Hefyd ar gael yn: English

Maniffesto ar gyfer Democratiaeth: Senedd Gryfach

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 23rd Hydref 2020

Mae’r Senedd yn edrych yn wahanol iawn i’r adeg y dechreuodd gyntaf ym 1999. Mae datganoli parhaus wedi golygu bod mwy o bwerau yn cael eu dal ym Mae Caerdydd – gan gynnwys pwerau deddfu sylfaenol a phwerau amrywio treth sy’n creu cyllideb sy’n llawer mwy cymhleth – ac eto rydym yn dal i weithredu gyda’r un faint o aelodau er gwaethaf y llwyth gwaith cynyddol hwn.

Pwrpas y Senedd yw craffu ac i ddal y llywodraeth i gyfrif, ac mae pŵer Llywodraeth Cymru yn amhosib i’w adnabod bron iawn o’i gymharu â blynyddoedd cyntaf datganoli. Ond pwy sy’n dal y llywodraeth i gyfrif? Pwy sy’n craffu ar ddeddfwriaeth sy’n gallu cwmpasu unrhyw beth o’r GIG hyd at ysgolion neu safleoedd tirlenwi hyd yn oed?

A’r ateb – ychydig dros 40 o bobl sy’n gwneud y gwaith hwnnw.

Er gwaetha’r ffaith bod y tirlun gwleidyddol wedi newid yn sylfaenol yn ystod y ddau degawd diwethaf, mae’r Senedd wedi parhau i gael cyfanswm o 60 o aelodau. Os ydych chi’n tynnu aelodau’r llywodraeth, arweinwyr y pleidiau, y Llywydd a’i dirprwy, mae 41 o aelodau’r meinciau cefn ar ôl i wneud y gwaith o graffu ar newidiadau polisi o ddydd i ddydd sy’n effeithio ar dros 3 miliwn o bobl yng Nghymru.

Nid yw hynny’n ddigon ar unrhyw gyfrif. Mae gan yr Alban 129 o ASAau yn Holyrood, tra bod Stormont nôl wrthi gyda 90 o ACDau.

Yn y Senedd, mae 17 o’r 41 o Aelodau’n sy’n eistedd ar Bwyllgorau, swyddogaeth graffu hollbwysig mewn unrhyw senedd, yn eistedd ar dri neu fwy.

Yn 2017, daeth Panel Arbenigol, a gadeiriwyd gan yr Athro Laura McAllister, i’r casgliad bod angen tua 80-90 o aelodau ar y Senedd i wneud ei gwaith yn iawn.

Ochr yn ochr â chynnydd yn nifer yr Aelodau, trafododd y Panel Arbenigol hefyd sut dylai’r Senedd newydd, fwy, gael ei hethol, gan ffafrio system etholiadol Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) gyda chwota rhywedd integredig.1

Rydym wedi cefnogi STV fel system bleidleisio ar gyfer y Senedd ers tro. Gyntaf oll, mae’n cynnig lefel o gymesuredd sy’n llawer uwch ond mae hefyd yn sicrhau mandad cyfartal i’r holl aelodau. Mae’r System Aelodau Ychwanegol (AMS) gyfredol yn darparu dau fath o aelod, sydd wedi arwain at rywfaint o densiwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. I gloi, mae gallu’r STV i gynnwys cwota rhywedd i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal yn y Senedd yn gam hollbwysig i hyrwyddo a diogelu amrywiaeth mewn sefydliad a fu’n arweinydd byd-eang yn y maes hwn yn y gorffennol.

Er gwaetha’r argymhellion gwych hyn, ychydig iawn sydd wedi newid dair blynedd yn ddiweddarach.

Gwnaeth adroddiad y Panel Arbenigol nifer o argymhellion pwysig i gryfhau’r Senedd, ond hyd yma, dim ond yr argymhelliad i ehangu’r etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi’I wireddu. Mae gennym bryderon mawr ynglŷn â natur ‘dewis a dethol’ sut mae argymhellion yr adroddiad wedi’u gwireddu hyd yma.

Adleisiodd adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Medi 2020 nifer o argymhellion y Panel Arbenigol, gan gadarnhau bod gennym ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau bod Senedd Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru.2

Rydym o’r farn ei bod yn hanfodol bod yr argymhelliad i gynyddu capasiti’r Senedd, cynyddu ei aelodaeth i hyd at 90 o aelodau, ochr yn ochr â chyflwyno system bleidleisio STV gyda chwota rhywedd integredig, yn cael eu gweithredu’n fuan.

Gofyniad Maniffesto 1: Gweithredu argymhellion y Panel Arbenigol yn llawn I gynyddu nifer Aelodau’r Senedd i tua 90, ochr yn ochr â gweithredu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) gyda chwota rhywedd integredig. Dylai hyn ddigwydd yn gynnar yn nhymor y Senedd nesaf.

Maniffesto ar gyfer Democratiaeth: Etholiad Senedd Cymru 2021

Darllen mwy o bostiadau...