Hefyd ar gael yn: English

ERS Cymru Maniffesto

Author:
Electoral Reform Society,

Wedi'i bostio ar y 1st Mai 2016

Adfywio Eingwleidyddiaeth

Gwneud I Etholiad Weithio'n Well

Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae siâp gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi newid cryn ddipyn.  Rydym bellach yn byw mewn cyfnod o wleidyddiaeth aml-bleidiol, lle mae fwyfwy o straen ar sefydliadau pleidleisiwyr yn teimlo’n fwyfwy digyswlltiedig â gwleidyddiaeth.  Mae’n bryd newid sut yr ydym yn meddwl am wleidyddiaeth a dod â democratiaeth yn agosach at y bobl.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bydd y Cynulliad yn ennill pwerau newydd ar etholiadau. Bydd yn cynnig cyfle go iawn i Gymru ddatblygu ffyrdd newydd o gynnal etholiadau a gosod esiampl i ddemocratiaethau aeddfed ledled y byd sut mae adfywio gwleidyddiaeth.

Yn y Cynulliad nesaf, rydym am i bleidiau gwleidyddol wneud y canlynol:

  • Lleihau nifer y seddi diogel a diwrthwynebiad a rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr drwy gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy i etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad;
  • Symleiddio’r broses bleidleisio drwy gynnal peilot o ddulliau newydd megis pleidleisio ar-lein ac electronig, pleidleisio ar y penwythnos a cynnig pleidlais gynnar;
  • Caniatáu i bobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn eu sir, yn hytrach na dim ond yr orsaf yn eu cymuned leol;
  • Gwneud cofrestru pleidleiswyr yn rhan graidd o’r ffordd maent yn ymgyrchu ac yn trefnu;
  • Gostwng yr oedran pleidleisio i 16.

Rhoi Grym Yn ôl I’R Bobl

Llywodraeth leol yw lle caiff materion sylfaenol eu penderfynu.  O ysgolion i wasanaethau cymdeithasol, o gynllunio i ddatblygiad economaidd, mae penderfyniadau cynghorwyr lleol yn effeithio ar filiynau o bobl ledled Cymru.  Ac eto, mae llawer ohonom yn aml yn ystyried neuaddau tref yn llychlyd, yn anghysbell ac yn anghynrychioladol. Y bobl sy’n meddu ar sofraniaeth a dylid datganoli cymaint o bwerau â phosib i gynghorau a chymunedau lleol.

Yn y Cynulliad nesaf, rydym am i bleidiau gwleidyddol wneud y canlynol:

  • Cefnogi sefydliad Byrddau Ardal a ‘cymdeithasau bach’ (‘mini-publics’) – cyfarfodydd y preswylwyr sy’n rhoi grym i gymdogaethau, trefi a phentrefi i redeg a chynnal eu materion eu hunain;
  • Adolygu rôl ac effeithiolrwydd cynghorau tref a chynghorau cymunedol;
  • Gwarchod annibyniaeth cynghorau drwy gynnwys pwerau llywodraeth leol yn neddfwriaethau a chyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol;
  • Sicrhau bod unrhyw faer a gaiff ei ethol yn uniongyrchol, yn ogystal â chomisiynwyr iechyd neu fyrddau iechyd yn cael eu hethol drwy system bleidleisio aml-ddewis (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy/Pleidlais Amgen), yn hytrach na’r system bleidleisio ddau ddewis a ddefnyddir ar gyfer etholiadau’r comisiynwyr heddlu a throseddu a meiri Lloegr.

Gweneud I’r Cynulliad Weithio’n Well

Er gwaethaf iddi ennill lu o gyfrifoldebau newydd ers cychwyn datganoli, gan gynnwys pwerau ar drethu a deddfu, mae’r Cynulliad o hyd yn hynod fach o gymharu â chyd-destun y DU a chyd-destun rhyngwladol. Mae gan Ogledd Iwerddon 108 o aelodau cynulliad ac mae gan Senedd yr Alban 129, ac eto i gyd dim ond 60 o aelodau sydd gan ein Cynulliad. Byddai mwy o Aelodau’r Cynulliad yn gwneud canlyniadau etholiad yn fwy cyfrannol, gan adlewyrchu dewis pleidleiswyr Cymru yn deg. Byddai mwy o Aelodau Cynulliad yn golygu dal gweinidogion Cymru yn atebol, craffu ar ddeddfau’n fwy trylwyr, a monitro gwariant cyhoeddus yn fwy llym.

Yn y Cynulliad nesaf, rydym am i bleidiau gwleidyddol wneud y canlynol:

  • Cefnogi cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad i 100;
  • Adolygu sut mae’r Cynulliad yn defnyddio ei amser a sut caiff ei bwyllgorau eu strwythuro;
  • Cynnal peilot o Bwyllgor y Dinasyddion, a gaiff ei ddewis fel rheithgor am dymor penodol i graffu ar weinidogion Cymru;
  • Cyflwyno sesiwn holi bob mis i ddinasyddion, lle gall y cyhoedd gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig i weinidogion Cymru.

Democratiaeth Ac Amrwyiaeth

Sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed

Er nad oes neb yn disgwyl i’n sefydliadau gwleidyddol fod yn adlewyrchiad union berffaith o’r boblogaeth ehangach, mae angen i neuaddau’n trefi, cyrff cyhoeddus a siambr y Senedd gynrychioli ein cymdeithas yn gyffredinol. Er bod peth cynnydd yn cael ei wneud ym maes cydraddoldeb rhyw, mae angen gwneud mwy. Ac mae angen gwneud llawer mwy ynglŷn ag oed, hil, anabledd, tueddfryd rhywiol, hunaniaeth rhyw, ffydd a chred crefyddol.

Mae amrywiaeth mewn democratiaeth yn golygu mwy na phwy sydd yn sefyll mewn etholiad: ei nod yw sicrhau fod llais pob dinesydd yn cael ei glywed, waeth bynnag unrhyw nodwedd gwarchodedig. A chyda mwy o benderfyniadau yn cael eu cymryd ar lefel gymunedol, mae hynny’n fwy pwysig nac erioed.

Yn y Cynulliad nesaf, dymunwn weld pleidiau gwleidyddol yn:

Sefydlu Adolygiad Llywodraethu annibynol, newydd ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth & Gwasanaeth Cyhoeddus

Ceir consensws gynyddol y dylid cymryd penderfyniadau yn agosach at y sawl a gaiff eu heffeithio ganddyn nhw. Croesawn yr hwb yma tuag at ‘ddatganoli cymunedol’– ond mae perygl bydd y sawl sydd wedi eu hallgau eisoes gan y broses gwneud penderfyniadau yn cael eu hall-gau ymhellach. A chyda ad-drefnu llywodraeth leol ar y gorwel, mae yna siawns uchel y caiff amrywiaeth ymhlith ein cynghorwyr lleol ei erydu ymhellach.

Bydd yr Adolygiad ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth a Llywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus yn cymryd golwg ar sut gall dinasyddion a chanddynt nodweddion gwarchodedig, ymglymu ymhellach â’r broses o wneud penderfyniadau. Bydd yr Adolygiad yn gwerthuso gwaith blaenorol gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol ar fenywod mewn bywyd cyhoeddus ac yn gwneud argymhellion ar sut gall ystod mwy eang o unigolion gael eu hannog i ymgeisio mewn etholiadau ac ar gyfer penodiadau cyhoeddus

Cydraddoldeb Rhyw

Am gyfod byr, pan oedd mwyafrif aelodau’r Cynulliad a’r Cabinet yn fenywod roedd Cymru’n arwain y byd. Ond mae’r cynulliad yn dechrau llithro ‘nôl, ac o edrych ar y cynnydd araf a wnaed ar lefel llywodraeth leol, ni fydd cydraddoldeb rhwng y ddau ryw yn cael ei gyflawni yno hyd nes y flwyddyn 2076.

Yn y Cynulliad nesaf, dymunwn weld pleidiau gwleidyddol yn:

  • Cefnogi cynydd yn y nifer o Aelodau Cynulliad fel ffordd o gynyddu’r nifer o fenywod a gaiff eu hethol;
  • Penodi pencampwr ‘Peidio gadael yr un fenyw ar ôl’ er mwyn sicrhau nad yw ad-drefnu llywodraeth leol yn golygu gostyngiad yn y gyfran o fenywod sydd yn gynghorwyr ac yn ymgeiswyr;
  • Ariannu mentrau fel Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth sydd yn cefnogi mewnywod o ystod o gefndiroedd i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus;
  • Cefnogi’r targed o roi menywod yn ymgeiswyr mewn o leiaf 40% o seddi enilladwy.

Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol

Mae adroddiad Stonewall Cymru Ble Rydyn Ni Nawr yn amlygu nifer o faterion sydd yn effeithio ar bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sydd yn dechrau mynd mewn i wleidyddiaeth. Cred 77% o bobl LHD bod bod yn agored fel gwleidydd yn golygu eich bod yn agored i lefel uwch o graffu ac mae’r canfyddiad bod rhwystrau o fewn yr holl brif bleidiau yng Nghymru tuag at bod yn ymgeisydd LHDT yn parhau i fodoli. Mae’r pryderon hyn yn ymestyn i feysydd eraill mewn bywyd cyhoeddus lle y cred 55% y gallent wynebu camwahaniaethu wrth ymgeisio am benodiad cyhoeddus. Cafwyd cynnydd mewn llywodraeth leol ac yn San Steffan gyda phobl LHD yn dal swyddi blaenllaw. Fodd bynnag, does dim gwleidyddion trawsrywiol a wyddir amdanynt mewn unrhyw faes yng Nghymru.

Yn y Cynulliad nesaf, dymunwn weld pleidiau gwleidyddol yn:

  • Annog eu harweinwyr i ymrwymo’n gyhoeddus tuag at gynyddu’r nifer o ymgeiswyr a chynrychiolwr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol agored;
  • Sicrhau bod ysgolion yn dysgu dinasyddiaeth ragweithiol sydd yn cynnwys engrheifftiau o ymgyrchwyr hawliau LHDT
  • Hyffordi aelodau pleidiau sydd yn lywodraethwyr ysgolion i herio bwlio homoffobaidd, deuffobaidd a thrawsffobaidd; ac i ddathlu gwahaniaeth mewn ysgolion.
  • Sicrhau bod rhaglenni i ymgeiswyr yn y dyfodol yn rhoi gwell cefnogaeth i ymgyrchwyr LDHT sefyll mewn etholiadau dewis ymgeiswyr a bod cefnogaeth ar gael i ymgeiswyr heterorywiol fod yn gynghreiriaid da;
  • Rhoi amlygrwydd i grwpiau LHDT o fewn datblygiad polisi a strwythurau ymgyrchu’r blaid;
  • Ariannu rhaglenni datblygiad personol sydd yn rhoi hyder i bobl LHDT, yn enwedig pobl trawsrywiol i roi eu henwau ymlaen i gael eu dewis.

Anabledd

Er gwaetha’r llwyth o ddeddfwriaeth, mae’r modd y byddwn yn rhedeg etholiadau ac mae’r ffordd mae pleidiau gwleidyddol yn gweithio yn parhau i allgau pobl ag anableddau. Darganfu Dimensions UK taw dim ond 1 ymhob 10 person a chanddo anabledd dysgu a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2010, ac fe ddarganfu’r RNIB nad yw awdurdodau lleol yn dilyn cyfarwyddyd y Comisiwn Etholiadol ac weithiau’n methu cydymffurfio’n llawn gyda’r camau cyfreithiol sydd yn ofynol i helpu pobl ddall a rhannol ddall i gael pleidleisio’n annibynol.

Yn y Cynulliad nesaf, dymunwn weld pleidiau gwleidyddol yn:

  • Annog Llywodraeth Cymru i sefydlu gweithlu fyddai’n dod â grwpiau anabledd ynghyd, CLlLC, y Comisiwn Etholiadol a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod rhwystrau’n cael eu diddymu, bod canllawiau’n cael eu dilyn, a bod argymhellion pellach ynglŷn â gwella mynediad yn cael eu gweithredu;
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DG i ymchwilio i sut y gellir cefnogi ymgeiswyr a chynrychiolwyr anabl yn well yn ystod etholiadau a thra mewn swydd;
  • Sicrhau bod maniffestos a llenyddiaeth etholiadol ar gael mewn fformatau hygyrch fel Hawdd ei Ddeall, Sain, Print Bras a Braille;
  • Gwneud hi’n ofynol ar awdurdodau lleol i roi’r wybodaeth ynglŷn â threfn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio drwy ebost neu dros y ffôn i sicrhau bod pobl ddall neu rhannol ddall yn gallu bwrw pleidlais yn gyfrinachol a heb gymorth.

Ffydd a Chred Crefyddol

Yn aml mae materion sydd yn ymwneud â ffydd a chred crefyddol ynghlwm â materion ehangach sydd yn ymwneud â hil. Mae’r nifer o Gymry sydd yn uniaethu â chrefyddau heblaw am Gristnogaeth yn llai mewn cymhariaeth â rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol. Yng nghyfrifiad 2011, disgrifiodd 57.6% o boblogaeth Cymru eu hunain fel Cristnogion; 32.1% heb grefydd; a gwrthododd 7.6% ateb. Mae 2.7% o’r boblogaeth yn uniaethu â chrefyddau eraill ar wahan i Gristnogaeth, a’r mwyaf ohonynt yw Islam (1.5%).  Mae cymunedau o Hindwiaid, Bwdhyddion, Siciaid, ac Iddewon yn bodoli yng Nghymru hefyd. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb & Hawliau Dynol yng Nghymru wedi talu sylw arbennig i’r lefel cynyddol o agweddau negyddol a gelyniaeth a ddangosir tuag at Foslemiaid yng Nghymru.

Yn y Cynulliad nesaf, dymunwn weld pleidiau gwleidyddol yn:

  • Annog pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru i gadw dialog parhaus, rhagweithiol gyda grwpiau ffydd;
  • Sicrhau bod pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu mewn modd sydd yn talu sylw dyledus tuag at anghenion dinasyddion a chynrychiolwyr etholedig sydd yn codi o’u ffydd neu gred crefyddol;
  • Sicrhau bod rhaglenni penodol yn cael eu cefnogi i alluogi mwy o fenywod Moslemaidd i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Hil

Dangosodd gyfrifiad 2011 fod Cymru’n un o ardaloedd lleiaf amrywiol y DG o ran ethnigrwydd, gyda 93.2% yn diffinio eu hunain yn ‘Brydeinig Gwyn’ a 0.5% pellach yn ‘Gwyddelig Gwyn’, 0.1% yn ‘Teithiwr Gwyddelig Gwyn/Sipsiwn Gwyn’, ac 1.8% yn ‘Gwyn Arall’.  Cyfanswm poblogaeth gwyn Cymru yw 95.6%, gyda 2.3% ‘Asiaidd/Asiaidd Prydeinig’, 0.6% ‘Du /Du Prydeinig’, 1% ‘Prydeinig Cymysg’, a 0.5% ‘Arall’.  Mae unigolion o grwpiau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru yn fwy tebygol o brofi ynysu cymdeithasol a tlodi; a mwy o anwybodaeth yngn â chymorth sydd ar gael gan y gwasanaethau cymdeithasol. O ganlyniad, mae unigolion o rai grwpiau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig yn llawer llai tebygol o gymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol a’r broses o wneud penderfyniadau. Gall materion sydd yn ymwneud â hil gael eu chwyddo ymhellach gan ffactorau eraill fel rhyw, hunaniaeth rhyw, ffydd a chred crefyddol a thueddfryd rhywiol.

Yn y Cynulliad nesaf, dymunwn weld pleidiau gwleidyddol yn:

  • Sicrhau bod rhaglenni cyfredol sydd wedi eu hanelu at hyrwyddo amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus yn cael eu teilwra’n addas at grwpiau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig sydd wedi cael eu hallgau yn draddodiadol;
  • Sicrhau bod dinasyddiaeth a hawliau gwleidyddol yn cael eu cynnwys o fewn rhaglenni cynhwysiant cymdeithasol ac yn cefnogi rhwydweithiau anffurfiol: bod mentrau fel grwpiau ‘Cyfeillion a Chymdogion’ (FAN) Caerdydd, sydd yn dod â chymunedau ynghyd ac yn rhoi lle iddyn nhw yn hysbysu grwpiau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig o’u hawliau democrataidd;
  • Ymrwymo i weithio gyda grwpiau eiriolaeth fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru i sicrhau bod ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches yn cael llais yn y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cynllunio a’u cyflenwi.

Gadewch Y Golau I Mewn

Creu Bywyd Cyhoeddus Gymreig fwy Agored

 

Yn aml, caiff Cymru ei ddisgrifio fel cenedl o gymunedau ac er y gall ein cysylltiadau cymdeithasol ac arddull o gonsensws fod yn gryfder, mae yma anfantais posib i ddemocratiaeth. 

Cywir ai peidio, mae canfyddiad yn bodoli fod penderfyniadau’n cael eu cymryd tu ôl i ddrysau caeedig; mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd (os nad yn amhosibl) i ddinasyddion a chynrychiolwyr etholedig i gadw’r sawl sydd mewn grym yn atebol. Mae ‘natur tebyg i bentref’ gwleidyddiaeth Gymreig yn creu tirwedd lle nad oes neb yn fodlon dweud hi fel y mae a lle weithiau y gallem osgoi herio a beirniadau.

Dylid croesawu tryloywder nid yn unig fel mesur sydd yn lleihau’r nifer o benderfyniadau gwael a wneir, ond fel cam hanfodol tuag at at adfer ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion. 

Mae’n bryd i ni ail-ysgrifennu’r rheolau ynglŷn â sut fyddwn ni’n mynd ati gyda’n gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Lobio

  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad annibynol ac os oes angen, cyflwyno deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ystyrlon ynglŷn â gweithgarwch lobio yng Nghymru ar gael i’r cyhoedd;
  • Sicrhau gallu cyrff yn y sector gyhoeddus a’r trydydd sector, sydd yn derbyn arian cyhoeddus i siarad yn agored, diweddaru polisi cyhoeddus a herio llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi sefydlu Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru ac ymrwymo’n llwyr tuag at dderbyn a chyflenwi ymrwymiadau gan lywodraeth agored;
  • Dylai Llywodraeth Cymru wella mynediad at ddata’r sector gyhoeddus drwy ddatblygu a gweithredu Cynllun Data Cenedlaethol i Gymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Cofrestr Gyhoeddus o Dystiolaeth Llywodraeth Cymru mewn ffurf porth ar y we sydd yn cynnwys yr holl ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi ei gyhoeddi’n amserol ac sydd ar gael i bobl eraill gael ei ddefnyddio; ac i weithio gyda budd-ddeiliaid Llywodraeth Agored er mwyn datblygu a gweithredu Safon Tystiolaeth Tryloyw sydd yn dangos i ddinasyddion pryd/sut ddefnyddiwyd y dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi rhestr drefniadaethol wedi ei ddiweddaru ar ei gwefan, sydd yn dangos enw, swyddogaeth a lleoliad trefniadaethol pob gwas sifil ar radd 7 neu uwch. Dylid gwneud rhestr fyw o ymgynghorwyr arbennig ac arbenigol sydd ar gael yn hawdd ar wefan Llywodraeth Cymru gyda manlion a swyddogaeth pob ymgynghorydd ynghyd â chyfrifoldebau eu portffolio.

Ymgynghoriad cyhoeddus a mynediad cyhoeddus at ymchwil a gomisiynwyd gan y llywodraeth

  • Sefydlu’r Swyddfa Ymrwymiad Cyhoeddus o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu a lledaenu ymarfer gorau ynglŷn ag ymgynghori ac ymrwymiad cyhoeddus ymhlith cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru;
  • Sicrhau mai gorchwyl Archwilydd Cyffredinol Cymru a/neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw i fonitro a gwerthuso ymgynghoriad ac ymrwymiad gan y sector gyhoeddus.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth fyddai’n ei gwneud hi’n ofynol i ymgeiswyr ar gyfer pob prif benodiad cyhoeddus fod yn ddarostyngedig i wrandawiad cyn-penodi cyhoeddus gan bwyllgor pwnc perthnasol yn y Cynulliad Cenedlaethol;
  • Sefydlu Grŵp Traws-Bleidiol ar Drylowder mewn Bywyd Cyhoeddus gan Aelodau Cynulliad;
  • Dylai’r Cynulliad Cenedlaethol sefydlu a chyhoeddi cofrestr o gwestiynau brys a gyflwynwyd gan Aelodau Cynulliad ond a wrthodwyd gan y Llywydd.

Llywodraeth Leol

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys mesurau o fewn y ddeddfwriaeth sydd yn cwtogi ar ba mor aml bydd cyfarfodydd llywodraeth lleol yn mynd i sesiwn gaeedig; pennu lleiafswm y gofynion ar awdurdodau lleol i darlledu cyfarfodydd; ac i diogelu hawliau er mwyn i’r cyhoedd gael defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn cyfarfodydd cyngor;
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r CLlLC/WLGA a’r Rhwydwaith Llywodraeth Agored er mwyn sefydlu Partneriaeth Llywodraeth Leol Agored Cymru fyddai’n cynnwys y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Rhanbarthau Dinesig.

Ennyn Diddordeb Pobl Ifanc Mewn Democratiaeth

Cyfranogiad Ieuenctid

Mae pobl ifanc yn frwd iawn am y byd o’u cwmpas, ond mae mwy a mwy yn colli diddordeb yng ngwleidyddiaeth ffurfiol. Heb weithredu heddiw, bydd perygl i genedlaethau o bobl ifanc droi eu cefn yn llwyr ar wleidyddiaeth yn y dyfodol.

Yn y Cynulliad nesaf, rydym am i bleidiau gwleidyddol wneud y canlynol:

  • Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol ieuenctid annibynnol i Gymru, a fydd yn debyg i Senedd Ieuenctid yr Alban;
  • Creu Maer ieuenctid a chynghorwyr ieuenctid statudol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru;
  • Rhoi rolau a chyfrifoldebau cynghorau ysgol ar lefel statudol;
  • Cynyddu nifer y bobl ifanc ar y gofrestr etholiadol drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, a darparwyr hyfforddiant i gydweithio ar ymgyrchoedd i sbarduno pobl ifanc i gofrestru;
  • Cefnogi argymhellion Adolygiad Donaldson ar addysg ddinasyddiaeth a sicrhau y cânt eu blaenoriaethu a’u cyflawni’n effeithiol;
  • Penodi Estyn i adolygu’r ddarpariaeth o addysg ddinasyddiaeth i gyfrannu at gyflawni argymhellion Donaldson.