd mewn etholaeth y mwyaf cymesur fydd y canlyniad. Mae seddi’n cael eu llenwi gan ddibynnu ar yn drefn y rhestrwyd yr ymgeiswyr a ddewisir ymlaen llaw gan y pleidiau. Dyma’r ffurf o Gynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr a ddefnyddiwyd ym Mhrydain ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop. Gwrthodwyd y system hon gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a ddywedodd ei bod yn gadael “Dim dewis i bleidleiswyr rhwng ymgeiswyr unigol” a “Dim atebolrwydd i Aelodau unigol yn uniongyrchol i bleidleiswyr”.[6] Mae hyn yn gyson â chanfyddiadau’r Power Inquiry yn 2006. Argymhelliad 13 o’r ymchwiliad oedd “Ni ddylai fod lle i’r system rhestr bleidiau caeedig mewn etholiadau modern”.[7]

Enghraifft o bapur pleidleisio rhestr agored o Etholiadau Cenedlaethol yr Iseldiroedd

Mae system rhestr agored yn caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd penodol ar restr plaid, a thrwy hynny gael cyfle i nodi eu cefnogaeth i ymgeisydd, nid plaid yn unig. Po fwyaf o bleidleisiau a gaiff ymgeisydd, y mwyaf tebygol yw hi y bydd yn cael ei ethol, os bydd eu plaid yn derbyn digon o bleidleisiau i ethol unrhyw un o’u hymgeiswyr. Mae pleidlais i ymgeisydd yn cael ei chyfrif fel pleidlais i’w blaid pan benderfynir faint o seddi y dylai pob plaid eu derbyn. Mewn rhai gwledydd, gall pleidleisiwr bleidleisio dros blaid a gadael trefn yr ymgeiswyr i bleidleisiau pobl eraill.

Mewn system restr lled-agored neu hyblyg, mae pleidleiswyr yn cael papur balot gyda’r opsiwn i bleidleisio dros ymgeisydd neu blaid. Yn wahanol i restr agored, mae pleidleisio dros blaid yn cael ei gymryd fel cadarnhad o drefn yr ymgeiswyr a ddewiswyd gan y blaid honno. Fodd bynnag, gyda digon o bleidleisiau unigol, gall ymgeisydd symud i fyny trwy’r rhestr o hyd.

Enghraifft o bapur pleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail rhestr hyblyg o Etholiadau Senedd Ewrop yng Ngwlad Belg

Sut i weithredu cwotâu rhywedd o dan system Rhestr STV

Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Agored a Lled-Agored/Hyblyg:

Mae Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Agored yn gallu amrywio o ran pa mor agored ydyw mewn gwirionedd; o’r herwydd mae rhestrau Lled-Agored/Hyblyg yn cael eu trafod ochr-yn-ochr â gweithredu cwotâu rhywedd o dan y systemau etholiadol hyn.

Mae siambr isaf Senedd Gwlad Belg yn enghraifft o gwotâu rhywedd deddfwriaethol ar gyfer ymgeiswyr o dan system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr agored. Ym 1994 deddfwyd na allai mwy na dwy ran o dair o ymgeiswyr unrhyw blaid fod o’r un rhywedd (yn berthnasol o etholiadau 1999), ac yna pasiwyd deddfwriaeth lymach yn 2002 oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gyflwyno nifer cyfartal o ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd. Yn ogystal â’r mandadau ‘maint cwota’ hyn, cyflwynwyd mecanweithiau gorfodi cryf a threfn benodol ar restrau hefyd fel rhan o’r ddeddfwriaeth cwotâu rhywedd. Cyflwynwyd gorfodaeth lem o’r cychwyn cyntaf, gan ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau etholiadol wrthod cofrestru unrhyw restrau nad oeddent yn bodloni’r cwota. Cyflwynwyd yr angen am drefn benodol ar restrau yn ddiweddarach, ochr-yn-ochr â’r cynnydd ym maint y cwota yn 2002, oedd yn nodi na allai ymgeiswyr o’r un rhywedd fod yn y ddau safle uchaf ar unrhyw restr (cafodd hyn ei weithredu o etholiad 2007 ymlaen, gyda mandad llai llym yn etholiadau 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i un o’r tri ymgeisydd ar ben pob rhestr fod o’r naill rywedd a’r llall).[8] Dros y 25 mlynedd ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth gwota gyntaf, mae cynrychiolaeth menywod yn Siambr y Cynrychiolwyr wedi cynyddu 350 y cant o ddim ond 12 y cant yn 1995 i 42 y cant yn 2019.[9] Mae gwelliannau tameidiog yn y ddeddfwriaeth gwota wedi gwella eu heffeithiolrwydd.

Er bod pleidleiswyr yn gallu pleidleisio dros unrhyw ymgeisydd waeth beth fo’u safle ar y papur pleidleisio o dan restr agored, gall trefn benodol ar y rhestr barhau i chwarae rhan bwysig wrth ethol menywod, gan fod cysylltiad cryf yn aml rhwng eu lleoliad ar y rhestr a nifer y pleidleisiau a dderbynnir.[10]

Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Gaeedig:

Yng Nghosta Rica, defnyddir cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr ynghyd â system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig. Ym 1996 cyflwynwyd deddfwriaeth a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i 40 y cant o ymgeiswyr fod yn fenywod. Dilynwyd hyn â’r angen am drefn benodol ar restrau, er mwyn sicrhau bod y 40 y cant o fenywod mewn ‘seddi y gellid eu hennill’ ar sail canlyniadau’r etholiad blaenorol, ac yna gosodwyd mecanweithiau gorfodi ym 1999, fel eu bod yn berthnasol i etholiad 2002.[11] Golygodd diwygiadau pellach yn 2009 gynyddu maint y cwota i 50 y cant o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau 2014.[12] Mae’r system hon yn sicrhau na all dau berson o’r un rhywedd gael eu gosod nesaf at ei gilydd ar y rhestr o ymgeiswyr, ac yn 2016 cafwyd dyfarniad gan y Goruchaf Dribiwnlys Etholiadau (TSE) fod yn rhaid i bleidiau hefyd osod dynion a menywod am-yn-ail ar frig y rhestrau ymgeiswyr ar gyfer etholiadau yn y saith talaith.[13] Dros y 22 mlynedd ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth gwota gyntaf, mae cynrychiolaeth menywod yn Siambr y Cynrychiolwyr wedi cynyddu 300 y cant o ddim ond 15 y cant yn 1994 i 45.6 y cant yn Etholiadau 2018.[14],[15]

Mesurau i gynyddu effeithiolrwydd cwotâu rhywedd ymgeiswyr deddfwriaethol

Cwotâu ymgeiswyr yw’r math mwyaf cyffredin o gwota rhywedd deddfwriaethol a ddefnyddir ar hyn o bryd, gyda 63 o wledydd wedi deddfu cwotâu rhywedd ymgeiswyr ar gyfer eu siambr isaf neu eu hunig siambr.[16] Fodd bynnag, mae’r rhain yn amrywio’n sylweddol o ran maint cwota, mecanweithiau gorfodi ac a oes unrhyw reolau ynghylch trefn benodol ar gyfer yr ymgeiswyr ar restrau.

Dim ond un rhan o gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn senedd yw maint cwotâu ymgeiswyr ynddynt eu hunain. Mae sut y cânt eu cyflwyno, a chynllun y cwota yn cael effaith enfawr. Dangosodd astudiaeth draws-genedlaethol fod cwotâu deirgwaith yn fwy effeithiol o ran cynyddu cynrychiolaeth menywod o’u cyfuno â threfn benodol ar restrau (e.e. dynion a menywod am-yn-ail) a gorfodaeth gref.[17] Yn ogystal, mae rhai gwledydd, fel Costa Rica, yn mynnu bod dynion a menywod yn cael eu gosod am-yn-ail yn safleoedd uchaf eu rhestrau ymgeiswyr, sy’n effeithio ymhellach ar nifer y menywod a etholir.[18] Mae deall sut y gall y mesurau ychwanegol hyn gynorthwyo effeithiolrwydd cwota rhywedd o ran gwireddu cynrychiolaeth ddisgrifiadol (etholiadol) menywod yn hanfodol i gynhyrchu deddfwriaeth gwota rhywedd effeithiol.

Seddi wedi’u neilltuo

Mae seddi wedi’i neilltuo’n fath o gwota rhywedd sy’n neilltuo nifer benodol o seddi er mwyn i fenywod neu gynrychiolwyr o’r rhywedd a dangynrychiolir gael eu hethol i gorff deddfwriaethol. Mae 26 o wledydd ar hyn o bryd yn defnyddio’r dull hwn o gwota rhywedd ar gyfer eu hetholiadau i’w siambr isaf neu eu hunig siambr, yn bennaf gwledydd y Dwyrain Canol ac Affrica.[19]

Mae yna dri phrif ddull o weithredu seddi wedi’u neilltuo[20]:

  • Haen arbennig ledled y wlad ar gyfer ymgeiswyr benywaidd yn unig, e.e. nifer benodol o seddi wedi’u neilltuo ar gyfer menywod. Defnyddir y dull hwn ym Moroco, lle mae 60 o seddi’n cael eu hethol trwy restr menywod yn unig.
  • Cylchdroi cwotâu, e.e. cylchdroi seddi wedi’u neilltuo ar gyfer menywod yn unig ar draws etholaethau/rhanbarthau. Defnyddir y dull hwn yn India ar lefel is-genedlaethol gyda’r wardiau wedi’u neilltuo’n cylchdroi rhwng etholiadau.
  • Trothwyon amgen, e.e. mae dau drothwy ar gyfer cael eich ethol, un yn seiliedig ar gyfanswm y pleidleisiau lle mae pob ymgeisydd yn cystadlu’n uniongyrchol am seddi, ac ail drothwy yn seiliedig ar y pleidleisiau a dderbyniwyd gan is-set o ymgeiswyr yn unig, h.y. ymgeiswyr benywaidd, i ethol nifer penodol o seddi wedi’i neilltuo. Cyfeirir at y system hon weithiau fel y “collwr gorau”.

Gallai’r holl enghreifftiau o gwotâu rhywedd yn y papur briffio hwn fod wedi’u gweithredu o dan unrhyw un o’r systemau etholiadol a drafodwyd. Mae eu heffeithiolrwydd o ran ethol menywod i’r senedd yn dibynnu ar sut maen nhw wedi’u cynllunio, gan gynnwys maint y cwota ac elfennau ategol fel trefn benodol ar restrau a gorfodaeth. Byddem yn annog y rhai sy’n cynllunio’r ddeddfwriaeth i ystyried yr agweddau hyn yn ofalus wrth sicrhau cwotâu effeithiol â’r nod o hyrwyddo amrywioldeb. Dylai Cymru ddysgu o’r broses ar gyfer deddfwriaeth cwota rhywedd mewn gwledydd eraill (h.y. Gwlad Belg a Costa Rica) i roi’r ddeddfwriaeth fwyaf effeithiol ar waith o’r cychwyn cyntaf.

Mae system etholiadol sy’n sicrhau dewis i bleidleiswyr yn ogystal â chymesuredd yn hanfodol er mwyn darparu system sy’n gynaliadwy ar gyfer y Senedd yn y tymor hir. Dylai egwyddorion system etholiadol dda a amlinellwyd gan y Panel Arbenigol fod yn sail i unrhyw benderfyniad terfynol ar system etholiadol ar gyfer y Senedd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn a drafodir yn y ddogfen ragwybodaeth hon, cysylltwch â:

Jess Blair
Jessica.blair@electoral-reform.org.uk 
07773555390

 

[1] https://www.researchgate.net/publication/317835248_The_Irish_legislative_gender_quota_The_first_election

[2] https://www.idea.int/data-tools/data/gender-quotas/country-view/143/35

[3] https://blogs.lse.ac.uk/europpblog/2016/03/16/the-2016-irish-election-demonstrated-how-gender-quotas-can-shift-the-balance-on-female-representation/

[4] https://www.researchgate.net/publication/317835248_The_Irish_legislative_gender_quota_The_first_election

[5] https://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/07907184.2020.1762283

[6] https://senedd.wales/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf p128.

[7] https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn03948/

[8] https://www.idea.int/data-tools/data/gender-quotas/country-view/60/35

[9] https://blogs.eui.eu/genderquotas/wp-content/uploads/sites/24/2015/04/Executive-summary-Belgium-Meier2.pdf

[10] https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0261379421000500

[11] https://www.jstor.org/stable/pdf/10.1111/j.0022-3816.2004.00296.x.pdf?casa_token=CUAlljeBDqEAAAAA:Z_qJ_F1uSeVgDvdzXJ3fbGs8u5AaQ0B2DiOS8OgXY6jLZ2zTYC-PFjyxBt48lvCT98MhVi12PHLLYVMYnygrvHD1RVswg9Kkj-_lnPO_I1Voedsg7g

[12] https://www.idea.int/data-tools/data/gender-quotas/country-view/87/35

[13] https://ticotimes.net/2016/05/27/gender-equality

[14] https://opendocs.ids.ac.uk/opendocs/bitstream/handle/20.500.12413/7860/IDSB_41_5_10.1111-j.1759-5436.2010.00163.x.pdf;jsessionid=C57125D6A2C296B7BD348EFA171179E0?sequence=1

[15] https://www.idea.int/data-tools/data/gender-quotas/country-view/87/35

[16] https://www.idea.int/data-tools/data/gender-quotas/legislative-overview

[17] https://www.jstor.org/stable/20680225

[18] https://ticotimes.net/2016/05/27/gender-equality

[19] https://www.idea.int/data-tools/data/gender-quotas/reserved-overview

[20] https://aceproject.org/ace-en/topics/ge/ge2/ge22/gender-quotas-in-elections/legislated-reserved-seats

 

Darllen mwy o bostiadau...