Hefyd ar gael yn: English

Rhagwybodaeth ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig

Wedi'i bostio ar y 1st Mehefin 2022

Rydym yn croesawu adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig y Senedd ar Ddiwygio’r Senedd a’r fargen ddiweddar ar ddiwygio’r Senedd rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.  Mae adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig yn cynnwys cynyddu maint y Senedd, sy’n rhywbeth y mae ERS Cymru wedi ymgyrchu drosto ers blynyddoedd. Bydd hyn yn darparu Senedd well i bleidleiswyr, gan sicrhau senedd gryfach, sy’n gymwys i graffu ar ddeddfwriaeth a chyllidebau allweddol.

Ac eto, credwn hefyd fod lle i gryfhau’r argymhellion ynghylch systemau pleidleisio, gan sicrhau bod hyn hefyd yn darparu bargen dda i bleidleiswyr, nawr ac am flynyddoedd i ddod.

Isod rydym wedi amlinellu ein safbwynt ar y cyfarwyddiadau polisi penodol a ddatblygwyd gan y pwyllgor, gan gynnwys sut y dylid datblygu’r rhain o’r argymhellion presennol.

Mwy o ASC

Mae cynyddu maint y Senedd i 96 aelod yn gam sylweddol i wella gallu ein senedd a sicrhau gwell deilliannau i’r bobl y mae’n eu cynrychioli. Mae’r rôl o graffu ar dros £17bn o wariant bob blwyddyn, deddfwriaeth sylweddol a chynnal ymchwiliadau i faterion o bwys yn gofyn am Senedd ag adnoddau priodol sy’n addas i wneud ei gwaith, nawr ac yn y dyfodol.

Roedd adroddiad ‘Mae Maint yn Bwysig’ ERS Cymru yn 2014 yn dadansoddi maint sefydliadau ar draws y byd, a daeth i’r casgliad y byddai tua 100 o aelodau’n briodol ar gyfer Senedd Cymru.[1] Mae symud i 96 o aelodau yn cyflawni hyn ac rydym yn croesawu argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig yn hyn o beth, ochr-yn-ochr â’r cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.

Mater o lefelu i fyny’r Senedd yw hyn, fel ei bod yn addas ar gyfer y Gymru fodern, hyderus, hunanlywodraethol sydd ohoni.

Systemau pleidleisio

Systemau rhestr gaeedig

Mae adroddiad y Pwyllgor wedi argymell defnyddio’r system rhestr gaeedig ar gyfer etholiadau’r Senedd, yn dilyn y fargen a gafodd ei tharo rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru. Er ein bod yn croesawu’r newid i system sydd o leiaf mor gymesur â’r un bresennol, nid ydym yn credu mai’r system rhestr gaeedig yw’r un orau sydd ar gael ar gyfer y Senedd. 

System rhestr gaeedig yw’r fersiwn sy’n rhoi’r lleiaf o bŵer yn nwylo’r pleidleiswyr. Mae pob plaid yn cyhoeddi rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob etholaeth. Mae pleidleiswyr yn gosod croes wrth ymyl y blaid y maent yn ei chefnogi. Mae seddi’n cael eu llenwi gan ddibynnu ar yn drefn y rhestrwyd yr ymgeiswyr a ddewiswyd ymlaen llaw gan y pleidiau.

Dyma’r ffurf o Gynrychiolaeth Gyfrannol ar sail rhestr a ddefnyddiwyd ym Mhrydain ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop. Gwrthodwyd y system hon gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a ddywedodd ei bod yn gadael “Dim dewis i bleidleiswyr rhwng ymgeiswyr unigol” a “Dim atebolrwydd i aelodau unigol yn uniongyrchol i bleidleiswyr”. Mae hyn yn gyson â chanfyddiadau’r Power Inquiry yn 2006. Argymhelliad 13 o’r ymchwiliad oedd “Ni ddylai fod lle i system rhestr gaeedig y pleidiau mewn etholiadau modern”.

Mathau amgen o systemau rhestr

Rydym yn ffafrio’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer ethol y Senedd, safbwynt a oedd gan ddau aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig i ddechrau, ac sy’n parhau i fod yn bolisi plaid Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Yn wir, yn eu hymatebion i adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig, ailgadarnhaodd y ddau’r ymrwymiad hwn, gyda Jane Dodds ASC yn nodi, “Byddai Senedd a etholir trwy STV yn decach, yn llai cymhleth, yn fwy cymesur, ac yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr. Nid wyf yn credu bod achos cryf wedi’i wneud dros symud oddi wrth yr argymhellion cynharach.”[2] a Rhys ab Owen ASC yn dweud, “STV yw polisi plaid Plaid Cymru o hyd.  Rydym hefyd yn cydnabod nad oes gan un blaid yn y Senedd y mwyafrif o ddwy-ran-o-dair sydd ei angen i gyflawni diwygio.”[3]

Fodd bynnag, bu’r pwyllgor hefyd yn ystyried mathau eraill o system restr, a fyddai hefyd yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr o gymharu â’r system rhestr gaeedig sydd wedi’i hargymell.

 Rhestr Agored

Ar y papur pleidleisio, mae gan bob plaid restr o ymgeiswyr.

Mae system rhestr agored yn caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd penodol ar restr plaid, a thrwy hynny gael cyfle i nodi eu cefnogaeth i ymgeisydd, nid plaid yn unig. Po fwyaf o bleidleisiau a gaiff ymgeisydd, y mwyaf tebygol yw hi y bydd yn cael ei ethol, os bydd eu plaid yn derbyn digon o bleidleisiau i ethol unrhyw un o’u hymgeiswyr. Mae pleidlais i ymgeisydd yn cael ei chyfrif fel pleidlais i’w blaid pan benderfynir faint o seddi y dylai pob plaid eu derbyn. Mewn rhai gwledydd, gall pleidleisiwr bleidleisio dros blaid a gadael trefn yr ymgeiswyr i bleidleisiau pobl eraill.

Rhestr Hyblyg

Mewn system restr hyblyg, mae pleidleiswyr yn cael papur balot gyda’r opsiwn i bleidleisio dros ymgeisydd neu blaid.

Yn wahanol i restr agored, mae pleidleisio dros blaid yn cael ei gymryd fel cadarnhad o drefn yr ymgeiswyr a ddewiswyd gan y blaid honno. Gyda digon o bleidleisiau unigol, gall ymgeiswyr symud i fyny’r drefn o hyd.

Yn Ewrop, rhestrau hyblyg yw’r norm[4] – er bod yr union drothwyon (gweler yr enghraifft isod) yn amrywio o systemau gweddol agored yn Sweden a’r Iseldiroedd[5] i system sydd i bob diben yn gaeedig yn Norwy.[6] Mae systemau cwbl agored yn gymharol brin, ond mae’r Ffindir a Latfia yn ddwy enghraifft o wledydd sy’n defnyddio rhestrau cwbl agored i ethol eu seneddau cenedlaethol.

Dywedodd y Panel Arbenigol pe na bai’r opsiwn a ffafrir ganddynt o STV gyda chwotâu rhywedd integredig yn gallu cael ei gweithredu, yna system restr hyblyg fyddai eu dewis nesaf.[7] Roedd y math o restr hyblyg a argymhellwyd ganddynt yn defnyddio ‘trothwy’ etholiadol, gan nodi:

“O dan y system hon, y pleidiau sy’n pennu’r drefn y mae enwau ymgeiswyr yn ymddangos ar y papur pleidleisio. Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn derbyn digon o bleidleisiau personol i gyrraedd trothwy penodedig ar gyfer ymgeisydd, trefn ddewisol y blaid yw’r drefn y bydd ymgeiswyr yn cymryd unrhyw seddi a enillwyd gan y blaid honno. Os bydd pleidleisiau personol ymgeisydd yn pasio’r trothwy, bydd yn symud i frig y rhestr. Os bydd nifer o ymgeiswyr yn pasio’r trothwy, cânt eu trefnu yn ôl nifer y pleidleisiau y mae pob un wedi’u derbyn. Er enghraifft, yn Sweden, mae ymgeiswyr sy’n cael 5 y cant neu fwy o’r pleidleisiau a dderbyniwyd gan restr y blaid yn symud i frig y rhestr.” 

Mae ERS Cymru o’r farn y byddai’r system Rhestr Hyblyg hon yn fwy addas ar gyfer etholiadau’r Senedd na’r system Rhestr Gaeedig arfaethedig, gan gynnig cydbwysedd lle gallai pleidiau reoli eu rhestrau’n dda ond bod gan bleidleiswyr ddewis hefyd.

Dyrannu seddi – D’Hondt yn erbyn Sainte-Laguë 

Mae adroddiad y pwyllgor wedi argymell defnyddio system D’Hondt o ddyrannu seddi o dan system gynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr. Fodd bynnag, mae fformiwlâu etholiadol eraill ar gael ac yn cael eu defnyddio’n eang, megis y dull Sainte-Laguë.

Mae dull D’Hondt fel arfer yn cynhyrchu canlyniadau llai cymesur na dull Sainte-Laguë, oherwydd bod y fformiwla etholiadol fel arfer yn ffafrio pleidiau mwy dros bleidiau llai. Pa ddull bynnag a ddefnyddir, dyrennir seddi mewn rowndiau i’r blaid sydd â’r cyniferydd uchaf, a chaiff cyniferydd pob plaid ei ail-gyfrifo’r bob tro y byddant yn ennill sedd. Er bod y Pwyllgor Diben Arbennig wedi argymell defnyddio dull D’Hondt o gyfrifo pleidleisiau, argymhellodd y Panel Arbenigol y dylid mabwysiadu fformiwla Sainte-Laguë pe bai’r Senedd yn symud i system gynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr, a byddem yn gefnogol i hyn. Roedd yn well gan ddau o aelodau’r Pwyllgor Diben Arbennig y fformiwla hon i ddechrau hefyd, gyda thrafodaeth yn y Pwyllgor yn adlewyrchu hyn ac un aelod yn cyfeirio at ganfyddiadau’r Panel Arbenigol yn ei fodelu “bod fformiwla etholiadol D’Hondt yn gyffredinol yn cynhyrchu canlyniadau sy’n llai cymesur na’r rhai sy’n defnyddio’r Fformiwla Sainte-Laguë, ac weithiau’n llai cymesur na’r system etholiadol bresennol”.[8]

Cyniferydd D’Hondt = Pleidleisiau / Seddi + 1

Cyniferydd Sainte-Laguë = Pleidleisiau / (2 x Seddi) + 1

Ffiniau  

Rydym yn falch o weld ymrwymiad i adolygiad ffiniau yn adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig i’w roi ar waith yn dilyn etholiadau 2026. Credwn mai trefniant dros-dro yw paru ffiniau arfaethedig San Steffan, ac mae’n bwysig datblygu system sy’n gweithio’n effeithiol i’r Senedd ei hun. Fel yr awgrymwyd yn adroddiad y Panel Arbenigol, gallai ffiniau awdurdodau lleol fod yn fan cychwyn da ar gyfer hyn. Er bod y pwyllgor wedi argymell cynnwys nifer a maint yr etholaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol, byddem yn rhybuddio rhag i’r ddeddfwriaeth fod yn rhy gyfyngol cyn adolygiad llawn o’r ffiniau.

Yn ogystal ag ymrwymo i adolygiad o ffiniau, i’w gynnal cyn etholiad 2026, dylai’r ddeddfwriaeth ar ddiwygio’r Senedd hefyd ymrwymo i adolygu effeithiolrwydd y system bleidleisio ac effeithiolrwydd mesurau amrywioldeb rywbryd ar ôl ei gweithredu, o fewn fframwaith egwyddorion y Panel Arbenigol.

Mesurau amrywioldeb

Mae ERS Cymru’n gefnogol i’r defnydd o gwotâu a mesurau i wella amrywioldeb yn y Senedd. Rydym am weld Senedd amrywiol yn adlewyrchu poblogaeth Cymru’n briodol, o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, anabledd, y gymuned LHDTC+ ac o ran oedran a statws economaidd.

Rydym yn cefnogi’r mesurau a amlinellir yn yr adroddiad, gan gynnwys integreiddio cwotâu rhywedd, rhestrau am-yn-ail, gwaith pellach ar gwotâu ar gyfer ystod ehangach o nodweddion gwarchodedig a darparu gwell data ar amrywioldeb.

Mae gweithredu’r mesurau hyn yn allweddol. Mae’n hanfodol bwysig nad oes gan y ddeddfwriaeth ganlyniadau anfwriadol a allai, mewn gwirionedd, arwain at wrthgilio o ran amrywioldeb.

[1]https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/size-matters/#sub-section-16

[2] https://www.welshlibdems.wales/jane_dodds_responds_to_senedd_reform_report

[3] Plaid Cymru, 30ain Mai 2022, “Hwb enfawr i ddemocratiaeth yng Nghymru” – Plaid Cymru’n croesawu adroddiad allweddol ar ddiwygio’r Senedd wrth i ni symud gam yn nes at Senedd gryfach [Datganiad i’r wasg].

[4] https://www.electoral-reform.org.uk/which-european-countries-use-proportional-representation/

[5] https://www.electoral-reform.org.uk/the-netherlands-is-going-to-the-polls-but-how-do-dutch-elections-work/

[6] https://www.electoral-reform.org.uk/how-do-elections-work-in-norway/

[7] https://senedd.cymru/media/eqbesxl2/a-parliament-that-works-for-wales.pdf, t 102.

[8] https://senedd.cymru/media/5mta1oyk/cr-ld15130-e.pdf, t37.

Darllen mwy o bostiadau...