Diwygio Etholiadol yn San Steffan

Mae'r ffordd yr ydym yn ethol ein ASau yn ddrwg i bleidleiswyr, yn ddrwg i lywodraethiant ac yn ddrwg i ddemocratiaeth.

Hefyd ar gael yn: English

Mae’r ffordd yr ydym yn ethol ASau i San Steffan yn golygu nad yw ein senedd yn cynrychioli Prydain.

Mae’r cysylltiad rhwng pa mor boblogaidd yw plaid yn y blwch pleidleisio a faint o seddi maen nhw’n eu cael yn Nhŷ’r Cyffredin yn aml yn wan ac yn amhosibl i’w ragweld.

Gall miliynau o bobl gefnogi un blaid a chael dim ond un AS, tra gall ychydig gannoedd o filoedd o bobl sy’n cefnogi plaid wahanol gael deg gwaith cymaint. Mae hyn yn golygu nad yw’r materion sy’n bwysig yn San Steffan yr un rhai â’r materion hynny y mae’r cyhoedd yn teimlo’n gryf yn eu cylch.

Pan nad yw’r senedd yn San Steffan yn cynrychioli barn y cyhoedd, mae hynny’n cael effaith wirioneddol ar fywyd ym Mhrydain – mae’n bryd i ni sicrhau bod nifer y seddi’n cyfateb i nifer y pleidleisiau er mwyn i bleidleiswyr gael mwy o reolaeth.

Gall materion sy’n wirioneddol bwysig gael eu diystyrru.

Mae’r ffordd yr ydym yn ethol ASau i San Steffan yn golygu y gall gwleidyddion anwybyddu materion o gryn bwysigrwydd.

Nid yw pobl sy’n pleidleisio dros ymgeiswyr na chânt eu hethol yn cael eu cynrychioli o gwbl. Ond nid yw’r pleidleisiau dros ben a enillwyd gan ymgeiswyr buddugol yn gwneud gwahaniaeth chwaith. Unwaith y bydd gan ymgeisydd ddigon o bleidleisiau i ennill, nid yw unrhyw beth ychwanegol yn cyfrif mewn unrhyw fordd.

Roedd 70% o’r pleidleiswyr yn 2019 yn perthyn i’r ddau grŵp hyn o bleidleiswyr. Pleidleisiodd dros 22 miliwn o bobl, ond eto nid oedd ganddynt unrhyw ddylanwad ar y canlyniad. Mae’n hawdd i’r materion sy’n bwysig iddynt gael eu taflu o’r neilltu, a dim ond pan fyddant yn ormod i’w hanwybyddu yr ymdrinnir â hwy.

Nid yw hyn yn anochel. Mae’r rhan fwyaf o seneddau ledled y byd yn defnyddio systemau sy’n golygu bod yn rhaid iddynt weithio ar y materion sylweddol hynny sy’n wirioneddol bwysig i’r cyhoedd – oherwydd pleidleiswyr sydd wrth y llyw. Gallwch gael gwybodaeth am wahanol ffyrdd o ddewis ASau yn ein hadran ar Systemau Pleidleisio.

Mae’n hawdd anwybyddu ein lleisiau.

Mae pleidleiswyr eisiau dewis go iawn ac i’w llais gael ei glywed yn yr etholiad – ac eto mewn cymaint o seddi mae’r canlyniad i bob diben wedi’i benderfynu ymlaen llaw.

Cyn Etholiad Cyffredinol 2019, llwyddodd ERS i ddarogan y canlyniadau yn gywir mewn 316 o seddau, sef hanner holl seddi Prydain Fawr. Mae mwyafrif y pleidleiswyr yn byw mewn seddi sydd mor ddiogel i blaid ei hennill fel nad oes fawr o obaith i’r AS newid. Mae hyn yn golygu bod pleidiau’n rhoi eu holl ymdrech i mewn i lond dwrn o seddi lle mae cystadleuaeth go iawn – gan lunio eu maniffestos i apelio at bobl mewn seddi y gallent o bosib eu hennill.

P’un ydynt wedi pleidleisio dros yr ymgeisydd buddugol ai peidio, nid yw’n syndod nad yw pleidleiswyr yn teimlo’n rhan o’r system pan na wnaeth eu pleidlais nhw unrhyw wahaniaeth i’r canlyniad. Mae seddi diogel yn meithrin ymddieithrio gwleidyddol a sinigiaeth tuag at ein sefydliadau gwleidyddol. Ar gyfartaledd, newidiodd etholaethau rhwng pleidiau ddiwethaf yn y 1960au, gyda rhai seddi cwbl ddiogel wedi parhau yn gadarn gyda’r un blaid yn eu cynrychioli ers oes y Frenhines Fictoria.

Mae newid y ffordd yr ydym yn cynnal etholiadau fel bod pob pleidlais yn cyfrif tuag at y canlyniad yn gwneud y daith i’r orsaf bleidleisio yn werth chweil – i bawb.

Rydym yn cael ein gorfodi i weithio o amgylch system sydd wedi torri

Mae miliynau yn teimlo bod rhaid iddynt ddal eu trwyn ym mhob etholiad cyffredinol a phleidleisio dros rywun nad oedd yn ddewis cyntaf iddynt.

Ym myd anwadal system y Cyntaf i’r Felin yn San Steffan, mae pleidleiswyr yn aml yn teimlo bod rhaid iddynt fwrw pleidlais dactegol dros ymgeisydd na fyddent fel arfer yn ei gefnogi, er mwyn atal ymgeisydd gwaeth arall rhag ennill. Dywedodd bron i un o bob tri o bleidleiswyr eu bod wedi pleidleisio fel hyn yn 2019.

Mae hyd yn oed pleidiau gwleidyddol yn teimlo bod rhaid iddynt gymryd rhan mewn cytundebau etholiadol, gan ildio i’w gilydd, oherwydd na all y system ymdrin â gormod o ddewis i bleidleiswyr.

Ni ddylai fod rhaid i bleidleiswyr a phleidiau ddefnyddio tactegau o’r fath i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. O dan system gynrychiolaeth gyfrannol, mae pob pleidlais yn helpu i gael ASau wedi’u hethol i ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig i chi.

Meithrin rhwyg rhyngom

Mae system bleidleisio San Steffan yn rhannu’r wlad yn artiffisial, gan ein pegynnu yn hytrach na chaniatáu i ni ddod at ein gilydd. Er mai dim ond un lliw sydd ar y map canlyniadau ar gyfer pob etholaeth, mewn gwirionedd, fyddwch chi byth yn dod ar draws tref lle mae pawb yr un fath.

Mae system San Steffan, lle mae’r enillydd yn bachu’r cyfan, yn gwneud popeth yn ddu a gwyn, gan guddio llawer o feysydd y mae pobl yn gytun yn eu cylch. Mae pob mater dan sylw yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i drechu gwrthwynebydd, yn hytrach na rhywbeth i’w ddatrys er mantais i bawb.

Mae’n amhosib i un AS gynrychioli pawb yn eu hetholaeth – a dyna pam y cewch chi yn y rhan fwyaf o wledydd y byd grŵp o ASau ar gyfer pob ardal, sy’n cynrychioli’r amrywiaeth barn yn yr ardal honno. Dyna syniad craidd cynrychiolaeth gyfrannol – cynrychiolir safbwyntiau mewn cymdeithas yn gymesur â’u niferoedd.

Dim sicrwydd o gael yr enillydd cywir

Mae system etholiadol y Cyntaf i’r Felin yn San Steffan fel arfer yn sicrhau llywodraethau na phleidleisiodd y mwyafrif drostynt, ond weithiau mae’n rhoi grym i bleidiau, hyd yn oed os nad nhw gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau.

Ym 1951 roedd 48.8% o bleidleiswyr eisiau llywodraeth Lafur a 48% am weld llywodraeth Geidwadol. Eto i gyd, y Ceidwadwyr oedd â’r mwyafrif o’r seddi. Ac yn etholiad Chwefror 1974, enillodd Llafur 301 o seddi o gymharu â 297 i’r Ceidwadwyr – er i’r Ceidwadwyr sicrhau 0.7% yn fwy o bleidleisiau na Llafur.

Y Cyntaf i’r Felin yw’r system waethaf bosibl ar gyfer ethol ein cynrychiolwyr. Rydym am weld y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn cael ei defnyddio – system bleidleisio decach, fwy cymesur sy’n gwneud i seddi gyfateb i nifer y pleidleisiau – ac yn golygu nad yw llais neb yn cael ei anwybyddu.

More information about Diwygio Etholiadol yn San Steffan