Testun: Ymunwch â ni yn Llandudno ar gyfer digwyddiadau yng Nghynhadledd Llafur Cymru

Wedi'i bostio ar y 8th Ebrill 2019

Yng nghynhadledd Llafur Cymru eleni, rydym yn falch iawn o fod yn cynnal dau ddigwyddiad ymylol cyffrous.

Ddydd Gwener 12fed Ebrill rhwng 5.30pm a 6.30pm, byddwn yn cynnal Lleisiau’r Dyfodol: Sicrhau Senedd sy’n gweithio i Gymru – digwyddiad ym Mar Gwin Snooze i drafod strwythur ac aelodaeth y Cynulliad yn y dyfodol. Yn ymuno â ni i drafod y camau nesaf mewn diwygio etholiadol, a’r hyn y mae angen ei newid i wneud y Cynulliad yn fwy amrywiol, fydd Huw Irranca Davies, AC dros Ogwr, Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg, a Shavanah Taj, Llywydd TUC Cymru.

https://www.electoral-reform.org.uk/join-the-movement/events/labour-and-electoral-reform-taking-the-next-step-welsh-labour-fringe/

Ddydd Sadwrn 13eg Ebrill rhwng 5.30pm a 7pm, mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol, byddwn yn cynnal Y Bleidlais yn 16: Sut y gall Cymru ddarparu orau ar gyfer ein pobl ifanc? – sgwrs Ystafell Harlech, Venue Cymru am y ffordd orau o gyflwyno pleidleisiau yn 16 oed. Mae’r siaradwyr yn cynnwys yr Athro Elan Closs Stephens CBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru a Hannah Blythyn AC, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Leol a Thai.

https://www.electoral-reform.org.uk/join-the-movement/events/votes-at-16-how-can-wales-best-deliver-for-our-young-people-welsh-labour-fringe

Gobeithiwn eich gweld yn Llandudno yn ein digwyddiadau.