Hefyd ar gael yn: English

Ymateb ERS Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ‘Newid Etholiadol yng Nghymru’

Wedi'i bostio ar y 23rd Hydref 2017

1.   Rhagarweiniad

Mae datganoli pwerau dros etholiadau’n rhoi cyfle arwyddocaol i Gymru wneud pethau’n wahanol er budd pleidleiswyr a darpar bleidleiswyr ledled y wlad. Rydyn ni’n falch iawn gweld cymaint o gynigion blaengar o fewn yr ymgynghoriad hwn, fydd yn golygu mai Cymru fydd yn gosod yr agenda o ran sut rydyn ni’n rhedeg ein hetholiadau.

Er ein bod ni wedi ymateb i’r ymgynghoriad hwn yng nghyd-destun etholiadau lleol, buasem yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried sut gallai’r newidiadau hyn effeithio ar etholiadau eraill. Gallai amryw o’r newidiadau hyn, er enghraifft un gofrestr electronig a newid mewn mannau pleidleisio, hefyd wella cyfranogiad yn etholiadau’r Cynulliad.

Dylai annog mwy o gyfranogiad, a hwnnw’n gyfranogiad mwy ystyrlon, fod yn gonglfaen i newid etholiadol, ac edrychwn ymlaen at weld gwell etholiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru.

2.    Adeiladu’r etholfraint

C1 – A ydych yn cytuno y dylai’r oed i gael hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru gael ei ostwng i 16?

Mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol wastad wedi bod o blaid gostwng yr oedran ar gyfer pleidleisio i 16, a chredwn y dylai hyn ddigwydd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae tystiolaeth o’r refferendwm ar annibyniaeth yr Alban, ynghyd ag ymchwil o Awstria a Norwy, yn dangos – gydag anogaeth teuluoedd ac ysgolion – bod mwy o bobl 16 a 17 oed yn mynd ati i bleidleisio na’r rheiny sydd rhwng 18 a 24 oed.

Er ein bod yn cydnabod nad oes mo’r fath beth ag ateb i bob dim o ran gwella cyfranogiad dinasyddion mewn gwleidyddiaeth ffurfiol, ac nad oes un achos penodol, mae’r ffordd y daw pobl ifanc i gysylltiad â gwleidyddiaeth yn eu blynyddoedd ffurfiannol yn hanfodol bwysig i ddyfodol democratiaeth gynrychiadol.

Os yw pobl ifanc yn cofrestru’n gynnar ac yn dod i arfer â phleidleisio, byddwn yn gweld gwelliannau parhaus yn y nifer sy’n pleidleisio’n rheolaidd. Os ydyn nhw’n pleidleisio’n ifanc, byddant yn dal ati i bleidleisio yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Y genhedlaeth nesaf o bleidleiswyr yw’r gyntaf i fod wedi derbyn addysg ddinasyddiaeth, eto i gyd cânt eu gwadu rhag eu hawliau llawn fel dinasyddion. Byddai rhoi’r bleidlais i bobl 16 a 17 oed yn caniatáu trosglwyddiad hwylus rhwng dysgu am bleidleisio, etholiadau a democratiaeth, a rhoi gwybodaeth o’r fath ar waith.

Yn ddelfrydol, byddai unrhyw gamau tuag at ymestyn yr oed pleidleisio yng Nghymru, yn berthnasol ar gyfer pob etholiad, gan gynnwys etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Serch hynny, ni ddylai methiant Llywodraeth y DU i ystyried hyn ar gyfer Etholiadau Cyffredinol ac etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ein hatal ni rhag dal ati i ymgyrchu dros ostwng yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau a reolir gan Lywodraeth Cymru.

Credwn fod y cyd-destun yn ddelfrydol ar gyfer estyniad o’r fath, yn arbennig o gofio’r cynnydd a welwyd yn y nifer o bobl 18-24 oed a aeth ati i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ym Mehefin.

C2 – A ddylai dinasyddion yr UE sy’n symud i Gymru ar ôl i’r DU adael yr UE barhau i gael yr hawl i bleidleisio?

Dim barn

C3 – A ddylai hawliau pleidleisio gael eu hymestyn i’r holl drigolion cyfreithlon Cymru, beth bynnag fo’u cenedligrwydd neu ddinasyddiaeth?

Dim barn

C4 – Caiff dinasyddion yr UE a’r Gymanwlad sefyll i gael eu hethol i lywodraeth leol yng Nghymru. A ddylai hyn barhau a chael ei ymestyn i bob cenedl sy’n gymwys i bleidleisio?

Dim barn

3.   Gwella Cofrestru

C5 – A ddylai swyddogion cofrestru etholiadol fod â mwy o ddewis o ffynonellau ar gael iddynt i helpu dinasyddion i gael eu hychwanegu at y gofrestr?

Yn ôl ein hymchwil a gynhaliwyd cyn yr Etholiad Cyffredinol eleni amcangyfrifir bod 350,000 heb eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol. Mae cynyddu’r nifer sy’n cofrestru’n hanfodol bwysig i sicrhau bod mwy o bobl yn pleidleisio a bod gwell cynrychiolaeth o amrywiaeth eang o farn pleidleiswyr.

Credwn pe bai gwell amrywiaeth o ran adnoddau ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, y gellid sicrhau proses llawer mwy effeithlon, fyddai’n arwain at fwy o bobl ledled Cymru wedi’u cofrestru.

Byddem hefyd o blaid y syniad o gofrestru awtomatig, sy’n golygu y gallai pleidleiswyr gofrestru pan fyddant yn ymwneud â meysydd eraill o lywodraethiant, er enghraifft wrth wneud cais am basbort neu drwydded yrru.

C6 – Yn eich barn chi, pa ffynonellau data ddylai swyddogion cofrestru etholiadol eu defnyddio?

Wrth ystyried ffynonellau eraill ar gyfer data, mae’n hanfodol bwysig bod y ffynonellau data a gyrchir yn cael eu defnyddio gan gynifer o bobl â phosib o wahanol gymunedau ledled Cymru. Buasem yn awgrymu y byddai data’r GIG, gwybodaeth o basport, cofrestru yn y brifysgol, ceisiadau i’r DVLA, cyfleustodau cyhoeddus, gwybodaeth gan ysgolion (yn ymwneud â chyraeddiadau) a gwybodaeth lles, yn ddefnyddiol. Tra bod gwarchod data, wrth reswm, yn fater o bryder, credwn y gellid gosod mecanweithiau priodol mewn lle er mwyn sicrhau bod rhannu data fel hyn yn cydymffurfio â chyfyngiadau.

Mater arall i bleidleiswyr yw’r ffaith ei bod yn anodd iawn gwirio ar hyn o bryd os ydych chi wedi cofrestru. Buasem o blaid y syniad o greu rhyw fath o wefan swyddogol fyddai’n ei gwneud yn hawdd i bleidleiswyr wirio a ydyn nhw wedi cofrestru, ac os ydyn nhw, yn ble.

Q7 – A ddylai ystod ehangach o staff awdurdodau lleol gael yr hawl i helpu dinasyddion i gofrestru drwy gael mynediad i gofrestr y llywodraeth leol a bod â’r gallu i’w diwygio?

Buasem o blaid hyn yn ddamcaniaethol, yn arbennig parthed cofrestru awtomatig, ond byddai rhaid cymryd camau o ran gwarchod data, gan roi ystyriaeth lawn i bwy yn union fyddai’n cael mynediad i’r gofrestr.

C8 – Pa fesurau rheoli ddylid eu defnyddio i sicrhau bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cadw rheolaeth gyffredinol dros y gofrestr?

Does gennym ni ddim barn benodol ar y math o fesurau sydd eu hangen.

C9 – A ddylai rheolau cofrestru unigolion gael eu llacio i ganiatáu ar gyfer cofrestriadau bloc mewn amgylchiadau penodol, gan ddiogelu hawliau pleidleisio poblogaethau a fyddai fel arall mewn perygl o gael eu hallgau?

Mae enghreifftiau o lacio’r rheolau cofrestru unigol, fel yr hyn a wnaed ym Mhrifysgol Sheffield , wedi dangos bod manteision sylweddol yn perthyn i feddwl yn wahanol am sut i gofrestru pleidleiswyr dan rai amgylchiadau penodol.

Yng Nghymru, gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol mewn prifysgolion, blociau o fflatiau, cartrefi gofal a thai aml-ddeiliaid.

Yn ogystal â hyn, mae’r Comisiwn Etholiadol yn amcangyfrif bod 17% o bleidleiswyr dilys o gymunedau croenddu a lleiafrifol ethnig ar goll o’r gofrestr. Gallai cofrestru bloc, yn arbennig o fewn cymunedau CLlE, fynd i’r afael â’r broblem hon i raddau.

C10 – A ddylem osod dyletswydd ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol (SCE) i ystyried a ddylai unrhyw grwpiau unigol yn eu hardal etholiadol gael eu targedu’n benodol mewn ymgyrchoedd cofrestru?

O gofio bod rhai grwpiau penodol yn llawer llai tebygol o fod wedi’u cofrestru nag eraill, gan gynnwys pobl ifanc, pobl o leiafrifoedd ethnig, trigolion cartrefi gofal a thai aml-ddeiliaid, credwn y gallai mesurau i ganiatáu SCE i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y gofrestr fod yn gam arbennig o bositif.

C11 – A ddylem gyflwyno trefniadau sy’n golygu bod gan asiantaethau sy’n ymwybodol o bobl yn symud ddyletswydd i roi gwybod i’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol?

Buasem o blaid gwell mecanweithiau fyddai’n caniatáu i asiantaethau hysbysu SCE ynglŷn â phobl yn newid cyfeiriad. Serch hynny, er ein bod yn gefnogol i’r syniad o well prosesau ar gyfer hysbysu’r awdurdodau ynglŷn â phleidleiswyr yn symud, nid ydym yn argyhoeddedig bod angen gwneud hyn yn ddyletswydd.

C12 – Beth yw eich barn am ddatblygu un gofrestr electronig ar gyfer Cymru?

Byddai datblygu un gofrestr electronig ar gyfer Cymru’n gam cadarnhaol dros ben yn nhermau effeithlonrwydd ar gyfer sut caiff etholiadau yn y wlad eu rheoli a’u rhedeg. Buasem yn gwbl gefnogol i’r mesur hwn.

4.   Y system bleidleisio

C13 – A ydych yn cytuno y dylai prif gynghorau unigol fod yn gallu dewis eu system bleidleisio?

Mae ERS Cymru croesawu’r penderfyniad i gynnwys y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn yr ymgynghoriad hwn, ac rydym yn canmol Llywodraeth Cymru am gynnwys y system bleidleisio yn y drafodaeth hon.

Byddai system bleidleisio decach ar gyfer llywodraeth leol – fyddai’n caniatáu i bleidleiswyr restru ymgeiswyr yn eu trefn – yn gam sylweddol tua’r cyfeiriad cywir. Byddai symud i ffwrdd o system San Steffan, lle mae’r enillydd yn hawlio’r cyfan, yn golygu bod pleidlais pawb yn cyfrif mewn etholiadau lleol, gan roi terfyn ar oes pleidleisiau wedi’u gwastraffu a byw mewn gobaith. Mae’n rhan normal o fywyd i bleidleiswyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan leihau’r nifer o seddi sydd heb gystadleuaeth amdanyn nhw, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.

Yn etholiad mis Mai, nid oedd gan bron i 130,000 o bleidleiswyr unrhyw ddewis, gan nad oedd cystadleuaeth am 92 o seddi yng Nghymru. Yn yr etholiad PSD cyntaf yn yr Alban, cynyddodd y nifer o ymgeiswyr ar gyfartaledd ym mhob ward o 3.4 yn 2003 dan Ci’rF i 7.1. Yn 2012 dan PSD, cynyddodd y ganran o bobl a welodd eu dewis cyntaf o ymgeisydd yn cael ei ethol o 52% yn 2003 i 77% yn 2012.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyntaf i’r Felin yn arwain at ganlyniadau annheg a chynghorau sydd i bob diben ond yn cynrychioli un diwylliant. Dan y system gyfredol, gall y rheiny sy’n dod yn drydydd o ran eu cyfran o’r bleidlais fynd ymlaen i ennill y nifer fwyaf o seddi. Yr enghraifft amlycaf o hyn oedd Caerdydd yn 2008, lle daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyntaf o ran y nifer o seddi ond yn drydydd yn nhermau pleidleisiau. Dangosodd yr Etholiad Cyffredinol ym Mehefin broblemau pellach â’r system bleidleisio gyfredol yng Nghymru, gyda chwarter y pleidleiswyr yn cael eu gorfodi i bleidleisio’n dactegol gan fod ‘y cyntaf i’r felin’ yn methu gwneud i’w llais gyfrif.

Rydym hefyd yn cytuno mai PSD yw’r dewis amgen mwyaf addas o gymharu â’r Ci’rF, gan nad yw’n anfanteisio ymgeiswyr annibynnol a’i fod yn caniatáu i’r cysylltiad lleol gael ei gadw. Ynghyd â hyn, mae’n rhoi cymhelliant i bob plaid estyn allan y tu hwnt i’r pleidleiswyr hynny maen nhw eisoes yn eu targedu, wrth iddynt fynd ati i ennill pleidleisiau ‘ail ddewis’.

Serch hynny, credwn fod gwendidau difrifol yn perthyn i’r model Cynrychiolaeth Gyfrannol ‘blaengar’ a gynigir, o ran ble bydd ei bwerau, a buasem yn argymell model amgen ble byddai’r Ci’rF yn cael ei ddisodli’n gyfangwbl gan PSD.

Byddai clytwaith o systemau pleidleisio mewn etholiadau lleol yn debygol o beri dryswch, a gwneud addysgu’r cyhoedd am y system yn eu hardal yn fwy cymhleth. Caiff hyn ei ddwysáu gan y ffaith bod gennym ni wahanol systemau pleidleisio ar gyfer gwahanol etholiadau yng Nghymru eisoes.

Mae’n syniad gwael bod â gwahanol systemau pleidleisio mewn clytwaith ar draws 22 o awdurdodau yng Nghymru. Byddai hyn yn arwain at anghysondeb mewn llywodraethiant, dryswch i bleidleiswyr a phleidiau fel ei gilydd, ac yn aml y rheiny sy’n awyddus i gynnal y status quo fyddai â’r pŵer i graffu ar y broses.

Byddai symudiad cyson at PSD yn ffordd well o sefydlu model da ar gyfer llywodraethiant. Fel y nodwyd uchod, byddai PSD yn darparu plwraliaeth ar lefel awdurdod lleol er mwyn sicrhau gwell craffu ar gynrychiolwyr rhanbarthol, yn ogystal â sicrhau bod cyswllt a llais lleol cryfach yn cael eu cynnal.

C14 – A ydych yn cytuno y dylid cael mwyafrif o ddwy-ran-o-dair ar gyfer newid cyfansoddiadol fel hwn?

O ran etholiadau lleol, buasem o blaid cyflwyno pob un o’r newidiadau arfaethedig hyn fel rhan o’r Bil Llywodraeth Leol sydd ar y gweill a dilyn y broses ddeddfwriaethol normal. Yn yr Alban, cyflwynwyd PDS heb unrhyw angen am fwyafrif o ddwy-ran-o-dair, a chredwn y dylai Cymru fod yn gyson â hyn.

C15 – A ydych yn cytuno y dylai cyfnod llywodraeth leol yng Nghymru gael ei osod ar bum mlynedd?

Mae bod â chyfnod gosod ar gyfer etholiadau o gymorth o ran cynllunio ymlaen llaw a cheisio symud yr etholiadau hyn i ffwrdd o rai eraill. Rydyn ni’n gwybod y gall rhedeg sawl ymgyrch ar yr un pryd yn aml dynnu sylw i ffwrdd o etholiadau eraill. Er enghraifft, roedd Etholiad y Cynulliad yn 2016 yn cynnwys cryn lawer o drafodaeth am yr Undeb Ewropeaidd, gan iddo gael ei gynnal fis cyn y Refferendwm ar aelodaeth o’r UE. Cynhaliwyd etholiadau lleol 2017 fis cyn yr Etholiad Cyffredinol; buasem yn awgrymu bod hyn wedi golygu llawer llai o sylw yn wasg a chraffu ar yr etholiadau lleol.

Er ein bod o blaid cyfnodau pum mlynedd, byddai glynnu at yr amserlen bresennol unwaith eto’n golygu bod etholiadau lleol yng Nghymru’n cael eu cynnal ar yr un pryd ag Etholiad Cyffredinol 2022. Byddai’n werth ystyried a ddylid newid y cyfnod presennol er mwyn osgoi cael y naill yn cydredeg â’r llall; serch hynny, fel y gwelwyd gyda’r etholiad brys eleni, ni ellir rhagweld rhai etholiadau.

5.   Y broses bleidleisio

C16 – A ydych yn cytuno mewn egwyddor y byddai’n fuddiol diwygio’r system bleidleisio i annog mwy o bobl i gymryd rhan?

Dylai lleihau’r rhwystrau i gyfranogiad fod yn un o brif amcanion diwygio etholiadol, ynghyd â system gynrychiolaeth deg. Rydyn ni’n croesawu ymdrechion yr ymgynghoriad hwn i ystyried o ddifrif sut gallwn ni wella cyfranogiad, yn arbennig ymysg grwpiau ‘coll’.

Eto i gyd, nid yw cynyddu cyfranogiad yn amcan syml i’w chyflawni, a bydd angen gwneud cryn lawer mwy i gyflawni hyn ar raddfa sylweddol na mesurau etholiadol yn unig.

Yng Ngorffennaf, lansiodd ERS Cymru ‘Lleisiau Coll’, prosiect sydd â’r nod o ddod i ddeall beth sy’n rhwystro pobl rhag pleidleisio yng Nghymru.

Tra bod y prosiect ar hyn o bryd yn mynd rhagddo, yr argraff gynnar yw bod diffyg gwybodaeth yn rhwystro pobl rhag pleidleisio. Dywed pleidleiswyr a’r rheiny sydd ddim yn pleidleisio bod y ffaith nad ydyn nhw’n sicr beth maen nhw’n pleidleisio drosto (yn arbennig yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau lleol) yn elfen allweddol.

Cytunwn yn llwyr â’r egwyddor o ddiwygio etholiadau – er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif a chryfhau’r cysylltiad rhwng dinasyddion â sefydliadau democrataidd yng Nghymru – ac rydym yn canmol Llywodraeth Cymru am sbarduno’r broses hon.

Yn olaf, nid oes unrhyw un o’r argymhellion yn yr ymgynghoriad hwn yn ateb pob dim o ran cynyddu cyfranogiad: caiff y newidiadau hyn yr effaith fwyaf fel rhan o becyn o newidiadau cadarnhaol i sbarduno democratiaeth yng Nghymru. Gall y rhain gynnwys gwell addysg wleidyddol ar gyfer pobl ifanc, yn ogystal â’r ddarpariaeth ehangach o wybodaeth etholiadol ledled Cymru gan lywodraeth, gwleidyddion a’r cyfryngau.

C17 – A oes unrhyw gynlluniau eraill na roddir sylw iddynt y gellid eu defnyddio i alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru?

Yn ogystal â’r ymchwil a amlinellir uchod drwy ein prosiect ‘Lleisiau Coll’, elfen allweddol yn llwyddiant y mentrau a awgrymir yn yr ymgynghoriad hwn yw ymwybyddiaeth o’r newidiadau hyn. Yn y pen draw, pan gaiff ei basio’n ffurfiol, dylid lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar raddfa eang i esbonio ffurf newydd etholiadau lleol yng Nghymru.

Mae’r newidiadau hyn hefyd yn rhoi’r dewis i Lywodraeth Cymru ddiweddaru ei rhaglen addysg ddinasyddiaeth yng Nghymru, yn arbennig pe bai’r bleidlais yn cael ei hymestyn i bobl 16 ac 17 yn lleol, ac yna i Etholiadau’r Cynulliad maes o law. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd addysg wleidyddol yn ein hadroddiad Welsh Power II a buasem yn awgrymu bod angen am gryn welliannau yn y maes yma o hyd.

Mewn trafodaeth ddiweddar o amgylch y bwrdd a gynhaliwyd ar addysg wleidyddol, roedd pobl yn gytun y dylai addysg wleidyddol fod yn seiliedig ar achosion; mae angen i bobl ifanc weld rhesymau pam bod dinasyddiaeth weithredol yn gweithio. Mae’n bwysig bod pobl yn dod i arfer ag ymwneud â democratiaeth, ac mae angen i hyn ddechrau cynted â phosib. Mae datganoli yng Nghymru’n dangos sut gall hyn ddigwydd yn nes adref. Ynghyd â hyn, mae’n arbennig o bwysig bod pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i edrych ar ffynonellau newyddion yn fwy beirniadol yn y cyd-destun ‘ôl-wirionedd’ presennol.

Prosiect arall diweddar gan y Gymdeithas yw ‘Menter Ysgolion Democrataidd’ dan arweiniad ERS yr Alban. Mae myfyrwyr yn cael y profiad gorau o gyfranogiad democrataidd drwy ei weld yn effeithio ar un o’r rhannau pwysicaf o’u bywydau: eu diwrnod ysgol. Ar draws y byd, mae cannoedd o enghreifftiau o ysgolion sy’n cael eu rhedeg yn ddemocrataidd, lle mae disgyblion yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynglŷn â sut mae eu dosbarthiadau, eu cwricwlwm ac adeiladau eu hysgol yn cael eu rhedeg.

Byddai gwella addysg wleidyddol ochr-yn-ochr â’r newidiadau etholiadol pwysig hyn yn gam pwysig iawn yn nhermau cynyddu cyfranogiad, yn arbennig ymysg pobl ifanc.

C18 – A ddylai cynghorau gael dewis defnyddio system bleidleisio drwy’r post yn unig yn etholiadau’r cyngor?

Tra bod cynlluniau peilot o amgylch pleidleisio drwy’r post, a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn 2004, yn dangos cynnydd o 5% yn y nifer a gymerodd ran, buasem yn rhybuddio’n gryf yn erbyn unrhyw gamau o’r fath ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae’n debygol, dros gyfnod o amser, y byddai nifer y pleidleiswyr yn gostwng unwaith eto, yn arbennig gan na fyddai pleidleisio drwy’r post yn unig yn darparu ar gyfer pob cynulleidfa, yn arbennig cynulleidfaoedd ieuengach.

Yn y pen draw, er mwyn cynyddu’r nifer sy’n pleidleisio ar draws sbectrwm eang o ddinasyddion, mae angen darparu amrediad o opsiynau er mwyn caniatáu i bleidleiswyr ddewis y dull sy’n iawn iddyn nhw.

C19 – A ddylid cynnal ymarferiadau peilot i ddechrau?

Ddim yn berthnasol.

C20 – A ddylai cynghorau gael defnyddio system bleidleisio drwy’r post yn unig mewn ward unigol neu mewn nifer o wardiau o fewn ardal y cyngor?

Byddai hyn y debygol o beri dryswch a byddai’n anodd iawn i’w reoli.

C21 – A ddylai pleidleisio electronig fod ar gael mewn etholiadau lleol?

Mae amryw o anawsterau’n perthyn i bleidleisio electronig ar hyn o bryd, yn arbennig o fewn gorsafoedd pleidleisio. Tra bod diogelwch yn ffactor, mae yno hefyd anawsterau â systemau’n methu. Byddai cost gosod nifer o sgriniau electronig ym mhob gorsaf bleidleisio’n waharddol, ac mae yno hefyd dystiolaeth sy’n awgrymu y byddai nifer y pleidleiswyr o bosib yn lleihau.   Ynghyd â hyn, nid yw pawb yn gyfforddus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, felly gallai fod rhai anawsterau o ran hygyrchedd yn yr achos hwn.

Mae tystiolaeth o wlad Belg, er enghraifft, wedi dangos gostyngiad yn nifer y pleidleiswyr mewn bwrdeistrefi sy’n defnyddio peiriannau pleidleisio electronig, er gwaethaf defnydd y wlad honno o bleidleisio gorfodol.

Serch hynny, o gofio pa mor gyflym mae technoleg yn datblygu, buasem yn rhybuddio yn erbyn dweud na ddylid fyth defnyddio pleidleisio electronig. Gyda’r datblygiadau cywir a gwybodaeth ar gyfer pleidleiswyr, gallai bod achos dros dreialu pleidleisio electronig ryw dro yn y dyfodol.

C22 – A ddylai pleidleisio o bellter fod ar gael mewn etholiadau lleol?

Er bod yno ar hyn o bryd broblemau’n gysylltiedig â phleidleisio o bellter, a llawer o sinigiaeth o ran diogeledd, credwn y gallai hyn fod yn opsiwn yn y dyfodol. Buasem yn argymell rhoi cynnig ar bleidleisio o bellter yng Nghymru, yn arbennig os gellir gwella’r systemau cymorth.

C23 – A ddylid cyflwyno cyfrif electronig ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru?

Mae tystiolaeth o’r Alban yn awgrymu bod pleidleisio electronig wedi bod yn llwyddiannus mewn etholiadau yno, yn arbennig o ystyried bod y system bleidleisio a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau Senedd yr Alban (PSD) yn cymryd mwy o amser i’w chyfrif.

 

Yng Nghymru, buasem yn gefnogol i’r syniad o ddadansoddiad cost a budd, ac o gofio ein cefnogaeth i fabwysiadu Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau lleol, buasem yn awgrymu cyflwyno cyfrif electronig pe bai’r system bleidleisio’n newid.

C24 – A ddylai gorsafoedd pleidleisio symudol fod ar gael mewn etholiadau lleol?

Mae tystiolaeth o’n prosiect ‘Lleisiau Coll’ wedi dangos y gall mynediad i orsafoedd pleidleisio fod yn anodd mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd un aelod o’r grŵp ffocws y bu rhaid iddo fodio’i ffordd i bleidleisio. Gyda phobl ifanc yn llai tebygol o bleidleisio drwy’r post o bosib, gallai hyn fod yn ddull amgen da mewn ardaloedd perthnasol.

Yn yr Wcráin, mae gorsafoedd pleidleisio symudol wedi bod yn llwyddiannus, gyda bythau pleidleisio bach yn cael eu cludo i dai pobl, os oedd angen hynny. Cynhyrchwyd fideo yn 2015 gan y Sefydliad Cenedlaethol er Systemau Etholiadol a Chomisiwn Etholiadol yr Wcráin i ddangos sut oedd hyn yn gweithio.

C25 – A ddylem alluogi swyddogion etholiadau i ddefnyddio mannau pleidleisio eraill yn ogystal â gorsafoedd pleidleisio sefydlog?

Gallai cyflwyno mannau pleidleisio fod yn ddefnyddiol ar lefel leol. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu bod pobl mewn etholiadau lleol (yn hytrach nag etholiad cyffredinol) yn llai tebygol o bleidleisio os ydyn nhw’n byw cryn bellter o’u gorsaf bleidleisio. Canfu astudiaeth o bleidleiswyr ym Mwrdeistref Brent, Llundain gan yr arbenigwr cynllunio Orford a’r arbenigwyr ar etholiadau llywodraeth leol Rallings & Thrasher, y gellid cynyddu’r nifer sy’n pleidleisio cymaint â 5 y cant drwy osod gorsafoedd pleidleisio’n ofalus. Dangosodd yr astudiaeth fod y nifer sy’n mynd ati i bleidleisio mewn etholiadau lleol i’w gweld yn disgyn yn sylweddol unwaith y caiff gorsafoedd pleidleisio eu symud fwy na 600m o’r pleidleiswyr. Wrth reswm, mae amgylchiadau pleidleiswyr Brent yn wahanol iawn i rai trigolion ardaloedd gwledig yng Nghymru, ond mae dadl gref dros gadw mannau pleidleisio mor agos â phosib i’r pleidleiswyr.

Yn nhermau mannau pleidleisio, buasem yn argymell canolfannau trafnidiaeth, archfarchnadoedd a meddygfeydd, yn ogystal â chanolfannau cymunedol mewn ardaloedd lle mae nifer y pleidleiswyr yn is yn draddodiadol.

Mae cost, wrth gwrs, yn ffactor mewn ychwanegu mannau pleidleisio, felly rhaid ystyried hyn wrth gynllunio sawl un o’r rhain ellir eu cynnal. Byddai hefyd angen hyrwyddo pa rai o’r mannau pleidleisio amgen hyn fyddai ar gael ym mhob cymuned, er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn cymryd mantais lawn o’r cyfle.  Un ffordd o liniaru cost sefydlu mannau pleidleisio ychwanegol fyddai cyflwyno’r gallu i bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio, fyddai’n ddigon posib pe bai un gofrestr electronig yn cael ei chyflwyno. Mae’n debygol y byddai hyn yn rhoi mwy o ddewisiadau i’r pleidleiswyr o ran ble gallant fynd i bleidleisio, gan leihau’r angen am nifer fawr o fannau pleidleisio ychwanegol. Wrth reswm, byddai hyn yn haws mewn etholiad a gynhelir ar raddfa fawr, gyda llai o ymgeiswyr, felly gall fod yn fwy addas ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Serch hyny, credwn y byddai’n syniad ystyried opsiynau ar gyfer sut gellid gwneud i hyn weithio mewn etholiadau lleol yng Nghymru.

C26 – A ddylem ei gwneud yn bosibl i etholiadau lleol gael eu cynnal ar fwy nag un diwrnod ac ar ddyddiau heblaw dydd Iau?

Does dim rheswm penodol pam dylid parhau i ddefnyddio dydd Iau fel diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiadau yng Nghymru.

Yn wir, byddai penwythnosau’n opsiwn cryf ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau lleol, y arbennig o gofio bod gwledydd sy’n pleidleisio ar benwythnosau’n tueddu i gael nifer fwy o bleidleiswyr. Fel rhan o’n prosiect ‘Lleisiau Coll’ rydyn ni wedi derbyn cryn lawer o adborth sy’n awgrymu y byddai pleidleisio dros ddau ddiwrnod ar y penwythnos o fudd mawr i’r rheiny sy’n gweithio oriau hir neu shifftiau. Gallai cyfuniad o newid y diwrnod, gyda phleidleiswyr yn gallu pleidleisio mewn gwahanol leoliadau neu amrywiaeth o orsafoedd pleidleisio, wneud gwahaniaeth sylweddol i bleidleiswyr yng Nghymru.

Byddai unrhyw newidiadau, wrth gwrs, yn dibynnu i raddau helaeth ar ba mor dda maen nhw’n cael eu hyrwyddo, a gallai cynnal etholiad dros ddau ddiwrnod gynyddu’r gost. Serch hynny, gallai cynnal etholiadau dros y penwythnos leihau costau i ryw raddau mewn achos lle caiff ysgolion eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio.

C27 – A ddylid ystyried symleiddio’r deunydd darllen a’r gweithdrefnau ar gyfer pleidleisio drwy’r post?

Rydym o blaid symleiddio gweithdrefnau ar gyfer pleidleisio drwy’r post mewn egwyddor, serch hynny, ychydig iawn o dystiolaeth sy’n bodoli i awgrymu bod unrhyw broblemau sylweddol yn perthyn i’r broses.

C28 – Yn eich barn chi, sut dylai’r broses gael ei symleiddio?

Mae unrhyw fesurau i wella’r broses a lleihau’r nifer o bleidleisiau sy’n cael eu gwrthod, i’w croesawu, ond rhaid cynnal cywirdeb y broses bleidleisio drwy’r post.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dwyn sylw at ddryswch ynglŷn â’r cwestiwn: a ddylai pleidleiswyr ysgrifennu eu dyddiad geni neu ddyddiad cwblhau’r bleidlais drwy’r post ar y ffurflen? Rydym yn cefnogi galwad y Comisiwn Etholiadol am flwch ar wahân ar gyfer dyddiad cwblhau’r ffurflen, gan y byddai hyn yn datrys un cymhlethdod bach o fewn y broses, yn ogystal â chynnal cywirdeb yr etholiad.

C29 – A ddylai etholwyr sy’n mynd i orsaf bleidleisio orfod dangos dogfen adnabyddiaeth cyn cael pleidleisio? Os felly, pa fathau o ddogfennau adnabyddiaeth ddylai fod yn dderbyniol?

Credwn y byddai gofyn i bleidleiswyr am ddogfennau adnabyddiaeth cyn y gallan nhw bleidleisio’n niweidiol i etholiadau lleol. Yn y pen draw, ychydig iawn o dystiolaeth sy’n bodoli i awgrymu bod twyll yn digwydd ar ffurf unigolyn yn personadu rhywun arall. Yn Etholiad Cyffredinol 2015, dim ond 26 honiad o hyn wnaed ledled y DU.

Yn wir, yn hytrach na datrys unrhyw fater, gallai gofyn am brawf adnabyddiaeth greu rhwystrau sylweddol. Mae tystiolaeth bod rheolau llym o ran dangos dogfennau adnabyddiaeth yn UDA yn anfanteisio’n anghymesur y grwpiau hynny sydd eisoes ar gyrion cymdeithas. Nid yw’r dinasyddion hynny sydd ddim yn medru fforddio gwyliau tramor yn meddu ar basbort, ac nid oes trwydded yrru gan y rheiny sydd ddim yn gallu gyrru. Yng Nghyfrifiad 2011 nododd 9.5 miliwn o bobl nad oedd ganddynt basbort; mae 9 miliwn o bobl heb drwydded yrru, ac yn 2013/14 roedd 1.7 miliwn heb hyd yn oed gyfrif banc.

Yng Nghymru, credwn y byddai unrhyw fesurau i’w gwneud yn ofynnol i ddangos dogfennau adnabyddiaeth yn dwyn yr hawl i bleidleisio oddi ar gymunedau difreintiedig, sy’n llai tebygol o feddu ar basport neu drwydded yrru.

C30 – A yw manteision mynnu gweld dogfen adnabyddiaeth yn fwy na’r perygl o rwystro pleidleiswyr?

Gweler uchod.

6.   Sefyll etholiad

C31 – A ydych yn cytuno na ddylai fod yn angenrheidiol bellach i gyhoeddi cyfeiriad cartref ymgeisydd mewn deunydd etholiadol, gan gynnwys unrhyw beth a gyhoeddir yn electronig?

O ystyried problemau â bwlio ymgeiswyr gwleidyddol ar-lein, yn arbennig achosion o ymgeiswyr benywaidd yn cael eu targedu’n benodol yn yr etholiad diwethaf, buasem yn cytuno nad oes angen cyhoeddi cyfeiriad cartref ymgeiswyr. Serch hynny, mae cysylltiad ymgeiswyr â’u cymuned yn bwysig, felly buasem yn dadlau y gellid cyhoeddi’r dref neu’r ddinas maen nhw’n dod ohoni (neu ardal os yw’n ddinas fawr), yn hytrach na’r cyfeiriad llawn.

C32 – A ydych yn cytuno y dylid gofyn i bob ymgeisydd ddarparu datganiad personol i’w gynnwys ar wefan a ddarperir gan yr awdurdod y maent yn gobeithio cael eu hethol iddo?

Ar y cyfan, byddai’n syniad gofyn i bob ymgeisydd ddarparu datganiad personol ar gyfer y wefan. Mae’n annhebygol y byddai nifer fawr o bleidleiswyr yn cyrchu’r rhain, ond ni fyddai’r gost a’r ymdrech sydd ynghlwm mewn gwneud hyn yn uchel, a byddai gwerth ei wneud ar gyfer y pleidleiswyr hynny fyddai’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud eu penderfyniad.

C33 – Ydych chi’n cytuno na ddylid caniatáu i unigolyn wasanaethu fel Aelod Cynulliad yn ogystal â bod yn gynghorydd?

O gofio’r cyfyngiadau yn sgil maint presennol y Cynulliad, fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad ‘Mae Maint yn Bwysig’, credwn fod gormod yn cael ei ofyn eisoes o Aelodau Cynulliad. O ganlyniad i hyn, cytunwn y dylid rhoi terfyn ar yr hawl i wasanaethu fel  Aelod Cynulliad yn ogystal â bod yn gynghorydd.

C34 – A ydych yn cytuno y dylai fod yn ofynnol i ymgeiswyr ddatgelu unrhyw ymlyniad gwleidyddol sydd ganddynt?

Gellir gwneud achos clir dros ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd ddatgelu ymlyniad â phlaid wleidyddol. Yn y pen draw, byddai’n cynyddu faint o wybodaeth sydd ar gael am yr ymgeisydd ac yn gwella tryloywedd, gan olygu y byddai pleidleiswyr yn gallu gwneud penderfyniad mwy hysbys.

Serch hynny, er gwaethaf yr effeithiau positif sydd ynghlwm mewn gofyn i ymgeiswyr ddatgelu eu hymlyniad gwleidyddol, byddai hyn yn anodd iawn i’w orfodi yn ymarferol. Ynghyd â hynny, gall arwain at sefyllfaoedd lle mae pobl yn cyhuddo ymgeiswyr o beidio datgelu eu hymlyniad gwleidyddool heb fawr ddim tystiolaeth. Yn y pen draw, gallai hyn hefyd ddarbwyllo ymgeiswyr Annibynnol rhag sefyll etholiad.

Ond yn oddrychol, gall ymgeisydd fod wedi gadael un blaid gan newid ei feddwl ar faterion penodol, tra gallai eraill fod yn sefyll dros bleidiau gwahanol er mwyn cynyddu eu gobeithion o gael eu hethol.

Er ein bod o blaid ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddatgelu’r wybodaeth hon, mae gennym bryderon ynglŷn ag oblygiadau ymarferol camau o’r fath.

C35 – Pa fath o dystiolaeth dylai fod ei hangen i awgrymu bod ymlyniad gwleidyddol sydd heb ei ddatgelu?

Gweler uchod.

C36 – A ddylai unrhyw rai o staff y cyngor islaw’r lefel uwch fod yn gallu sefyll mewn etholiad i’w hawdurdod eu hunain?

Mae’r cyfyngiadau presennol ar staff cynghorau islaw’r lefel uchaf sydd am sefyll etholiad yn rhy eang. Mae cryn fanteision yn perthyn i rywun sy’n angerddol am eu hardal, ac sy’n gweithio i’w gwella, yn gallu sefyll etholiad.

Mae dadleuon i’r gwrthwyneb wrth gwrs, yn arbennig parthed pa mor annibynnol yw cynrychiolwyr etholedig o’r fath, ond i raddau, bydd gan bob cynrychiolydd eu profiadau personol o’r materion a drafodir ar lefel y cyngor. Er enghraifft, un o’r dadleuon yn erbyn caniatáu i staff y cyngor sefyll etholiad yw, sut allai rhywun sy’n gweithio yn y llyfrgell leol wneud penderfyniad goddrychol ynglŷn â’i dyfodol? Serch hynny, gallai cynghorwyr eraill fod yn ddefnyddwyr o’r llyfrgell honno, ac o’r herwydd byddai ganddyn nhw hefyd fuddiannau i’w gwarchod. Mae’n anodd iawn sicrhau goddrychedd, ond ni ddylem adael i hynny fod yn rhwystr.

C37 – A oes cyfiawnhad o hyd i gynghorau gadw rhestr o’r swyddi, heblaw am swyddi uwch-swyddogion, a ddylai fod dan gyfyngiadau gwleidyddol?

Dim barn.

7.   Swyddog Etholiadau

C38 – Ydych chi’n cytuno y dylai rôl statudol y prif weithredwr gynnwys gweithredu fel swyddog etholiadau? 

Ydym.

C39 – Ydych chi’n cytuno y dylai unrhyw ychwanegiad at gyflog mewn cydnabyddiaeth o ddyletswyddau swyddog etholiadau fod yn fater i’r awdurdod lleol i’w benderfynu?

Cytunwn mai mater i bob awdurdod lleol yw cyflog, serch hynny pe bai pob prif weithredwr mewn awdurdod lleol yn ymgymryd â rôl swyddog etholiadau’n awtomatig, buasem yn cwestiynnu pam dylid darparu cyflog ychwanegol.

C40 – A ddylai Llywodraeth Cymru symud at system o weithio allan costau etholiadau’r Cynulliad ar sail fformiwla y cytunwyd arni, yn seiliedig ar nifer yr etholwyr?

Mae maint y boblogaeth sy’n pleidleisio yn ddangosydd defnyddiol, ond nid yw’r unig un y dylid ei ddefnyddio. Mae gan wahanol etholaethau anghenion tra gwahanol. Er enghraifft, mae costau teithio’n amrywio’n sylweddol, felly hefyd dangosyddion economaidd o fewn pob cymuned.

C40 – A ddylid caniatáu i garcharorion Cymreig gofrestru i bleidleisio a chymryd rhan mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru? Os felly, a ddylid cyfyngu hyn i rai sydd wedi’u dedfrydu i lai na deuddeg mis, pedair blynedd, neu ddedfryd o unrhyw hyd?

Nid ydym wedi cynnal unrhyw ymchwil uniongyrchol hyd yn hyn ar hawliau carcharorion i bleidleisio; serch hynny, buasem yn annog Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â chynrychiolwyr o’r sectorau cyfiawnder a phrawf ar y mater hwn, ac yn arbennig â mudiadau’r trydydd sector sy’n rhoi cymorth i garcharorion.

Q42 – Pa ddull pleidleisio ddylai carcharorion ei ddefnyddio?

Mae’n debygol mai pleidlais drwy’r post fyddai’r dull mwyaf ymarferol ar gyfer carcharorion, o gofio bod carcharorion o Gymru wedi’u lledaenu ar draws pob rhan o’r DU.

C43 – Ym mha gyfeiriad ddylai carcharorion gael cofrestru i bleidleisio?

Buasem yn awgrymu os yw carcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru, yna dylid eu cofrestru yn eu hetholaeth gartref, yn hytrach nag etholaeth y carchar, er mwyn cynnal y cysylltiad â’u hetholaeth gartref. Bydd hyn yn lleihau unrhyw effaith yn sgil ‘pleidlais poblogaeth carcharorion’ mewn un ardal. Mae hefyd yn sicrhau nad yw carcharorion sy’n fenywod yn colli’r hawl i bleidleisio oherwydd nad oes unrhyw garchardai i fenywod yng Nghymru; anfonir y menywod hyn i sefydliadau y tu allan i’r wlad am gyfnod eu carchariad.

C44 – Rydym am wybod eich barn ar effeithiau posib newidiadau etholiadol ar yr iaith Gymraeg, yn arbennig ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Dim barn.

Pa effeithiau ydych chi’n credu fyddai?  Sut gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?

Dim barn.

C45 –  Hefyd a fyddech cystal ag esbonio sut rydych chi’n credu gellid ffurfio neu newid yr opsiynau a gynigir, er mwyn iddynt gael effeithiau cadarnhaol neu gynyddu’r effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac nad oes unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Dim barn.

C46 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i’w hamlinellu:

Rydym yn croesawu’r ymgynghoriad hwn ar y cyfan, ac rydym yn gwbl gefnogol i lawer o’r argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon. Serch hynny, bydd llwyddiant newidiadau etholiadol yng Nghymru’n ddibynnol i raddau helaeth ar yr hyn sy’n digwydd ar ôl i’r newidiadau hyn gael eu pasio.

Yn y pen draw, os nad yw pleidleiswyr yn gwybod am y newidiadau hyn, yna ni fyddant yn effeithiol. Mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru’n datblygu pecyn gwybodaeth dealladwy a chynhwysfawr ynglŷn ag unrhyw newidiadau mewn etholiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig, gan y bydd y newidiadau i ddechrau’n ymwneud ag etholiadau lleol, a gall cynnydd yn yr amrywiaeth o ran sut caiff gwahanol etholiadau eu rhedeg beri dryswch. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn gyfle ynddi ei hun i annog mwy o bleidleiswyr i gyfranogi mewn etholiadau lleol, gan leisio’u barn ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw.

Darllen mwy o bostiadau...