Hefyd ar gael yn: English

Lleisiau Coll

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 11th Rhagfyr 2017

Rhagarweiniad

Gan Jess Blair, ERS Cymru

Jessica BlairAr ôl bron 20 mlynedd o ddatganoli, y gwirionedd trist yw nad yw mwyafrif pobl Cymru’n pleidleisio o hyd yn etholiadau Cymru, boed hynny yn etholiadau’r Cynulliad neu mewn rhai lleol. Er bod nifer y bobl sy’n pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol yn weddol uchel yng Nghymru, mae bwlch mawr rhwng y rheiny sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol a rhai y DU gyfan.

Er nad nifer y pleidleiswyr yw’r unig beth sy’n dangos pa mor iach ydy democratiaeth, mae’n sicr yn fan cychwyn da. Ac eto, dim ond delwedd fach o wir deimladau pobl am wleidyddiaeth y mae hyn yn ei chynnig.

Dyna pam lansiom ni ‘Lleisiau Coll’, prosiect a oedd yn bwriadu cael trafodaeth â phobl ledled Cymru ynglŷn â sut maent yn teimlo am wleidyddiaeth a sut mae modd gwella hynny.

‘Gwelliant’ yw’r gair allweddol yma. Am y tro cyntaf, mae gennym ni yng Nghymru rym i newid etholiadau a’r ffordd mae’r system wleidyddol yn gweithio wrth i bwerau newydd gael eu trosglwyddo i Gymru yn dilyn Deddf Cymru 2017. Gallwn sicrhau bod ein democratiaeth yn gweithio’n well i bobl y wlad hon.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi braslun o ganfyddiadau darn estynedig o waith a wnaed ar hyd a lled Cymru i geisio cael gwybod eich barn ar y ffordd mae Cymru’n gweithio.

Rydym wedi ceisio ymgysylltu â phobl mewn sawl ffordd;

  1. Arolwg ar-lein a gwblhawyd gan 756 o bobl dros ddau fis
  2. 20 o grwpiau ffocws ledled Cymru a oedd yn targedu grwpiau o bobl llai tebygol o ymgysylltu â gwleidyddiaeth

Cymerodd cyfanswm o 807 o bobl ran uniongyrchol yn y prosiect hwn a chafwyd gwybodaeth helaeth ganddynt ac ohoni, rydym wedi llwyddo i greu themâu allweddol.

Gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau ymchwil ansoddol a mesurol, rydym wedi canfod y tair thema allweddol canlynol o ran sut mae pobl yn teimlo am wleidyddiaeth yng Nghymru.

  1. Dryswch
  2. Rhwystredigaeth
  3. Gobaith

Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i’r themâu hyn a’r dystiolaeth a roddwyd i ni ar y materion hyn gan y bobl sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn. Heb y bobl hynny, ni fyddai’n bosibl cynnal y prosiect hwn.

Jess Blair
Cyfarwyddwr
ERS Cymru

Methodoleg

Ceir methodoleg fwy manwl yn atodiad 1.

Defnyddiwyd cyfuniad o ymagweddau yn y prosiect hwn i fynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw argraff a dehongliad carfan o ymatebwyr Cymreig o ‘wleidyddiaeth’?
  2. Beth yw argraff y cyfranogwyr yn yr astudiaeth hon o ‘wleidyddiaeth’ o ran pa mor berthnasol a chyffredinol ydyw yn eu bywydau pob dydd?
  3. Beth yw’r prif rwystrau rhag pleidleisio ymysg cyfran sylweddol o boblogaeth Cymru?

Prif adnoddau ymchwil y prosiect oedd arolwg ar-lein o’r cyhoedd a grwpiau ffocws wedi’u targedu gyda phobl a oedd yn cynrychioli gwahanol grwpiau ledled Cymru.

Gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau mesurol i’r cyfranogwyr ar-lein, gan gynnwys faint o ddiddordeb a oedd ganddynt mewn gwleidyddiaeth ar raddfa un i ddeg, pa mor hawdd oedd deall gwleidyddiaeth a pha etholiadau diweddar y bu iddynt bleidleisio ynddynt.

Hefyd, gofynnwyd cwestiwn ansoddol i’r cyfranogwyr ar-lein, sef “Mewn deg o eiriau neu lai, beth mae gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?”

Bu llawer mwy o amrywiaeth yn y grwpiau ffocws o ran eu cynnwys, ond gosodwyd cwestiynau fel y byddai modd i ni greu rhyw fath o gymariaethau rhyngddynt. Gofynnwyd i gyfranogwyr y grwpiau ffocws lenwi’r arolwg hefyd ond bu hynny ar ddechrau’r sesiynau bob tro i osgoi dylanwadu ar ganfyddiadau’r arolwg.

Dryswch

Dryswch

Confusion

Does dim amheuaeth na ddylem ni fod yn arbenigwyr ar wleidyddiaeth ac etholiadau. Yn ystod y deunaw mis diwethaf yn unig, roedd gofyn i ni yng Nghymru bleidleisio mewn pedwar etholiad ac mewn refferendwm.

Er mai diben gwreiddiol ‘Lleisiau Coll’ oedd canfod barn y rheiny nad ydynt yn pleidleisio, yr hyn a ddaeth yn amlwg oedd bod gan bleidleisio stori i’w hadrodd hefyd. Yn enwedig y ffaith bod sawl pleidleisiwr yn ddrysu’n fawr ynglŷn â’r hyn maent yn pleidleisio drostynt.  Ymysg eraill, roedd eu diffyg gwybodaeth yn rhwystr iddynt rhag pleidleisio.

Ymhlith yr ymadroddion a gafwyd dro ar ôl tro yn ein harolwg oedd ‘wedi drysu’, ‘dwi ddim yn gwybod’ a ‘dwi ddim yn deall’.

“Does gen i fawr ddim diddordeb mewn gwleidyddiaeth – dwi ddim yn deall gwleidyddiaeth yn fawr, yn bennaf achos dwi ddim yn ceisio ei deall”

“Er fy mod i’n mwynhau darllen y newyddion a cheisio deall gwleidyddiaeth, dwi’n cyfaddef ei bod hi’n ddryslyd. Byddai’n braf cael canllawiau syml!”

“Dwi wastad yn drysu â gwleidyddiaeth genedlaethol a lleol”

“addewidion gwag, celwyddau, hunanbwysig, dryswch, ansicrwydd”

“Mae’n peri ansicrwydd a dryswch i mi, felly does dim diddordeb gen i yn anffodus”

“Dwi ddim mor frwdfrydig ag dylwn i fod a dwi’n credu bod hynny oherwydd fy niffyg gwybodaeth”

Er na holwyd y cyfranogwyr yn ein grwpiau ffocws yn benodol ynglŷn â’u barn ar bob lefel o lywodraethiant, daeth naratif clir i’r amlwg bod dryswch mawr ynglŷn â gwleidyddiaeth.

Yn llawer o’r grwpiau ffocws a gynhaliwyd ledled Cymru, cafwyd trafodaeth ynglŷn â diffyg dealltwriaeth o ran pa sefydliadau sydd â pha gyfrifoldebau ac ar lefel mwy sylfaenol, beth oedd gwleidyddion ar bob lefel yn ei wneud mewn gwirionedd.

“Yn gyffredinol (dydyn ni ddim yn gwybod) y pethau sylfaenol, mae popeth mor gymhleth”

“Dwi ddim yn gwybod digon am Gynulliad Cymru”

O ran cyfrifoldebau, roedd rhai o’r cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws yn ansicr ynglŷn â phwy oedd yn rhedeg y gwasanaeth iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu arolwg BBC/ICM ym Mawrth 2016 a ddangosodd fod bron 30% o’r ymatebwyr yn meddwl mai Llywodraeth y DU yn San Steffan sy’n gyfrifol am redeg y GIG yng Nghymru.

I ddechrau ein holl grwpiau ffocws, dangoswyd delweddau o wahanol wleidyddion ar bob lefel gan gynnwys Aelodau Cynulliad rhanbarthol ac ACau ac ASau etholaethau lleol. Diben hyn oedd annog pobl i feddwl am wleidyddiaeth a gwleidyddion a bu’r nifer a ddangoswyd yn amrywio yn sgil amser o grŵp i grŵp. Bu’r holl gyfranogwyr yn adnabod Donald Trump a Theresa May a dim ond 3 person a fethodd i adnabod Jeremy Corbyn.

Er nad oedd nifer y bobl a lwyddodd i adnabod gwleidyddion lleol yn uchel drwy’r amser, roedd y rhai a lwyddodd yn fwy tebygol o fod yn gadarnhaol. Llwyddodd dros 70% i adnabod AC (71.4%) ac AS (73.5%) eu hetholaeth ond dim ond 34% oedd yn adnabod llun o un o’u ACau rhanbarthol. Aeth y drafodaeth ymlaen at rolau’r gwleidyddion hyn.

Meddai aelod o’r Cangen Abertawe Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru:

“Wrth weithio dros yr elusen dros y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi sylwi (gyda’n AC ein hunain) dyw pobl ddim yn sylweddoli weithiau bod modd iddyn nhw ddefnyddio eu ACau a’u ASau… Nid yn unig yn fyd-eang neu [ar faterion fel] biniau, mae modd mynd atyn nhw a dweud ‘mae fy nheulu’n cael trafferth gyda hyn, allwch chi fy helpu”

Elfen arall o ddryswch a ddaeth i’r amlwg yn y grwpiau ffocws ac yn yr arolwg ar-lein oedd y tu hwnt i wleidyddiaeth yn gyffredinol, ond yn hytrach y broses bleidleisio, ar y diwrnod ac o ran cofrestru. Gan hynny, roedd pobl yn ansicr a oeddent wedi cofrestru i bleidleisio ac roedd diffyg tryloywder ynghylch gyda pha gyfeiriad a ddefnyddiwyd i’w cofrestru. Mewn rhai achosion, roedd gan y bobl y siaradom ni â nhw broblemau o ran cofrestru a phleidleisio yn sgil anabledd.

Atebodd un person i’n harolwg ar-lein i’r cwestiwn ‘Beth ydy gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’ fel a ganlyn:

“Popeth. Ond mae’n anodd iawn pleidleisio’n hyderus, heb sôn am gofrestru, os nad oes modd gweld yn iawn!”

Mae pobl, fel yr uchod, sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg, yn cael problemau diffyg cymorth addas i bleidleisio neu ddiffyg preifatrwydd eu pleidlais. Mewn grwpiau ffocws eraill, codwyd materion ynghylch y straen a’r pwysedd synhwyraidd a allai ddigwydd wrth i’r rheiny sydd ag awtistiaeth neu broblem iechyd meddwl fynd i orsaf bleidleisio.

Addysg wleidyddol

Ar yr un pryd â chynnal Lleisiau Coll, roedd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol yng Nghymru ac un o’r cwestiynau mawr oedd ynghylch gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol yn pleidio’r achos hwn ers amser maith gan gredu bod y ffordd mae pobl ifanc yn dod i gysylltiad â gwleidyddiaeth yn eu blynyddoedd o ddatblygu yn hanfodol bwysig i ddyfodol democratiaeth gynrychioliadol.

Holwyd ein grwpiau ffocws ynglŷn â’r mater, a gofynnwyd am ateb plaen ‘o blaid’ neu ‘yn erbyn’ yn naw ohonynt. Cafwyd llawer o drafodaeth o ganlyniad.

Dyma sylwadau a gafwyd yn Abertawe:

“Yn 16, mae modd i chi adael yr ysgol a chael swydd, talu treth incwm ac yswiriant gwladol – dylech chi gael rhoi eich barn”

“Dydyn ni ddim yn awgrymu eu bod nhw (pobl dan 18 oed) ddim yn wleidyddol, ond dydyn nhw ddim ar oedran sy’n addas i bleidleisio”

“Nhw (pobl dan 18 oed) sydd â’r mwyaf o ddiddordeb ac egni”

Dwedodd 60% o’r ymatebwyr y dylid gostwng yr oedran pleidleisio, a bu 40% yn erbyn y cynnig. Nid oedd y trafodaethau yr un mor glir.

“Dylai ac na ddylai – os ydyn nhw’n ei deall, dylai. Os byddan nhw (y Llywodraeth) yn eu haddysgu nhw’n addas, yna efallai”

“Dwi’n benderfynol yn erbyn hyn oni fydd pobl annibynnol yn dod (i ysgolion) ac yn siarad â nhw mewn modd diduedd”

“Rhaid cael addysg wleidyddol addas cyn gwneud hyn”

Roedd addysg wleidyddol yn ffactor bwysig i lawer o bobl wrth ystyried gostwng yr oedran pleidleisio a chafwyd pryderon nad oedd y ddarpariaeth bresennol yn ddigon.

“Dwi’n meddwl bod angen i bobl ddeall y prosesau a’r hyn sy’n digwydd o ganlyniad. Nid oedran sy’n bwysig yma, ond cael gwybod barn pobl a’u cynnwys yn y broses. Mae angen system addysg wleidyddol well arnom ni”

“Dylai gwleidyddiaeth fod mewn ysgolion. Y tro hwn, mae’r sgyrsiau maen nhw’n eu cael (gyda fy mab) yn wych – mae e am wybod, roedd ei ffrindiau’n trafod gwleidyddiaeth a brexit mewn niferoedd mawr”

“Dylid creu cyrsiau, nid yn unig i’n hoedran ni ond i bob oedran”

 

Mae’n glir o’n harolygon ar-lein ac o’n grwpiau ffocws bod gwybodaeth, neu ei diffyg hi, yn chwarae rhan fawr mewn cyfrannu at ‘leisiau coll’ Cymru. Fel rhwystr rhag pleidleisio i gychwyn, neu fel rheswm pam nad yw pobl sy’n pleidleisio yn teimlo bod modd iddynt ymddiried yn y system wleidyddol, mae dryswch yn chwarae rôl niweidiol yn ein democratiaeth.

Mae modd gwneud pethau i fynd i’r afael â hyn, gan gynnwys gwella addysg wleidyddol a gwell cyfathrebu â’r cyhoedd gan lywodraeth ar eu holl ffurfiau. Mae’n ymwneud â darpariaeth newyddion gwael yng Nghymru hefyd. Yn y bôn, mae’r problemau hyn yn sylweddol ac yn niweidio iechyd democrataidd Cymru’n ddifrifol. Fodd bynnag, rhaid ymchwilio i ddatrysiadau posibl.

Rhwstredigaeth

Rhwstredigaeth

Frustration

“Rhwystredig’”- un ymatebwr i’n harolwg pan fu gofyn i grynhoi’r hyn roedd gwleidyddiaeth yn ei golygu iddynt.

I lawer o bobl, mae ymdeimlad o ddadrithiad rhag gwleidyddiaeth ar hyn o bryd.

Er mai enw rhan o’r adroddiad hwn yw ‘rhwystredigaeth’, roedd hi’n bosibl iawn ei galw’n ‘diffyg ymddiriedolaeth’, ‘dadrithiad eang’ neu, efallai, ‘dicter’, ‘pryder’ neu ‘siomedigaeth’.

O’r 807 o ymatebion i’r prosiect, bu 241 ohonynt yn negyddol mewn rhyw ffordd ynglŷn â gwleidyddiaeth, a chafwyd 217 o sylwadau yn uniongyrchol gysylltiedig â rhwystredigaeth.  Trafodwyd agweddau o’u rhwystredigaeth ym mhob un grŵp ffocws heb unrhyw anogaeth.

O ystyried y bu cymaint o ymweliadau â’r blwch pleidleisio yn ystod y blynyddoedd diweddar yn ogystal ag achosion blaenorol o’r sgandal treuliau ac, yn fwy diweddar, honiadau o aflonyddu rhywiol ac osgoi trethi, mae rhwystredigaeth a drwgdybiaeth wedi ffynnu mewn llawer o elfennau o wleidyddiaeth fodern.

Mae hyn yn sicr yn deillio o rai o’r sylwadau gan bobl yn y prosiect nad oedd â dim diddordeb o gwbl mewn gwleidyddiaeth neu’n ei hystyried yn rym cynyddol negyddol yn eu bywyd ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Aeth dau berson yn ystod grŵp ffocws yng Nghricieth yn bellach.

“Mae popeth yn wleidyddiaeth a dwi ddim yn hoffi ohoni”

“Dwi ddim yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, dwi’n ei chasáu hi”

Cafodd yr anfodlonrwydd hwn ei fynegi yn ymatebion yr arolwg.

Pan ofynnwyd ‘Beth ydy gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’, ni wnaeth rhai ymatebwyr guddio eu teimladau: ‘Mae’n llanast.’ ‘rwtsh llwyr.’ ‘dim llawer.’ ‘pwy bynnag sy’n ennill, mae’r bobl yn colli.’ a dwedodd rhywun o Flaenau Gwent ei bod ‘yn llawn c*ch.’

“Arian, tlodi i’r mwyaf bregus, wrth i’r cyfoethog ddod yn fwy cyfoethog”

“Mae gwleidyddiaeth yn hollbwysig i mi, er fy mod i wastad ar yr ochr anghywir ac yn gorfod brwydro dros fy hawliau. Dwi ddim yn meddwl gallwn ni osgoi gwleidyddiaeth, ond yn aml mae’n llafurus ac yn gwneud niwed i fy llesiant i frwydro dros hawliau, cyfreithiau a thriniaeth deg dro ar ôl tro”

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n dwyllodrus. Dim ond detholiad o bobl sydd â’r grym ac sy’n esgus bod gennym ni farn”

“Rhwystredigaeth, brwydro, atchwel, ambell beth cadarnhaol, llawer o safonau dwbl”

“Mynnu grym, sgorio pwyntiau, hunan-ddiddordeb, tablau cynghrair, ystadegau, haerllugrwydd, torcalonnus”

“Dwi ddim am bleidleisio, mae gwleidyddiaeth mewn stâd. Dwi’n pleidleisio gan fod rhaid i mi”

“Sbin. Cweryla. Theatr. Siomedigaeth. Celwyddau. Gwahanu. Tasg amhosib”

Mae’n ddiddorol o hyd sylwi bod dau o’r ymatebwyr wedi pleidleisio ym mhob etholiad y bu modd iddynt.

Soniodd llawer o’r rheiny a holwyd am yr argraff o wleidyddiaeth yn ganolfan a gaiff ei dominyddu gan anonestrwydd a chelwydd. Dwedodd 37 o bobl y geiriau ‘anonestrwydd’ neu ‘gelwydd’ mewn ymateb i’r cwestiwn yn ein harolwg ar-lein ‘Beth mae gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’.

“Anonest a dim atebion pendant”

“System sy’n gaeth i arian ac nid gwerthoedd cymdeithasol”

“Wrth i mi ddod yn hŷn, dwi’n sylweddoli pa mor anonest yw hi”

“Mae’n golygu gwleidyddion yn gwarchod eu hunain ac yn methu â chynrychioli’r bobl yn llwyr”

“Wedi cael digon o gelwyddau a sbin ASau.”

“Pobl yn dweud celwydd ac yn methu ag ateb cwestiynau”

“Celwyddgwn, sy’n ysu i gael grym, yn torri eu haddewidion”

“Gwleidyddion yn addo popeth ond yn cyflawni dim byd. Ychydig iawn o newid”

“Addewidion gwag gan arweinwyr hunan-bwysig sy’n ysu i gael grym”

“Rhwystredig ac anonest”

Ymddiriedaeth

Hefyd, mae gwahaniaeth rhwng argraff pobl ohonyn nhw eu hunain a’u hargraff o wleidyddion. Er bod datganoli’n dod â gwleidyddiaeth yn agos yn ddamcaniaethol, i lawer o bobl, mae gwleidyddiaeth yn ymddangos yn bellach i ffwrdd. Mae 38 o sylwadau ar yr arolwg yn dangos y cafodd rhwystredigaeth rhai pobl gyda gwleidyddiaeth yn gyffredinol ei thargedu at wleidyddion yn benodol.

“Mae gwleidyddiaeth yn bwysig – ond nid i’r bobl rydyn ni’n eu hethol”

“pobl hunanol sydd ag agenda eu hunain”

“Addewidion yn cael eu gwneud heddiw, ond eu torri yfory gan wleidyddion”

“Mae llawer o wleidyddion yn meddwl amdanyn nhw eu hunain”

“Gwleidyddion yn addo popeth ond yn cyflawni dim byd. Ychydig iawn o newid”

“Mae’n tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng gwleidyddion a phobl”

“Mae llawer yn anghofio eu bod nhw’n ein cynrychioli ni nid nhw eu hunain”

Yn ogystal â diffyg ffydd yng ngwleidyddion eu hunain, ystyriwyd y system bleidleisio yn rhwystredig. Soniodd sawl person yn y grwpiau ffocws ac yn yr arolwg ar-lein am hyn heb unrhyw anogaeth.

“Pleidleisiais i yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ac roedd hynny’n rhwystredig, roedd fy mhleidlais yn weddol ddibwrpas – doedd dim modd i mi bleidleisio dros fy newis blaid gan nad oedd dim siawns gan ei hymgeisydd yn yr etholaeth hon”

“Nes bod ein pleidlais yn cyfri, does dim ots sut rydyn ni’n ei gwneud”

“Y peth pwysicaf i mi yw bod fy mhleidlais yn cael ei chyfri. Beth am newid y system etholiadol?”

Mae gwleidyddiaeth yn gwahanu pobl yn fwy nawr nag yn ddiweddar. Ar ôl buddugoliaeth gul i’r ymgyrch Gadael yn refferendwm Brexit llynedd ac Etholiad Cyffredinol brys a arweiniodd at lywodraeth leiafrif i’r Ceidwadwyr, mae’r dirwedd wedi mynd yn fwy tanllyd ac mae’n amlwg bod hyn wedi cael rhywfaint o effaith ar argraff pobl Cymru o wleidyddiaeth.

Mae’r rhwystredigaeth hon yn adlewyrchu problemau sylweddol ynghylch ymddiriedaeth, diffyg newid a gwelliant ym mywyd pobl dros ddegawdau a bod materion sy’n berthnasol i bobl yn teimlo’n bell o’u cynrychiolwyr etholedig. Os mai elfen o ‘Leisiau Coll’ Cymru yw nad yw pobl yn hyderus bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn iawn, neu nad ydynt yn hyderus bod y system yn adlewyrchu eu barn yn gywir, mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn.

Gobaith

Gobaith

Hope

Fel yr hyn a gydnabuwyd eisoes, nid yw gwleidyddiaeth yn ennill unrhyw gystadleuaeth boblogrwydd, ond y gwir yw, does dim modd byw hebddi.

Mae’n annheg dweud nad oes unrhyw obaith ymysg rhywfaint o’r negyddoldeb a’r rhwystredigaeth rydym wedi’u hastudio eisoes yn yr adroddiad.

O’r 718 o ymatebion a gafwyd i’r cwestiwn ‘Mewn 10 o eiriau neu lai, beth mae gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’ yn yr arolwg, o’u cymharu â 141 niwtral a 241 negyddol, cafwyd ymateb cadarnhaol iawn ar y cyfan (336 o ymatebion).

O’r holl ddatganiadau cadarnhaol, defnyddiodd 26 o bobl y geiriau ‘cyfle’ ac mae’r geiriau ‘newid’ a ‘dyfodol’ yn ymddangos 60 o weithiau.

“Posib newid”

“Rhywbeth mae angen i ni gyd gyfranogi ynddi i sicrhau newid”

“Gallu i newid pethau er gwell”

Hyd yma, mae’n ymddangos bod gwleidyddion wedi cael beirniadaeth gas gan rai o’r canfyddiadau. Dim ond un ochr o’r stori yw hon.

(ein Haelodau Cynulliad lleol) “Dwi’n dwli arnyn nhw. Mae ein AC lleol wedi ein helpu ni’n bersonol ac fel teulu a fyddwn ni ddim yma nawr heb ei mewnbwn a’i chymorth”

“Roedd (ein cyn-AS) yn AS hyfryd yn ein hetholaeth”

“Mae (ein AS presennol) yn fenyw dda sy’n ceisio cyflawni pethau”

“(ein AC lleol) Mae e’n ffantastig. Ysgrifennais i at fy AC lleol ynglŷn â chymorth gyda fy mab ac ymatebodd e’n gyflym”

Yn ogystal â straeon am newid ac enghreifftiau o ACau ac ASau unigol yn rhoi gobaith i bobl, cafwyd gobaith greddfol yn y system wleidyddol, gan gynnwys math newydd o optimistiaeth a achoswyd gan newidiadau ymrannol sydd wedi achosi dadrithiad i eraill.

“Mae’n effeithio ar bopeth. Pam na fyddech chi am roi eich barn ar hynny?”

“Mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar fy mywyd a’r rheiny o fy nghwmpas. Does dim modd i chi
ei hanwybyddu. Mae angen mynd i’r afael â materion ac mae angen gwrando ar leisiau. Mae newid go iawn ar y gweill yn y ffordd mae pobl ‘ifanc’ fel fi yn ystyried ‘gwleidyddiaeth’ ac mae’n dda. Mae chwyldro’n nesáu”

“Gwell byd”

“Fy nyfodol, fy arian, fy ngwasanaethau. Dyfodol fy mhlant”

“Mae democratiaeth wrth galon ein bywyd gyda’n gilydd fel bodau dynol”

“Mae gwleidyddiaeth yn golygu cael llais”

“Mae’n golygu cael grym a chymryd rhan i lywio ein bywydau”

“Diben gwleidyddiaeth yw newid y byd a’i achub. Ei diben yw dod â phobl ynghyd drwy’r adegau caled i drechu drwg ac i ddatblygu gwlad gryfach yn ogystal â gwell byd. Aberthu pethau sydd eu heisiau am bethau sydd eu hangen. Helpu’r rheiny mewn angen a rhoi grym i bobl i lwyddo ar eu pen eu hunain”

Er bod materion fel Brexit a chanlyniadau Etholiad Cyffredinol 2017 wedi peri rhwystredigaeth i rai pobl â’r system wleidyddol, maent wedi arwain rhai pobl at obaith.

Yn y grwpiau ffocws a gynhaliwyd, yn enwedig y rheiny gyda phobl ifanc, cafwyd llawer o drafodaeth ynglŷn ag adfywio gwleidyddiaeth, diddordeb pobl, a’u hyder bod modd clywed eu lleisiau am y tro cyntaf.

Nid yw gobaith o reidrwydd yn thema roeddem yn gobeithio ei chael o’r prosiect hwn, ond mae’n sicr yn un sy’n amlwg ymysg pobl ifanc ledled Cymru. Yr her yw datblygu ar y gobaith hwn, gan gynnull y rheiny sy’n profi rhwystredigaeth, dihyder a dryswch. Hefyd, sylweddoli’r newid mae llawer o bobl sy’n obeithiol am ei weld.

Casgliad

Casgliad

Pan ddechreuwyd y prosiect hwn, roeddem yn ansicr o ran faint o bobl a fyddai’n cyfranogi yn y gwaith a’r hyn y byddent yn ei ddweud. Canlyniad cannoedd o bobl ledled Cymru’n treulio amser yn cyfranogi mewn trafodaeth na fyddent o bosib yn cyfranogi ynddi fel arfer yw ein canfyddiadau, ac am y tro cyntaf, mae gennym syniad clir o farn pobl ledled y wlad am wleidyddiaeth y tu hwnt i’r orsaf bleidleisio.

Yn y bôn, rydym wedi canfod bod gwleidyddiaeth yn golygu popeth i lawer o bobl a dim byd o gwbl i bobl eraill. Yr hyn sy’n bwysig nawr yw cau’r bwlch hwn.

Nid bwriad ein tair prif thema, ‘dryswch, rhwystredigaeth a gobaith’, mo disbyddu na lleihau naws yr hyn mae pobl wedi treulio amser yn ei ddweud wrthym. Yn hytrach, y bwriad yw ceisio dod â naratif a chysondeb i amrywiaeth eang o wybodaeth.

Mae’r themâu hyn yn cynnig cyfle i wella hefyd. Fel y dwedwyd yn ein cyflwyniad, gyda phwerau newydd bellach, mae gan Gymru gyfle i wneud pethau’n wahanol, ac yn ogystal ag ymdrechion ymarferol i weithredu etholiadau Cymru’n fwy effeithiol, mae cyfle bellach i wireddu gobeithion a disgwyliadau’r rheiny sy’n ystyried gwleidyddiaeth yn rhywbeth cadarnhaol yn eu bywyd ac i newid meddwl y rheiny nad ydynt yn ei hystyried yn gadarnhaol.

O’r themâu hyn, mae’n amlwg nad yw addysg wleidyddol yn cyflawni i bawb ar hyn o bryd. Er bod addysg wleidyddol yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn rhywbeth i bobl ifanc, mae bwlch yng ngwybodaeth y rheiny y tu hwnt i’r system addysg o wleidyddiaeth hefyd. Her sylfaenol yw mynd i’r afael â diffyg gwybodaeth hwn, mewn Cymru lle mae’r moddau o gyfathrebu newyddion yn gyfyngedig.

Cododd sawl elusen, roeddem yn ffodus cael rhai ohonynt yn bartneriaid ar y prosiect, rwystrau rhag pleidleisio sy’n perthyn i’r bobl maent yn eu cynrychioli.

Mae’r pwerau newydd dros etholiadau a gaiff eu datganoli i Gymru’n caniatáu i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar sut mae modd dileu’r rhwystrau hyn a gweithredu’n ymarferol i sicrhau bod etholiadau’n fwy cynhwysol.

Mae angen gwella’r cyfathrebu yn gyffredinol, y tu hwnt i addysg, o bob haen o lywodraeth. Mae her systemaidd gan bob gwleidydd i ryngweithio’n fwy effeithiol â’u hetholaethau a chyrraedd y rheiny sy’n ‘anodd eu cyrraedd’. I rai pobl sydd â braidd dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth fodern, nid yw taflen drwy’r drws adeg yr etholiad ddim yn ddigon. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni edrych ar ddulliau eraill trwy ddemocratiaeth gydgynghorol a all yn y bôn newid y ffordd mae pobl yn cyfranogi mewn gwleidyddiaeth a dod â gwleidyddiaeth yn agosach at y bobl y dylai eu cynrychioli.

Atodlenni

Methodoleg lawn

Defnyddiwyd cyfuniad o ymagweddau yn y prosiect hwn i fynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw argraff a dehongliad carfan o ymatebwyr Cymreig o ‘wleidyddiaeth’?
  2. Beth yw argraff y cyfranogwyr yn yr astudiaeth hon o ‘wleidyddiaeth’ o ran pa mor berthnasol a chyffredinol ydyw yn eu bywydau pob dydd?
  3. Beth yw’r prif rwystrau rhag pleidleisio ymysg cyfran sylweddol o boblogaeth Cymru?

Prif adnoddau ymchwil y prosiect oedd arolwg ar-lein o’r cyhoedd a grwpiau ffocws wedi’u targedu gyda phobl a oedd yn cynrychioli gwahanol grwpiau ledled Cymru.

Gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau mesurol i’r cyfranogwyr ar-lein, gan gynnwys faint o ddiddordeb a oedd ganddynt mewn gwleidyddiaeth ar raddfa un i ddeg, pa mor hawdd oedd deall gwleidyddiaeth a pha etholiadau diweddar y bu iddynt bleidleisio ynddynt.

Hefyd, gofynnwyd cwestiwn ansoddol i’r cyfranogwyr ar-lein, sef “Mewn deg o eiriau neu lai, beth mae gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?”

Bu llawer mwy o amrywiaeth yn y grwpiau ffocws o ran eu cynnwys, ond gosodwyd cwestiynau fel y byddai modd i ni greu rhyw fath o gymariaethau rhyngddynt. Gofynnwyd i gyfranogwyr y grwpiau ffocws lenwi’r arolwg hefyd ond bu hynny ar ddechrau’r sesiynau bob tro i osgoi dylanwadu ar ganfyddiadau’r arolwg.

Gofynnwyd i gyfranogwyr y grwpiau ffocws enwi detholiad o wleidyddion, gan gynnwys pobl fwy adnabyddus fel Donald Trump, Jeremy Corbyn a Carwyn Jones, ond bu gofyn iddynt enwi eu AC ac AS lleol hefyd ar ôl gweld llun ohonynt.

Yn ogystal â hyn, holwyd pob grŵp ffocws ynglŷn â sut maent yn teimlo am y bleidlais yn 16.

Cofnodwyd atebion yr holl grwpiau ffocws i’r cwestiwn hwn ar grid ac fe’u cadwyd ar wahân i’r arolygon.

Yn dilyn pob grŵp ffocws, trawsgrifiwyd recordiad sain. Mae hyn wedi ein caniatáu i ddefnyddio dyfyniadau uniongyrchol gan aelodau o’r grwpiau yn yr adroddiad hwn.

O ran mynegi’r data o’r arolygon ar-lein a’r grwpiau ffocws, rydym wedi casglu’r holl arolygon ac wedi dadansoddi a chymharu’r ddau grŵp.

Hefyd, ar ôl grwpiau ffocws penodol, crëwyd fideo byr i dynnu sylw at y gwaith a wnaed ond hefyd i hyrwyddo’r prosiect ymhellach.  Ar Facebook rhwng y 12 Gorffennaf a’r 19 Hydref, cafwyd un deg chwech o byst a oedd yn cynnwys fideo.

96 o bobl yn hoffi
Rhannwyd 139 o weithiau
32 o sylwadau
Wedi cyrraedd 47,351 o bobl

Ar Twitter, cafwydd 77 o byst
81,301 o argraffiadau
Ail-drydar 183 o weithiau
122 o bobl yn hoffi
Cliciwyd ar y ddolen 194 o weithiau
1101 o ymgysylltiadau

Arolwg
Gweler copi o’n harolwg yma:
https://docs.google.com/document/d/1uBUnlVsglxp8D0J42wK8QPojDSehpoZcm24b3FGV9S4/edit?usp=sharing

Rhestr o’r grwpiau ffocws

4 Gorffennaf Llamau, Cwmbrân.
6 Gorffennaf Llamau, Pontypridd
11 Medi, Cynghrair Wirfoddol Torfaen, Pont-y-pŵl.
17 Medi, Llamau, Pen-y-bont ar Ogwr
19 Medi, Dosbarth Zumba, Hirwaun
19 Medi, People’s First Blaenau Gwent, Glyn Ebwy
20 Medi, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont, Maesteg
21 Medi, Coleg 6ed Dosbarth Catholig Dewi Sant, Caerdydd
22 Medi, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, Abertawe
25 Medi, Cynghrair Wirfoddol Torfaen, Pont-y-pŵl
26 Medi, Grŵp Theatr Amatur ‘Starlight Players’, Cricieth
27 Medi, Creatasmile, Tywyn
27 Medi, Coleg Cambria, Wrecsam
29 Medi, Cyngor Cymru i’r Deillion, Caerfyrddin’
30 Medi, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, Aberystwyth
3 Hydref, RNIB, Caerdydd
4 Hydref, Canolfan Dewis ar gyfer Byw’n Annibynnol
4 Hydref, Canolfan Ieuenctid The Willows, Troedyrhiw
5 Hydref, People’s First, RhCT, Gelli
5 Hydref, Clwb Rygbi Ieuenctid Aberhonddu, Aberhonddu

Rhestr o gwestiynau’r grwpiau ffocws

Er roedd pobl grŵp ffocws yn oddrychol o ran y testunau a drafodwyd, sicrhaom fod cysondeb drwy wneud y canlynol ym mhob un ohonynt:

Gofyn i’r grŵp enwi gwleidyddion ar ôl gweld llun ohonynt. Roedd y lluniau’n cynnwys y canlynol bob tro;

  1. Theresa May
  2. Jeremy Corbyn
  3. Donald Trump
  4. Carwyn Jones
  5. Leanne Wood
  6. Eu AC lleol
  7. Eu AS lleol                    

Gofyn i’r grŵp nodi tri pheth a oedd yn bwysig iddynt y gall gwleidyddion ddylanwadu arnynt.

Gofyn iddynt ‘Beth fyddai’n eich gwneud chi’n fwy tebygol o bleidleisio’?

Gorffennwyd y sesiynau drwy ofyn cyfres o gwestiynau gweddol gyflym:

  • Ydych chi’n meddwl y dylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16?
  • A ddylem ni gael gorsafoedd pleidleisio mewn llefydd gwahanol fel archfarchnadoedd a llyfrgelloedd?
  • A ddylid cynnal etholiadau lleol ar fwy nag un diwrnod ac ar ddyddiau heblaw dydd Iau?