Hefyd ar gael yn: English

Ymateb ERS Cymru i’r ymgynghoriad ar reolau drafft ar gyfer etholiadau llywodraeth leol (prif gyngor) gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy

Wedi'i bostio ar y 5th Ebrill 2023

Rydym yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y rheolau drafft ar gyfer etholiadau llywodraeth leol gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy (STV). Mae’r opsiwn i gynghorau yng Nghymru symud i STV nawr yn un yr ydym yn ei gefnogi’n llwyr ar ôl gweld problemau sylweddol gyda’r etholiadau lleol a gynhelir o dan y system y Cyntaf i’r Felin (FPTP). Mae’r problemau hyn yn cynnwys nifer fawr o seddi diwrthwynebiad a chanlyniadau anghymesur; mae’r manylion wedi’u cynnwys yn ein hadroddiad Amser i Newid ar etholiadau lleol Cymru 2022.[1]

Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn bryderus ynghylch natur ganiataol y camau hyn, ac rydym wedi amlinellu ein pryderon yn llawn mewn ymateb i gwestiwn 13 o’r ymgynghoriad. Mae ein hymatebion i gwestiynau llawn yr ymgynghoriad isod.

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno y dylai’r Rheolau STV drafft gynnwys yr opsiwn o gyfrif â llaw yn unig, gan hepgor yr opsiwn o gyfrif electronig?

Mae’r cynnig yn y ddogfen ymgynghori mai dim ond cyfrif â llaw y dylid ei ddefnyddio ar gyfer rheolau STV, ar hyn o bryd, yn sail i lawer o agweddau eraill ar y rheolau; yn enwedig lleihau’r opsiynau ynghylch gosod ymgeiswyr mewn trefn ar bapurau pleidleisio a throsglwyddo pleidleisiau dros ben. Rydym yn ystyried hyn yn llai na delfrydol.

Er bod cyfrif â llaw yn opsiwn dilys ac yn cael ei ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, rydym yn pryderu y gallai hyn gael ei weld fel rhwystr arall i symud at STV gan gynghorwyr cyfredol neu ymgeiswyr yn y dyfodol nad ydynt am aros dau neu dri diwrnod am ganlyniadau etholiad. Mae’r profiad o gyfrif electronig yn yr Alban wedi bod yn ddidrafferth iawn gyda’r canlyniadau bellach wedi’u cyhoeddi ar ddiwrnod y cyfrif. Er ein bod yn cydnabod bod cost yn gysylltiedig â hyn, credwn fod hwn yn fuddsoddiad gwerth chweil er mwyn tawelu meddwl cynghorwyr ynghylch pa mor hawdd y gellir gweithredu STV.

Mae dadl hefyd y gallai cyfrif electronig arwain at fwy o hyder ynghylch cyfreithlondeb y canlyniadau. Roedd yr adroddiad ar weithredu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru’n cynnwys nifer o ddyfyniadau gan gyfweliadau o blaid hyn, gan gynnwys swyddog etholiad yn yr Alban a wnaeth sylw ar gyfrif yng Ngogledd Iwerddon. Meddai: “Rwy’n rhyfeddu at y swyddogion hynny sy’n llwyddo i sicrhau canlyniad yr oedd pobl yn ei dderbyn fel un cywir, ond roedd y cyfrif hwnnw [yng Ngogledd Antrim] wedi cymryd bron i ddau ddiwrnod […] os oedd teimlad o blaid system newydd, dydych chi am iddi ddechrau fel hyn”.[2]

Dywedodd un arall y cyfwelwyd â nhw: “Rydych chi’n cael cyfrif byw o’r siartiau bar yn ymddangos, felly byddwch chi’n cael golwg yn gynnar yn y broses ar sut mae’r dewisiadau’n cael eu dosbarthu. Rydych chi hefyd yn cael data wedyn, sy’n 100% gywir i’r man pleidleisio.”[3] Credwn fod hon yn elfen bwysig yn yr achos dros gyfrif electronig, ac rydym wedi gweld y manteision yn uniongyrchol o gael manylion o’r fath o ran canlyniadau etholiad STV.

Er bod risg o nam technegol neu fethiant systemau wrth gyfrif yn electronig, rydym yn hyderus y gellir dysgu o brofiadau’r Alban yn 2012 er mwyn osgoi unrhyw broblemau wrth weithredu hyn yng Nghymru.

Nid ydym ychwaith yn cytuno bod cyfrif electronig yn ychwanegu haen o gymhlethdod wrth gyfrif etholiadau cynghorau cymuned a phrif gynghorau. Byddai elfen o gymhlethdod gyda chynghorau cymuned yn defnyddio systemau FPTP a phrif gynghorau’n symud i STV, ond byddai cyfrif electronig yn gwneud pethau’n symlach ac yn fwy effeithlon o gymharu â chyfrif etholiad STV â llaw.

O ran y costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cyfrif electronig mewn etholiad STV yng Nghymru, yn enwedig gyda nifer fach o awdurdodau o bosibl yn symud i STV, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cost hyfforddi staff a chael lleoliadau ar agor am gyfnod hwy o dan y system gyfrif â llaw. Mae costau’n perthyn i gyfrif â llaw, a gallai talu am beiriannau cyfrif electronig fod yn werth chweil o ran cynyddu hyder ymgeiswyr yn y canlyniadau a gwella effeithlonrwydd y cyfrif.

Yn olaf, mae realiti Cynrychiolaeth Gyfrannol ganiataol yng Nghymru, fel y manylir gennym yn ein hymateb i gwestiwn 13, yn un o’r rhwystrau sydd wedi’u pentyrru yn erbyn cynghorau sy’n dymuno gwneud y newid hwn. Gallai ymrwymiad i gyfrif â llaw o bosibl fod yn rhwystr arall i gynghorwyr sy’n ystyried newid systemau pleidleisio. Ni fydd cynghorwyr am orfod esbonio i bleidleiswyr y gallai canlyniadau gymryd dyddiau ac y gallai data manwl fod ar goll. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â STV sy’n lleihau’r rhwystrau i gynghorau sy’n ystyried gwneud y newid, nid ychwanegu atynt.

Cwestiwn 1b: A ddylai rheolau sy’n caniatáu cyfrif electronig gael eu paratoi ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol a gynhelir ar ôl 2027?

Dylent; byddem yn cefnogi cyflwyno cyfrif electronig yng Nghymru ar gyfer etholiadau a gynhelir yn ddiweddarach os nad yw 2027 yn ymarferol.

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno na ddylid newid y gofyniad presennol i restru ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw? 

Mae ERS yn gefnogol i osod enwau yn nhrefn yr wyddor neu ar hap ar bapurau pleidleisio. O ystyried y cynlluniau i gyfrif pleidleisiau â llaw, mae rhestru ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor yn gwneud synnwyr. Byddem hefyd o blaid eu gosod ar hap pe bai cyfrif electronig yn cael ei gyflwyno.

Er ein bod yn cefnogi gosod rhestrau yn nhrefn yr wyddor, byddai’n syniad i bleidiau ystyried sut y gallant ymgyrchu’n effeithiol i oresgyn unrhyw broblemau gyda phleidleisio yn nhrefn yr wyddor gan bleidleiswyr. Mae pleidleisio yn nhrefn yr wyddor wedi bod yn fwy amlwg yn yr Alban o gymharu â gwledydd eraill. Mae Dr James Gilmour wedi ysgrifennu ar y mater hwn a chanfod bod yr Alban wedi wynebu’r mater hwn oherwydd bod pleidiau gwleidyddol yn cymryd agwedd “diogelwch yn gyntaf” lle maen nhw’n “enwebu ym mhob ward dim ond nifer yr ymgeiswyr y maen nhw’n disgwyl fydd yn ennill seddi.”[4] Wrth edrych ar etholiadau ym Malta, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, roedd yr unig dystiolaeth o bleidleisio yn nhrefn yr wyddor y daeth o hyd iddo mewn achosion ble roedd nifer llai o ymgeiswyr wedi’u henwebu.

Credwn felly fod hyn yn her i’r pleidiau fod â phrosesau rheoli pleidleisiau da. Yn wir, pan fydd pleidiau’n cynnig mwy o ymgeiswyr, mae’n rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr, sy’n beth da.

O’r herwydd, nid ydym yn credu y dylid diwygio’r gofyniad presennol i restru ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor, yn enwedig os bydd cynlluniau ar gyfer cyfrif â llaw yn parhau.

Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau i bleidleiswyr yn esbonio’n glir sut y dylent farcio’r papur pleidleisio mewn etholiad o dan STV? Os nad ydych, awgrymwch welliannau os gwelwch yn dda. 

Mae’r canllawiau i bleidleiswyr yn y drafft yn weddol glir o ran esbonio i bleidleiswyr sut i farcio’r papur pleidleisio mewn etholiad STV, ond mae gennym ni fân awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. O ran y canllawiau i bleidleiswyr rydym wedi ystyried y canlynol:

  • diwygio rhan 3 o atodlen 1 i reolau 2021
  • y papurau pleidleisio a’r canllawiau i bleidleiswyr y manylir arnynt yn yr atodlenni diwygiedig o dudalen 50.

O ran y canllawiau i bleidleiswyr a gyflwynir yn atodlenni 2-8 mae gennym bryderon ynghylch y defnydd cyfnewidiadwy o’r geiriau ‘niferoedd’ a ‘ffigurau’ wrth ddarparu canllawiau i bleidleiswyr ar sut i fwrw eu pleidlais o dan STV. Teimlwn fod ‘niferoedd’ yn gliriach i bleidleiswyr, a dylid diwygio’r canllawiau ar dudalen 63.

Rydym hefyd yn ymwybodol bod papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol yr Alban yn cynnwys nifer y seddi ar gyfer etholiad. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried manteision cynnwys hyn, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae pleidleiswyr wedi arfer â wardiau un aelod.

Bydd y canllawiau i bleidleiswyr yn hanfodol bwysig i sicrhau bod pleidleiswyr yn teimlo’n hyderus wrth fwrw eu pleidlais o dan system newydd. Fodd bynnag, mae’n werth nodi y bydd angen ymgyrch gyfathrebu ehangach pe bai awdurdod lleol yn symud i’r system STV, yn enwedig os oes clytwaith o systemau’n bodoli o hynny ymlaen. Ni ddylai pleidleiswyr ddod i wybod am y newid yn y system bleidleisio am y tro cyntaf yn yr orsaf bleidleisio.

Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth i’r awdurdodau lleol perthnasol ac eraill megis y Comisiwn Etholiadol i gynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth effeithiol cyn diwrnod yr etholiad. Bydd gan bleidiau ran i’w chwarae yn hyn hefyd, a dylent geisio dysgu o sut mae pleidiau’n ymgyrchu o dan STV mewn rhannau eraill o’r DU. 

Cwestiwn 4a: Ydych chi’n cytuno â’n dewis o gwota Droop?

Cytunwn â’r dewis i ddefnyddio cwota Droop fel rhan o’r broses o gyfri pleidleisiau o dan STV.

Cwestiwn 4b: A ydych yn cytuno bod y camau ar gyfer cyfrifo’r cwota fel y nodir yn Rheol 60H a 64L yn ddigon clir?

Rydym yn cytuno bod y camau ar gyfer cyfrifo’r cwota fel y nodir yn Rheol 60H a 64L yn ddigon clir. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i swyddogion canlyniadau weld y cwota wedi’i nodi fel y mae yn y ddogfen ymgynghori, fel sydd wedi’i ddangos isod. Byddem yn dychmygu y byddai gwybodaeth ychwanegol yn cael ei dosbarthu i swyddogion canlyniadau yn seiliedig ar y rheolau hyn cyn unrhyw etholiad STV. Efallai y byddai’n werth ymgysylltu â rhanddeiliaid etholiadol i drafod y fformatau mwyaf hygyrch ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth hon.

Cowta Droop

Cowta Droop

Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno bod y rheolau ynghylch trosglwyddo pleidleisiau dros ben yn ddigon clir?

Rydym yn pryderu bod cam tri o’r rheolau ynglŷn â throsglwyddo pleidleisiau dros ben yn aneglur. Ein prif bryder yw ei bod yn aneglur sut y dylid rhoi cam tri ar waith. Teimlwn y byddai enghreifftiau’n ddefnyddiol o ran arweiniad i Swyddogion Canlyniadau, a byddai symleiddio’r iaith yng ngham tri hefyd o gymorth.

Mae’r rheolau yng Ngogledd Iwerddon yn datgan:

(7) Bydd y bleidlais ar bob papur pleidleisio a drosglwyddir o dan baragraff (6) yn ôl —

(a) gwerth trosglwyddo a gyfrifir fel y nodir yn is-baragraff (b) o baragraff (4), neu

( b ) yn ôl y gwerth y cafodd y bleidlais honno ei derbyn gan yr ymgeisydd y mae’n cael ei throsglwyddo oddi wrtho yn awr, p’un bynnag yw’r lleiaf.

Mae’n werth ystyried geiriad rheolau Gogledd Iwerddon; fodd bynnag, yn y naill achos a’r llall credwn fod angen canllawiau clir i gynorthwyo Swyddogion Canlyniadau i drosglwyddo pleidleisiau dros ben.

Mae ERS o blaid defnyddio’r dull Gregory syml a ddefnyddir yn etholiadau Gogledd Iwerddon. Pe bai cyfrif electronig yn cael ei gyflwyno, a byddem o blaid hynny, byddem hefyd yn cefnogi’r dull Gregory cynhwysol pwysol.

Cwestiwn 6: Ydych chi’n cytuno na ddylid trosglwyddo pleidleisiau dros ben lle na all wneud unrhyw wahaniaeth sylweddol i ragolygon yr ymgeisydd sy’n parhau â’r nifer lleiaf o bleidleisiau?

Er ein bod yn deall pam y byddai swyddogion canlyniadau am osgoi parhau i gyfrif pan fydd pob swydd wedi’i llenwi, mae hyn yn codi pryderon ynghylch swyddi gweigion achlysurol.

Daeth y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i’r casgliad yn ei drafodaeth ar swyddi gweigion achlysurol o dan STV y dylid defnyddio proses ail-gyfrif.[5]

Roeddent yn cynnig y dylid cynnal is-etholiad dim ond os na fyddai unrhyw ymgeiswyr ar ôl ar gyfer y blaid sy’n gymwys neu’n barod i wasanaethu, gan ddweud:

“I’r perwyl hwn, rydym yn cynnig y dylid llenwi swyddi gwag achlysurol fel a ganlyn:

  • Ail-gyfrif yr etholiad gwreiddiol, gan gymryd i ystyriaeth dim ond ymgeiswyr oedd yn sefyll dros y blaid a gynrychiolwyd gan yr Aelod sy’n ymadael ar adeg yr etholiad gwreiddiol;
  • Os nad oes unrhyw ymgeiswyr ar ôl ar ran y blaid sy’n gymwys neu’n fodlon gwasanaethu, neu os safodd yr Aelod sy’n ymadael fel aelod annibynnol yn y lle cyntaf, dylid cynnal is-etholiad.”[6]

Mae cyfyngiad o ran y rheolau fel y’u drafftiwyd ar gyfer y swyddi gwag olaf pe bai sedd yn dod yn wag yn dilyn etholiad. Dylid diwygio’r rheolau drafft i ystyried swyddi gwag achlysurol ac adlewyrchu ar gasgliadau’r Panel Arbenigol.

Cwestiwn 7: Ydych chi’n cytuno bod y rheolau ynghylch diarddel ymgeiswyr a throsglwyddo pleidleisiau yn dilyn hynny’n ddigon clir?

Rydym yn fodlon bod y rheolau yn unol â rheolau STV eraill ledled y DU.

Cwestiwn 8: A ydych yn cytuno bod y Rheolau STV drafft yn ddigon clir ynghylch yr amgylchiadau pan na fydd papur pleidleisio yn drosglwyddadwy mwyach? 

Dylai’r amgylchiadau pan na fydd papur pleidleisio yn drosglwyddadwy mwyach hefyd gynnwys yn benodol pan nad yw papur pleidleisio’n dangos unrhyw ddewisiadau pellach.

Cwestiwn 9: Ydych chi’n cytuno bod y Rheolau STV drafft yn ddigon clir ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer llenwi’r swyddi gweigion olaf?

 Mae’r rheolau drafft yn glir ynglŷn â’r ddarpariaeth ar gyfer llenwi’r swyddi gweigion olaf, ond mae’r rheolau’n aneglur ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd os bydd swydd yn dod yn wag yn achlysurol. Mae ein hateb i gwestiwn 6 yn manylu ymhellach ar ein pryderon ynglŷn â hyn.

Cwestiwn 10: Ydych chi’n cytuno, mewn etholiadau a gynhelir gan ddefnyddio STV, y gellir gofyn am ailgyfrif mewn perthynas â cham olaf y cyfrif yn unig?

Mae hyn yn ganlyniad arall i’r penderfyniad i ddefnyddio cyfrif â llaw yn unig ar gyfer etholiadau STV yng Nghymru. Er bod y system hon yn gweithio’n llwyddiannus yng Ngweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, rydym yn pryderu am y canfyddiad gan ymgeiswyr a phleidleiswyr y bydd ganddynt lai o arolygiaeth o ganlyniadau’r etholiad.

Un o fanteision cyfrif electronig yn yr Alban yw darparu data manwl gam wrth gam ochr-yn-ochr â’r canlyniadau terfynol. Fel yr ydym eisoes wedi cyfeirio ato yn ein hymateb i gwestiwn 1, mae adroddiad ymchwil i etholiad STV ar waith, lle cyfeiriodd un o’r rhai y cyfwelwyd â hwy yn benodol at gyfrif byw ar ffurf siartiau bar a’r data a ddarparwyd ar ôl cwblhau’r cyfrif.[7]

Byddai’r data hwn yn mynd gryn fordd i wella hyder mewn system bleidleisio newydd. Mae cyfrif electronig hefyd yn darparu ar gyfer ail-gyfrif llawer cyflymach, nad yw’n gyfyngedig i un cam.

Er ein bod yn cydnabod bod y cyfyngiadau amser sy’n gysylltiedig â chyfrif â llaw yn cyfyngu ar faint o ail-gyfrif y gellir ei wneud, credwn fod opsiynau llawer gwell o ran ail-gyfrif a thryloywder data lle defnyddir cyfrif electronig.

Cwestiwn 11: Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r rheolau drafft ar gyfer STV yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Pa effeithiau ydych chi’n credu fyddai? Sut gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?  

Dim barn.

Cwestiwn 12: Eglurwch hefyd sut y credwch y gellid newid y rheolau er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau negyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Dim barn.

Cwestiwn 13: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i’w hamlinellu.

Er ein bod yn croesawu’n fawr y symudiadau tuag at STV yng Nghymru a bod hwn bellach yn opsiwn ar gyfer cynghorau yng Nghymru, rydym yn parhau i fod o’r farn bod natur ganiataol hyn, yn creu rhwystrau sylweddol.

Rydym wedi bod yn cynnal darn sylweddol o waith gyda chynghorwyr am y ddwy flynedd ddiwethaf, yn eu harolygu, yn cyfarfod â nhw ac yn clywed eu pryderon. Mae llawer o gynghorwyr yng Nghymru yn gefnogol i’r newid ond wedi dweud wrthym na fyddent yn hoffi i’w cyngor fod yr unig un i wneud y newid hwn.

Mae’r cam hwn hefyd o dan anfantais oherwydd diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch STV a’r broses ar gyfer newid systemau pleidleisio.

Mae’n amlwg bod y cyfrifoldeb ar gynghorau unigol i bleidleisio dros symud i STV yn gosod rhwystrau sylweddol, o ran capasiti a chyllid. Bydd yn rhaid i gynghorau sy’n symud i STV fuddsoddi mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfathrebu cyn etholiad a bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â chyfrif â llaw fel y trafodwyd yn ein hateb i gwestiwn 1. Yn y cyfamser, ni fydd cynghorau sy’n cadw at system anghymesur y Cyntaf i’r Felin yn wynebu i unrhyw gostau newydd.

Fel y cyfryw, credwn o dan y trefniadau presennol y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y maent yn cynnig cymorth i gynghorau wrth iddynt symud i system etholiadol decach. Gallai un opsiwn fod yn gronfa ariannol ar gyfer cynorthwyo’r cynghorau cyntaf i newid systemau cyn etholiadau 2027 a thalu’r costau cysylltiedig. Os yw Cynrychiolaeth Gyfrannol opsiynol yn mynd i weithio, credwn y bydd angen i gynghorau sy’n glynu at FPTP weld effeithiau cadarnhaol newid i STV gan gynghorau eraill, a all arwain y ffordd; mae hefyd angen sicrhau nad oes unrhyw anfantais sylweddol i gynghorau sy’n gwneud y newid cadarnhaol hwn i STV.

Rydym hefyd yn parhau i fod o’r farn mai’r ffordd orau o ddiwygio democratiaeth leol yng Nghymru yw i bob awdurdod lleol symud i ddefnyddio STV ar gyfer eu hetholiadau lleol ar yr un pryd, sef yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban ar gyfer eu hetholiadau awdurdod lleol yn 2007.

 

[1] https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/time-for-change-the-2022-welsh-local-elections-and-the-case-for-stv/

[2] https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2021-03/implementation-of-a-single-transferable-vote-system-for-local-elections-in-wales. pdf, t27

[3] Ibid, t28.

[4] https://www.researchgate.net/publication/327702499_COMPARISON_OF_WITHIN-PARTY_VOTING_PATTERNS_IN_RECENT_STV_ELECTIONS_IN_SCOTLAND_NORTHERN_IRELAND_IRELAND_AND_MALTA

[5] https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gwaith/ein-rôl/diwygio-senedd-dyfodol/panel-arbenigol-ar-ddiwygio-etholiadol/, t 138.

[6] Ibid.

[7] https://www.gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2021-03/implementation-of-a-single-transferable-vote-system-for-local-elections-in-wales.pdf, t28

 

Darllen mwy o bostiadau...