Hefyd ar gael yn: English

Mae gennym un cyfle i greu democratiaeth Gymreig newydd. Gadewch i ni wneud hyn yn iawn!

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Posted on the 18th May 2022

Mae diwygio’r Senedd wedi bod yn destun trafod ers ei sefydlu. Pan agorodd yn 1999 dim ond 60 o aelodau oedd; doedd dim swyddogaeth o ran llywodraethu, ac roedd ei phwerau’n gyfyngedig. Er bod pwerau’r Senedd a swyddogaeth yr adran weithredol wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth ers hynny, mae nifer yr Aelodau o’r Senedd wedi aros yr un fath.

Ond gallai hynny i gyd fod ar fin newid. Ddydd Mawrth diwethaf, rhyddhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price lythyr ar y cyd at Gadeirydd pwyllgor trawsbleidiol sy’n edrych ar ddiwygio ar hyn o bryd, a oedd yn nodi’r safbwynt y cytunwyd arno ar sut y dylid diwygio’r Senedd.

Mae’r llythyr yn rhoi ein cipolwg cyntaf ar sut y gallai’r Senedd edrych yn 2026, gan nodi safbwynt y cytunwyd arno gan Lafur/Plaid Cymru sy’n cynnwys:

  • Cynnydd ym maint y Senedd i 96 o aelodau
  • Newid yn y system etholiadol, sy’n cynnwys rhestrau cyfrannol caeedig a ddyrennir drwy ddull D’hondt.
  • Cwotâu rhywedd statudol integredig a threfn am-yn-ail orfodol ar restrau’r pleidiau (trefn gwryw / benyw am-yn-ail)
  • Un ar bymtheg o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd erbyn 2026, pob un ohonynt yn ethol 6 aelod, gyda ffiniau’n cwmpasu pâr o’r 32 etholaeth arfaethedig yn San Steffan
  • Hyn ynghyd ag adolygiad o ffiniau’n cael ei gynnal ar gyfer yr etholiad dilynol.

Mae ymestyn aelodaeth y siambr i 96 aelod yn gam enfawr ymlaen ac yn rhywbeth y mae ERS Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ei gylch ers bron i ddegawd. Rydym wedi siarad yn rheolaidd am yr angen am fwy o aelodau; y realiti ar hyn o bryd yw na all ein senedd weithredu’n iawn.

Senedd gryfach

Mae’r siambr bresennol o 60 aelod yn gadael ychydig dros 40 (y rhai nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth neu’n arweinwyr y pleidiau) i gyflawni’r rôl hanfodol o graffu. Mae hyn i bob pwrpas wedi arwain at ‘senedd ran-amser’ yng Nghymru gyda phwyllgorau’r Senedd yn cael eu cynnal bob-yn-ail wythnos yn unig yn ystod y cyfnod presennol. Cymru yw’r unig un o’r pedair gwlad yn y DU sydd heb ddigon o aelodau i weithredu’n llawn-amser – mae’r diffyg Aelodau Senedd Cymru yn golygu nad yw ei phwyllgorau craffu yn gallu gweithio’n effeithiol oherwydd y pwysau sydd arnynt. Canlyniad hyn yw bod y penderfyniadau mawr y mae gweinidogion yn eu cymryd dros sut mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio neu sut mae biliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cael ei wario mewn perygl o gael eu cymryd heb y gwaith craffu a dadansoddi priodol y sefydlwyd y Senedd i’w gyflawni.

Bydd cynyddu maint y Senedd, yn unol ag Argymhellion y Panel Arbenigol a’n hadroddiad ni Mae Maint yn Bwysig yn 2013, yn darparu senedd fwy effeithiol a all graffu’n briodol ar ddeddfwriaeth allweddol a chyllideb o £17 biliwn.

Senedd fwy amrywiol

Rhan gadarnhaol arall o’r fargen hon yw’r ymrwymiad i gynyddu amrywioldeb y Senedd drwy gwotâu rhywedd statudol a rhestrau am-yn-ail. Rydym wedi gweld effeithiolrwydd cwotâu ynghyd â lleoli gorfodol ar restrau mewn gwledydd fel Costa Rica. Gyda Senedd Cymru’r gyntaf i sicrhau cydbwysedd 50:50 rhwng y rhyweddau yn ôl yn 2003, mae’n iawn ein bod yn cynnwys mesurau i sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n briodol yn ein senedd genedlaethol mewn blynyddoedd i ddod. Ni ddylai hyn orfod dibynnu ar effeithiolrwydd pleidiau wrth ddewis ystod amrywiol o ymgeiswyr i sicrhau bod ein senedd yn adlewyrchu amrywioldeb rhywedd Cymru gyfan. Yr hyn sy’n llai clir ar hyn o bryd yw’r mesurau y gellid eu defnyddio i gynyddu cynrychiolaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig eraill megis hil, ethnigrwydd, oedran, anabledd a’r rhai o’r gymuned LHDTC+.

Y Camau Nesaf

Er bod elfennau cadarnhaol i’r fargen hon, mae yna hefyd rai y mae angen eu hystyried ymhellach, ac rydym yn gobeithio y bydd y Pwyllgor Diben Arbennig yn eu hystyried pan fyddant yn cyflwyno adroddiad tua diwedd y mis hwn. Er bod y cynigion yn amlwg yn gwrthod yr hen system ‘y Cyntaf i’r Felin’ ac rydym yn croesawu’r cam i ffwrdd o’r System Aelodau Ychwanegol, mae pryderon o hyd ynghylch y defnydd o restrau caeedig oherwydd y diffyg dewis a fydd gan bleidleiswyr. Gwrthodwyd y system hon gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a ddywedodd ei bod yn gadael “Dim dewis i bleidleiswyr rhwng ymgeiswyr unigol” a “Dim atebolrwydd i Aelodau unigol yn uniongyrchol i bleidleiswyr”. Yn ein hadroddiad Ail-lunio’r Senedd yn 2016 fe wnaethom argymhelliad bod y Senedd yn symud i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), rhywbeth y gwnaeth y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a phwyllgor y Senedd yn ddiweddarach ei gymeradwyo.

Mae’r penderfyniad i ddefnyddio dull D’Hondt o ddyrannu pleidleisiau hefyd yn bygwth cymesuredd y system newydd hon, drwy greu trothwy uchel i bleidiau llai ei gyrraedd er mwyn sicrhau cynrychiolaeth a chael aelodau wedi’u hethol. Mae defnyddio D’Hondt yn debygol o wneud y canlyniad terfynol dim ond mor gyfrannol â’r system bresennol, neu hyd yn oed ychydig yn llai cyfrannol.

Mae’r pecyn hwn yn gam ymlaen i’r Senedd mewn cymaint o ffyrdd, ond rhaid i ni fod yn ofalus nad yw hefyd yn gam yn ôl mewn ffyrdd eraill. Rydym yn aros am adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ymhen ychydig wythnosau, ac yna mae dadl yn y Senedd ar yr adroddiad hwnnw wedi’i threfnu ar gyfer 8fed Mehefin. Dylai aelodau’r Senedd o bob rhan o’r Siambr ystyried sut i sicrhau bod y pecyn hwn yn arwain at ddiwygiadau go iawn i’r Senedd – nid yn unig o ran maint ac amrywioldeb ond o ran sicrhau bargen decach i bleidleiswyr hefyd. Mae gennym un cyfle i greu democratiaeth Gymreig newydd. Gadewch i ni wneud hyn yn iawn!

Read more posts...

Buddugoliaeth fawr ar ddiwygio’r Senedd

Pan ddisgrifiodd Ron Davies y syniad o ddatganoli fel ‘proses nid digwyddiad’ yn ôl yn 1999, doedd ganddo fawr o syniad y byddai ei eiriau’n dod i ddisgrifio chwarter canrif o ddiwygio yng Nghymru. Mae...

Postiwyd 16 Jun 2022

Senedd