Hefyd ar gael yn: English

Lleisiau Newydd

Author:
Lizzie Lawless, Membership and Digital Officer

Wedi'i bostio ar y 11th Gorffennaf 2018

Rhagair

Gan Jess Blair, ERS Cymru

Jessica Blair2018 yw blwyddyn canmlwyddiant rhoi’r hawl i rai merched bleidleisio am y tro cyntaf. Rydym wedi dod yn bell yn y 100 mlynedd ers hynny gyda gwir newid yn ein democratiaeth o’r estyniad cyfyngedig hwnnw ar yr hawl i bleidleisio, ond er gwaethaf y cynnydd hwn nid ydym wedi dod yn ddigon pell.

Mae ystyried amrywiaeth ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig yn fater sy’n mynd at wraidd ein democratiaeth. Mae’n hollbwysig bod y bobl sy’n ein cynrychioli ni yn wir adlewyrchiad  ohonom, boed hynny trwy eu rhyw, eu hethnigrwydd, eu rhywioldeb, eu hoedran, eu cefndir cymdeithasol economaidd neu anabledd. Os nad yw pobl yn gweld eu hunain mewn gwleidyddiaeth fodern, wrth gwrs na allwn eu beio am ymddieithrio a theimlo’n rhwystredig ynglŷn â’r ffordd y mae’n eu cynrychioli.

Yn aml, mae ein stori ers datganoli wedi cael ei dathlu fel un lwyddiannus. Yn sgil y defnydd o Restrau Byr Menywod yn Unig a ffocws cryf gan rai o’r pleidiau gwleidyddol ar gydraddoldeb, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd 50:50 rhwng y rhywiau. Eto, ers hynny rydym wedi llithro’n ôl. Ar hyn o bryd 43% o ACau sydd yn fenywod. Er gwaethaf hyn, y Cynulliad sydd â’r record fwyaf llwyddiannus o blith holl sefydliadau gwleidyddol Cymru o ran cydraddoldeb rhywiol.

Dim ond 32% o’r rhai sydd wedi’u hethol i Senedd San Steffan ar hyn o bryd sy’n fenywod. Mae’r ffigur ar gyfer ASau Cymru yn is ar 27.5% a hyd heddiw, nid oes AS benywaidd Ceidwadol wedi ei hethol yng Nghymru erioed.

Ar lefel llywodraeth leol hefyd, mae’r cynnydd wedi bod yn araf. 27.83% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod. Nid oes gan ddau o 22 awdurdod lleol Cymru yr un fenyw o gwbl yn eu cabinet.

O ran dangosyddion demograffig eraill, mae’r darlun yn llai clir oherwydd prinder data swyddogol ond hyd yn oed heb ystadegau penodol, mae’n amlwg nad ydym yn gwneud yn dda. Amlygodd Maniffesto Cydraddoldeb ar gyfer Menywod a Merched WEN Cymru y ffaith nad yw Cynulliad Cymru erioed wedi ethol menyw ddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig.

I lawer o bobl sy’n darllen y geiriau hyn, ni fydd y data rwyf wedi eu hamlygu uchod yn peri syndod. A dweud y gwir, rydym wedi clywed llawer o hyn o’r blaen.

Felly bwriad yr adroddiad hwn yw dod â’r data a’r straeon at ei gilydd. Yr ydym wedi bod yn awyddus i dyrchu y tu hwnt i’r niferoedd a’r penawdau a chynhyrchu adroddiad sy’n seiliedig ar sgyrsiau ehangach gyda gwleidyddion etholedig, ymgeiswyr y dyfodol a rhai sydd wedi colli unrhyw awydd i sefyll.

Rydym wedi defnyddio cyfuniad o arolygon i bob cynrychiolydd etholedig yng Nghymru, cyfweliadau â phobl allweddol ym mhob plaid, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a thrafodaeth bord gron gyda sefydliadau cydraddoldeb allweddol yng Nghymru er mwyn datblygu darn o waith sydd, gobeithio, yn rhoi gwell dealltwriaeth o beth sy’n rhwystro cydraddoldeb yn ein sefydliadau gwleidyddol. O ddeall y rhwystrau yr ydym yn eu hwynebu yn well, bydd gennym well dealltwriaeth o sut y gallwn ni eu goresgyn.

Argymhellion

Argymhellion

Argymhellion 1

Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cwota o 45% ar gyfer pob plaid mewn etholiadau llywodraeth leol, fyddai’n golygu y dylai 45% o’u hymgeiswyr fod yn fenywaidd.

Argymhellion 2

Dylid rhoi mesurau ar waith i annog ystod ehangach o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, o oedrannau gwahanol a rhai ag anableddau ochr yn ochr â ffyrdd i fonitro sut mae hyn yn datblygu.  Fel rhan o hyn, dylai pob plaid ofyn i ymgeiswyr lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb wrth gael eu dewis a dylai pob plaid ryddhau ffigurau pennawd am eu hymgeiswyr yn gyhoeddus mewn fformat safonol fel bod modd cymharu’r pleidiau’n deg. Yna dylai pob awdurdod lleol gyhoeddi adroddiad cyflawn o’i gyfansoddiad ar ôl pob etholiad.

Argymhellion 3

Dylai arweinwyr Cynghorau gael eu dal i gyfrif gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn methu â dewis cynghorwyr sy’n amrywiol ar gyfer eu timau arweinyddiaeth.

Argymhellion 4

Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad i dâl cynghorwyr, a ddylai gynnwys dadansoddiad o’r potensial i gael llai o gynghorwyr ar gyflog uwch.

Argymhellion 5

Dylai Llywodraeth y DU weithredu Adran 106 y Ddeddf Cydraddoldeb mewn pryd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf gan ei gwneud yn ofynnol i bob plaid gyhoeddi data cydraddoldeb mewn fformat safonol cyson. Ar lefel Cymru ni ddylai pleidiau aros am Etholiad Cyffredinol nesaf y DU a dylent gasglu’r wybodaeth hon ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad a’r etholiadau lleol nesaf.

Argymhellion 6

Dylai Llywodraeth y DU ddeddfu i sicrhau bod rhaid i bob plaid gynnig ymgeiswyr y mae o leiaf 45% ohonynt yn fenywod. Dylid ymgymryd â gwaith hefyd i ystyried sut i roi mesurau ar waith i hyrwyddo grwpiau amrywiol eraill.

Argymhellion 7

Dylai pob plaid wleidyddol gyflwyno Cynllun gweithredu ar amrywiaeth ar gyfer dewis ymgeiswyr ar gyfer seddi targed gwag ar lefel San Steffan.

Argymhellion 8

Dylid mabwysiadu system etholiadol gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cyffredinol y DU, gan ganiatáu i gwotâu rhyw gael eu hymgorffori i wella’r problem ‘seddi diogel.

Argymhellion 9

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu holl argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio’r Cynulliad mewn perthynas â chydraddoldeb rhywiol erbyn etholiad nesaf y Cynulliad.

Argymhellion 10

Dylai pob plaid geisio cael ymgeiswyr o gefndiroedd mwy amrywiol yn etholiadau nesaf y Cynulliad, yn enwedig ymgeiswyr BAME benywaidd a rhai ag anableddau.

Argymhellion 11

Dylid gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (PSBC) y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddatblygu technegau awtomataidd ar gyfer canfod ymddygiad bygythiol a’i dynnu i lawr. Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol hefyd gynnig offer i alluogi defnyddwyr i uwchgyfeirio adroddiadau am weithgaredd anghyfreithlon ar-lein i’r heddlu.

Argymhellion 12

Dylai pleidiau gwleidyddol Cymru ddatblygu cod ymddygiad ar y cyd ar ymddygiad bygythiol. Dylid cynnig gwell hyfforddiant ac arweiniad i ymgeiswyr ar gamdriniaeth trwy’r cyfryngau cymdeithasol hefyd, fel yr argymhellwyd hefyd gan y PSBC y llynedd.

Argymhellion 13

Dylid darparu gwell addysg wleidyddol yn ysgolion Cymru i ddechrau ceisio mynd i’r afael â’r diwylliant negyddol sydd ar hyn o bryd yn arwain at lawer o’r cam-drin yr ydym yn ei weld.

Argymhellion 14

Dylid cynnal asesiad o hyfywedd meithrinfa yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i’w defnyddio gan Aelodau Cynulliad a staff.

Argymhellion 15

Dylai rhannu swyddi fod yn opsiwn i wleidyddion ymhob sefydliad, cyn belled â bod y trefniadau priodol yn cael eu gwneud.

Argymhellion 16

Dylid cynnal adolygiad o sut y gellir darparu cyllid ar gyfer ymgeiswyr o gefndir amrywiol, a dylai’r adolygiad hwnnw ystyried argymhelliad  adroddiad ‘Dadansoddi Amrywiaeth’ ynghylch cyflwyno ‘Cronfa Mynediad i Wleidyddiaeth’.

Methodoleg

Methodoleg

Mae’r prosiect hwn wedi ceisio deall y rhwystrau rhag cael democratiaeth fwy amrywiol yng Nghymru gan ddefnyddio dull cyfunol o ddadansoddi ansoddol a meintiol mewn nifer o fformatau.

Roedd hyn yn cynnwys;

  • Arolwg. Dosbarthwyd arolwg i gynrychiolwyr etholedig yng Nghymru i ganfod gwybodaeth gan gynnwys rhyw, anghenion anabledd, eu hoed a’u profiadau o aflonyddu mewn gwleidyddiaeth. Fe wnaethom lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol hefyd yn gofyn i bobl pam eu bod wedi colli unrhyw awydd i sefyll.
  • Astudiaethau achos a chyfweliadau. Er mwyn ychwanegu dyfnder i’r prosiect yr oeddem yn awyddus i gynnal cyfweliadau unigryw â phobl allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru am y rhwystrau rhag cael democratiaeth fwy amrywiol.
  • Dadansoddi data. Rydym wedi casglu a dadansoddi data o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifo nifer y gwleidyddion benywaidd ar bob lefel o lywodraethu yng Nghymru. O ystyried y diffyg ystadegau ffurfiol ynghylch amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig, bu’n rhaid i ni wneud rhai rhagdybiaethau ynghylch rhyw, gan seilio’r rhagdybiaethau hyn ar enwau a lluniau.
  • Adolygiad o lenyddiaeth. Rhyddhawyd nifer o adroddiadau ar amrywiaeth yn ddiweddar ac mae’r adroddiad hwn wedi edrych ar eu canfyddiadau er mwyn sicrhau ein bod ni’n adeiladu arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio’r Cynulliad Senedd sy’n gweithio i Gymru, Dadansoddi Amrywiaeth, a gomisiynwyd gan Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Ein Maniffesto WEN Cymru.
  • Trafodaeth Bord Gron. I ddatblygu ein hargymhellion, fe wnaethon ni gynnull cyfarfod o sefydliadau allweddol yng Nghymru ac yno, fe wnaethom rannu ein canfyddiadau a thrafod y dull gorau o fynd ati i wella’r rhwystrau yr ydym wedi’u canfod. Ymhlith y cyfranogwyr yn y sesiwn hon, roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CLlLC, Chwarae Teg, WEN Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Comisiwn Etholiadol. Mynychodd cynrychiolydd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru y sesiwn fel sylwedydd.

Arolwg

Mae cyfanswm y niferoedd y buom yn siarad â nhw er mwyn cynnal yr ymchwil ar gyfer y prosiect hwn wedi’i nodi isod – https://goo.gl/VKKr9K

Anfonwyd yr arolwg at holl aelodau etholedig Cymru ar lefel awdurdodau lleol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig ym mis Chwefror 2018 ac fe’i dilynwyd gan negeseuon e-bost i atgoffa yn y misoedd dilynol. Cafwyd 266 o ymatebion, 224 o gynghorwyr, 26 AC, 11 AS ac 1 ASE gyda 4 heb nodi ar ba lefel o lywodraeth yr oeddent wedi’u hethol.

Allan o’r 265 a atebodd y cwestiwn ynglŷn a pha blaid wleidyddol yr oeddent yn perthyn iddi, cafwyd yr atebion canlynol:

Plaid Nifer Canran (%)
Llafur (gan gynnwys Y Blaid Lafur a Chydweithredol) 104 39.3
Plaid Cymru 75 28.3
Ceidwadwyr 37 14
Annibynno 32 12.2
Y Democratiaid Rhyddfrydol 10 13.8
UKIP 1 0.4
Y Blaid Werdd 1 0.4
Arall 1 0.4
Mae ’n well gennyf beidio â dweud 4 1.5

 

Cyfweliadau

Fel rhan o’n cyfres o gyfweliadau, buom yn siarad ag wyth gwleidydd gan gwmpasu pum plaid a thair lefel o lywodraeth.  Mae trawsgrifiad llawn o bob cyfweliad ar gael yma – https://goo.gl/4tpXqT

Mae recordiadau sain a fideo o’r cyfweliadau ar gael yma – https://www.youtube.com/c/electoralreformsociety

  • Andrew RT Davies AC
  • Bethan Sayed AC
  • Caroline Jones AC
  • Y Cyng. Debbie Willcox
  • Gerald Jones AS
  • Y Cyng. Rodney Berman
  • Sian Gwenllian AC
  • Y Cyng. Yvonne Jardine

Fideos o bob cyfweliad

Galwad ar gyfryngau cymdeithasol

Fe gyhoeddon ni alwad trwy’r cyfryngau cymdeithasol am bobl oedd wedi cael eu hatal rhag sefyll a gofynnon ni iddyn nhw beth oedd eu rhesymau dros beidio â sefyll.

Ymatebodd 11 o bobl.

Rhywystrau Sefydliadol

Rhywystrau Sefydliadol

Er gwaethaf yr argraff a roddir weithiau, mae pob haen o lywodraeth yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae yna hen draddodiadau yn San Steffan a fyddai’n edrych yn chwerthinllyd yn y Senedd ac mae llywodraeth leol yn gweithredu mewn paramedrau hollol wahanol mewn rhai ffyrdd.

Mae hyn yn cael effaith ar y bobl sy’n sefyll ac sy’n cael eu hethol ym mhob sefydliad ac wrth ystyried amrywiaeth, ni ddylem gyfyngu ein hunain i edrych ar rwystrau cyffredinol yn unig, ond dylid cynnig dadansoddiad trylwyr o’r rhwystrau y mae pob un o’r sefydliadau hyn yn eu gosod.

Felly, rydym wedi edrych ar y sefyllfa mewn llywodraeth leol, yn San Steffan ac yn y Senedd ac rydym wedi datblygu argymhellion penodol i oresgyn y materion ymhob un ohonynt.

Llywodraeth Leol

Y llynedd gwelwyd etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, ac fe amlygodd hyn y diffyg amrywiaeth mewn awdurdodau lleol. Ein cynghorau yw’r dull llywodraethu agosaf atom ni ac maent yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar lawr gwlad sy’n effeithio’n sylweddol ar ein bywydau o ddydd i ddydd, ac eto nid ydynt yn adlewyrchu realiti bywyd modern yng Nghymru.

Dyma sut siâp sydd ar bob cyngor o ran nifer y menywod a etholwyd:

Cyngor Nifer y cynghorwyr % o gynghorwyr benywaidd
Blaenau Gwent 5 11.9%
Pen-y-Bonr ar Ogwr 17 31.5%
Caerffili 19 26.0%
Caedydd 25 33.3%
Sir Gaefyrddin 23 31.1%
Ceredigion 23 11.9%
Conwy 5 25.4%
Sir Ddinbych 11 23.4%
Sir y Fflint 18 25.7%
Gwynedd 17 23%
Merthyr Tydfil 3 9.4%
Sir Fynwy 15 34.9%
Castell-nedd Port Talbot 21 32.8%
Casnewydd 16 32%
Sir Befro 8 13.3%
Powys 23 31.5%
Rhondda Cyon Taf 31 41.3%
Abertawe 30 41.7%
Torfaen 17 38.6%
Bro Morgannwg 17 36.2%
Wrecsam 10 19.2%
Ynys Môn 3 10%
CYFANSYMIAU 349 100%

 

Mae’r ystadegau moel uchod yn creu darlun lle mae cydbwysedd rhywiol yn sobor o wael. Dim ond 30% o’r holl ymgeiswyr yn etholiadau’r cynghorau sir y llynedd oedd yn fenywod gyda 33% o wardiau heb unrhyw ymgeiswyr benywaidd o gwbl. O ystyried y lefelau isel o amrywiaeth mewn ymgeiswyr, nid yw’n syndod mai dim ond 349 o’r 1254 o gynghorwyr yng Nghymru sy’n fenywod, neu ganran ddamniol o 27.83%.

O ran arweinyddiaeth mewn awdurdodau lleol, nid yw’r darlun fawr gwell. Serch hynny, mae’n deg cydnabod pa gynnydd a wnaed. Dyblodd nifer y menywod sy’n arwain awdurdodau lleol yn dilyn etholiadau’r llynedd gyda phedair arweinydd benywaidd bellach yn eu lle ledled Cymru. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cael ei harwain gan fenyw am y tro cyntaf, sef Arweinydd Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox

Ar y cyfan, fodd bynnag, wrth ystyried arweinyddiaeth cynghorau, ymddengys bod y term ‘hen ddynion gwyn’ yma i aros. O’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, nid oes gan ddau ohonynt unrhyw fenywod o gwbl ar eu cabinet.

O ran amrywiaeth cabinet y cynghorau, roedd llawer o bobl a gyfwelwyd gennym yn tynnu sylw at yr angen i fwy o ferched gael eu penodi i swyddi arweinyddiaeth. Esboniodd Debbie Wilcox ei barn ar y mater hwn, gan ddweud:

“Dw i’n meddwl ei bod yn anffodus bod y sefyllfa honno wedi codi…Mae gen i gabinet yng Nghasnewydd, nid ydym cweit yn 50%, rhywbeth fel 45%, felly mae 9 ohonom ni, 4 o fenywod a 5 o ddynion a does dim amheuaeth bod ystod amrywiol o brofiadau a barn yn dod i mewn i gabinet cytbwys.”

Eto i gyd, roedd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y mae ei blaid yn arwain un o’r ddau awdurdod nad oedd ag unrhyw fenywod yn y cabinet yn anghytuno:

“Yn hytrach nag edrych ar y cabinet yn unig, rydych chi’n edrych ar y grŵp Ceidwadol ehangach ar gyngor y Fro ac mae yna rai ymgeiswyr benywaidd anhygoel elly, yn ifanc, yn hen, yn ganol oed, benywaidd, gwrywaidd, hoffwn feddwl, yn hytrach na chanolbwyntio ar y cabinet yn unig, mae’n bwysig edrych ar y cyngor cyfan ac yn sicr wedi’r etholiadau llywodraeth leol diwethaf, fe wnaeth y cyngor cyfan newid deinameg y Ceidwadwyr yma ym Mro Morgannwg a thu hwnt”

Yn aml, dim ond rhyw fyddwn ni’n ei ystyried wrth drafod amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth ond mae amrywiaeth yn golygu llawer iawn o bethau ochr yn ochr â hyn; ethnigrwydd, oedran, rhywioldeb, crefydd, p’un a oes gennym anabledd, ein hamgylchiadau ariannol.

O’r herwydd nid oes gennym wybodaeth gyflawn am fesurau amrywiaeth eraill ar gyfer unrhyw un o’r sefydliadau yr ydym yn eu harchwilio. Fodd bynnag, mae gennym rywfaint o ddata a all gyflwyno darlun sylfaenol o ble rydym ni arni. Wrth baratoi’r adroddiad hwn, gofynnom i bob cynrychiolydd etholedig yng Nghymru gwblhau arolwg yn ateb cwestiynau amdanynt eu hunain.

Cwblhaodd 266 o wleidyddion etholedig yr arolwg hwn gyda 224 o’r ymatebwyr hyn yn gynghorwyr.

Cynghorwyr

Rhyw Nifer Canran (%)
Dynion 152 67.9%
Menywod 70 31.3%
Gwell ganddynt beidio â dweud 2 0.9%

 

Rhywioldeb Nifer Canran (%)
Heterorywiol 198 88.4%
Gwell ganddynt beidio â dweud 13 5.8%
Cyfunrywiol/Hoyw 8 3.6%
Deurywiol 5 2.2%

 

Oedran Nifer Canran (%) Benyw Gwryw
18-24 7 3.1% 2 5
25-34 21 9.4% 6 15
35-44 25 11.2% 9 16
45-54 34 15.2% 14 20
55-64 71 31.7% 23 48
65-74 53 23.7% 16 37
75+ 13 5.8% 1 12

 

Ethnigrwydd Nifer
Gwyn – Prydeinig, Seisnig, Gogledd Iwerddon, Albanaidd neu Gymreig 203
Gwyn – Gwyddelig 1
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Indiaidd 1
Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd 1
Gwell ganddynt beidio â dweud 2
Dim ateb 11
Arall 5

Mae’r data hyn dangos mai cynghorwyr gwrywaidd, hetero, canol-oed a gwyn sydd ganddon ni’n bennaf yng Nghymru.

Mae’n amlwg nad yw llywodraeth leol yng Nghymru yn adlewyrchu’r gymdeithas yn gywir o ran eu haelodau etholedig. Yn amlwg, nid yw ymagweddau pytiog at gywiro amrywiaeth ar lefel cynghorau wedi gweithio – dim ond 6% o dwf sydd wedi bod yng nghyfran y cynghorwyr sy’n fenywod yn llywodraeth leol Cymru dros y 13 mlynedd diwethaf – a dylid ystyried atebion sefydliadol.

Fel y dywedodd Debbie Wilcox:

“Rwy’n credu y bydd yn rhaid inni gael rhyw fath o system cwota bob amser … Mae’r holl bethau hyn yn bwysig ac mae’n ymwneud â thorri trwy’r rhwystrau hynny oherwydd ni fyddem wedi cael y gynrychiolaeth a gawsom yn y Cynulliad pe na bai gefeillio wedi bod gyda ni.”

Yn y pen draw heb gyflwyno cwotâu i sicrhau amrywiaeth, bydd y cynnydd yn parhau i fod yn affwysol o araf. Dylai’r pleidiau wneud ymdrechion hefyd i gadw gwell data ynglŷn ag amrywiaeth eu hymgeiswyr. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn o dan adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, y mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i’r gweithredu, ond yn absenoldeb y mesur hwnnw, mae angen i’r pleidiau gymryd cyfrifoldeb mewn modd llawer cryfach.

Mae angen rhoi sylw hefyd i arweinyddiaeth mewn awdurdodau lleol. Ni ddylem fod yn goddef y diffyg amrywiaeth yn arweinyddiaeth y cynghorau yng Nghymru. Mae modelau rôl yn hanfodol mewn llywodraeth leol ar gyfer creu diwylliant lle gall newid ddigwydd. Yn rhy aml, gall amrywiaeth a chydraddoldeb fod yn sefyllfa iâr ac wy, lle nad yw pobl yn gweld pobl sy’n eu cynrychioli nhw mewn swyddi safleoedd pwerus ac o’r herwydd, nid ydynt yn sefyll. Dylai arweinwyr cynghorau gael eu dwyn i gyfrif gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn methu â dewis cynghorwyr sy’n amrywiol. Does dim modd cadw at y sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd lle nad oes gan ddau o’r 22 awdurdod unrhyw fenywod yn eu timau arweinyddiaeth.

Wrth ymateb i hyn, dywedodd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Rodney Berman:

“Rwy’n credu bod hynny’n eithaf syfrdanol a bod yn gwbl onest a hoffwn feddwl na fyddwn byth yn cymryd rhan mewn cabinet o wrywod yn unig oherwydd nid yw hynny’n adlewyrchu’r gymuned yn ddigon da. Allwch chi ddim cael mwy na 50% o’r boblogaeth heb eu cynrychioli.”

Nid yw cwotâu ar eu pennau eu hunain yn ateb i bob problem. Os ydym o ddifri am chwalu’r rhwystrau rhag cyrraedd cydraddoldeb sy’n benodol i lywodraeth leol, yna rhaid inni ystyried oriau gwaith a thâl.

Er bod llawer o bobl yn tybio bod cynghorwyr yn ennill llawer o arian am wneud ychydig oriau o waith, mae’r realiti yn wahanol iawn. Bydd cynghorydd yng Nghymru nad yw ar gabinet nac yn gadeirydd pwyllgor yn ennill tua £13,300 y flwyddyn.

Yn wir, cododd Gerald Jones AS Merthyr a Rhymni, a wasanaethodd fel cynghorydd rhwng 1995 a 2015 y mater hwn:

“…mae’r myth bod gwasanaethu ar y cyngor yn rhyw fath o waith rhan-amser, neu’n awr gyda’r nos neu dros y penwythnos yn gwbl wallgof.”

O gofio hyn, mae’n hynod gyffredin gweld cynghorwyr sy’n gweithio oriau hir yn cydbwyso’u gwaith gwleidyddol â swydd arall. Ar ben hynny, tra mai’r cyngor unigol sy’n penderfynu ar oriau’r cyngor, mae’r oriau’n tueddu i fod yn anodd i bobl sy’n gweithio neu i bobl sy’n gofalu am deuluoedd. Mae bod yn gynghorydd yn gofyn am lawer iawn o hyblygrwydd a chyfaddawdu yn eich bywyd bob dydd. A bod yn realistig, mae’n anodd i lawer wneud y gwaith ac nid yw’n syndod o gwbl mai dynion hŷn, a llawer ohonynt wedi ymddeol, sydd wedi bod amlycaf yn y maes hwn yn draddodiadol.

Fel y dywedodd un o’r ymatebwyr i’n hymgyrch cyfryngau cymdeithasol wrthym:

“Mae cael fy ethol i’r cyngor yn rhywbeth yr wyf wedi’i ystyried ac mae’n rhywbeth y gallwn ei ystyried pan fyddaf yn ymddeol o’r gwaith. Mae hynny ychydig yn hurt mewn gwirionedd, gan y dylem fod yn chwilio am y gorau yn ein cynrychiolwyr etholedig, nid rhywun fel fi sy’n mynd heibio’i orau.”

Cododd y Cynghorydd Rodney Berman sydd â swydd amser llawn yn ogystal â bod yn gynghorydd dros Benylan y materion hyn mewn cyfweliad gyda ni:

“…mae’n [oriau gweithio] rhywbeth y mae angen ei ystyried oherwydd fe wnes i feddwl gweld a allwn i fynd yn rhan-amser efallai, torri fy oriau i lawr yn fy swydd bresennol (ac) nid wyf yn siŵr a fyddai hynny wedi bod yn opsiwn…Ond mae’n rhaid ichi feddwl sut mae hynny’n mynd i weithio gan fod rhaid i mi ddal ati i dalu’r morgais, mae gen i filiau i’w talu o hyd, mae angen i mi gael incwm. Felly mae’n rhaid imi feddwl a ydw i eisiau aberthu rhai pethau yn fy ngyrfa er mwyn datblygu fy ngyrfa wleidyddol ymhellach …?”

Yng ngoleuni’r goblygiadau ymarferol ac ariannol hyn, mae angen i ni gael sgwrs am sut i foderneiddio democratiaeth leol i bwynt lle mae’n rôl ddeniadol ar gyfer set fwy amrywiol o ymgeiswyr. Gallai hyn gynnwys lefel uwch o dâl ar gael ar gyfer llai o gynghorwyr a allai wedyn weithio’n llawn amser. Fe fyddem yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o hyn.

Er y bydd rhai yn anochel yn gwrthwynebu ein hargymhellion gan honni bod y system gyfredol yn gwobrwyo pobl yn ôl teilyngdod a phrofiad, byddem yn cynnig dwy wrth-ddadl i hynny.

Yn gyntaf, mae’n anodd credu bod dau awdurdod lleol yng Nghymru lle nad oedd yr un cynghorydd o gwbl nad oedd yn wyn, yn wrywaidd neu’n ganol oed yn gymwys i gael ei ddewis ar gyfer y cabinet.

Yn ail, teilyngdod yn sicr ddylai fod yn brif ystyriaeth wrth benderfynu pwy ddylai gael ei ddewis i sefyll etholiad a phwy ddylai gael ei godi i lefel cabinet wedyn, ond gellir edrych ar deilyngdod mewn nifer o wahanol ffyrdd fel yr amlygodd adroddiad gan y Grŵp Arbenigol ar Amrywiaeth yn 2014, pan roddodd enghraifft o ddull gwahanol y gellid ei ddefnyddio:

“yn Abertawe, yr arfer a fabwysiadwyd gan yr arweinydd yn dilyn etholiadau 2012 oedd caniatáu i unrhyw aelod o’r grŵp gwleidyddol oedd yn rheoli wneud cais am swyddi cabinet a chymryd rhan mewn cyfweliad gyda’r arweinydd a’r dirprwy. O fabwysiadu’r dull hwn, yn hytrach na’r arfer traddodiadol yn seiliedig ar nawddogaeth, arweiniodd at gael” grŵparweiniol yn y cyngor sy’n cynnwys pedair menyw a dau ddyn iau.”

Mae cael llywodraeth leol heb amrywiaeth yn atgyfnerthu stereoteip clwb yr hen fechgyn ac yn gosod pellter amlwg rhwng awdurdodau lleol a’r bobl y maent yn eu cynrychioli. Gall amrywiaeth fod yn rhan hanfodol o’r broses o ddod ag awdurdodau lleol Cymru i’r oes fodern.

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cwota o 45% ar gyfer pob plaid mewn etholiadau llywodraeth leol, fyddai’n golygu y dylai 45% o’u hymgeiswyr fod yn fenywaidd.

Argymhelliad 2

Dylid rhoi mesurau ar waith i annog ystod ehangach o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, o oedrannau gwahanol a rhai ag anableddau ochr yn ochr â ffyrdd i fonitro sut mae hyn yn datblygu. Fel rhan o hyn, dylai pob plaid ofyn i ymgeiswyr lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb wrth gael eu dewis a dylai pob plaid ryddhau ffigurau pennawd am eu hymgeiswyr yn gyhoeddus mewn fformat safonol fel bod modd cymharu’r pleidiau’n deg. Yna dylai pob awdurdod lleol gyhoeddi adroddiad cyflawn o’i gyfansoddiad ar ôl pob etholiad.

Argymhelliad 3

Dylai arweinwyr Cynghorau gael eu dal i gyfrif gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn methu â dewis cynghorwyr sy’n amrywiol ar gyfer eu timau arweinyddiaeth.

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad i dâl cynghorwyr, a ddylai gynnwys dadansoddiad o’r potensial i gael llai o gynghorwyr ar gyflog uwch.

San Steffan

Mae Senedd y DU fel sefydliad gwleidyddol yn ganrifoedd oed a gall hynny fod yn amlwg yn rhai o’r ffyrdd y mae’n gweithredu. O’r bachau i hongian eich cleddyf i’r ffordd y mae ASau yn pleidleisio, mae San Steffan yn sefydliad sy’n pwyso’n drwm ar draddodiad. Mae hynny’n sicr yn amlwg yn y traddodiad o ddynion gwyn, hetero sy’n tra-arglwyddiaethu ar y meinciau gwyrddion.

Mae’r Senedd yn perfformio’n ofnadwy ym maes cydraddoldeb. Ystyriwch hyn: dim ond 489 o ASau benywaidd sydd wedi’u hethol yn gyfan gwbl ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 100 mlynedd yn ôl. Ar hyn o bryd mae’r ganran uchaf erioed yn y Senedd, sef 32% o’i ASau yn fenywod, ond mae’r nifer hwn yn dal yn gymharol isel. O ran Cymru yn San Steffan, mae’r perfformiad yn is na’r ffigwr hwnnw, gydag 11 allan o 40 o ASau Cymru yn fenywod, sef dim ond 27.5%.

Etholaethau Cymreig Members of Parliament representing Welsh constituencies

Blwyddn Menywod Dynion Menywod %
2017- 11 29 27.5%
2015-17 9 31 22.5%

Aelodau Seneddol Cymru (cyfredol yn ôl plaid)

Plaid Menywod Dynion Menywod %
Llafur 10 18 35.7%
Ceidwadwyr 0 8 0%
Plaid Cymru 1 3 25%

 

Nid yw’r blaid Geidwadol erioed wedi cael AS benywaidd Cymreig, ffaith sy’n wirioneddol syfrdanol yn yr oes fodern. Pan siaradom ag Andrew RT Davies, cyn Arweinydd Ceidwadwyr Cymru, am hyn, dywedodd:

“Rwy’n credu, bod llawer o bobl, yn anghywir, yn edrych ac yn dweud nad yw hynny i mi. Yn anffodus, nid wyf yn gwybod pam, efallai bod canfyddiad hanesyddol yn hynny o beth? Os edrychwch ar y delweddau sy’n dod o Dŷ’r Cyffredin, rydych chi’n gweld wal o ddynion yn dadlau ac yn trafod ac yn anymwybodol gallai pobl o gefndir ethnig neu amrywiol, ag anableddau neu fenywod feddwl ‘dyw hynny ddim i mi’. Ac mewn etholiadau olynol, rydym wedi ceisio, yn sicr dros y deng mlynedd diwethaf, ehangu ein sylfaen ymgeiswyr, cael rhagor o fenywod yn sefyll, rhagor o leiafrifoedd ethnig yn sefyll. A oes mwy y gallwn ei wneud? Wrth gwrs bod mwy y gallwn ei wneud.”

Er bod hyn yn sicr yn wir, nid yw’n peintio’r darlun cyfan o pam mae’r blaid wedi methu â dewis menywod sydd wedi mynd ymlaen i ennill. Yn y pen draw, mae pleidiau sydd wedi defnyddio camau cadarnhaol, fel y rhestrau byrion menywod yn unig, wedi llwyddo i gynyddu’r nifer o fenywod a etholwyd i’r Senedd. Fe wnaeth y Ceidwadwyr ddethol menywod mewn seddi targed yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol y llynedd, yn benodol Pen-y-bont ar Ogwr a Gorllewin Casnewydd, er gwaethaf gwrthymateb arwyddocaol gan y canghennau etholaethol, ond yn y pen draw methodd y ddwy â chael eu hethol.

Trafododd Andrew RT Davies AC y materion hyn o fewn y blaid gan ddatgan:

“Mae cymdeithasau yn y blaid Geidwadol yn sefydliadau annibynnol iawn ac fel llawer o unigolion mae’n gas ganddynt gael pobl yn dweud wrthynt beth i’w wneud, am resymau da iawn. Rydym yn sefydliad aelodaeth ac yn hytrach na chael cyfarwyddiadau o’r brig ynghylch beth i’w wneud, mae sefydliadau aelodaeth yn bodoli trwy gael gwybod beth i’w wneud o’r gwaelod trwy’r pleidleisiau yn y cymdeithasau. Mae’n beth doniol o’r enw democratiaeth.”

Er nad yw’r Ceidwadwyr wedi dilyn cwotâu ffurfiol maent yn pwysleisio’r angen am fwy o ASau benywaidd trwy eu rhaglen Women2Win, ymgyrch i ethol mwy o ferched Ceidwadol i’r senedd. Wedi ei sefydlu yn 2005, mae hyn wedi arwain at fwy o fenywod yn cael eu hethol ac mae’n parhau â’i gwaith, gyda Chymru yn ardal y maent yn ei thargedu. Mae’r math hwn o ymgyrch yn wahanol i ymrwymiad y pleidiau eraill i gwotâu

Mewn cyferbyniad â sefyllfa Ceidwadwyr Cymru ar weithredu positif, mae Llafur Cymru wedi cyflwyno polisi yn ddiweddar ar gyfer Etholiadau Cyffredinol y DU lle bydd ymgeisydd benywaidd yn cael ei dewis ar gyfer pob sedd wag trwy restrau byrion menywod yn unig. Maent yn bwriadu cadw’r polisi hwn ar waith hyd nes y bydd cynrychiolaeth seneddol Llafur Cymru yn cyfateb i 50% o ddynion a 50% o fenywod.

Yn y pen draw, mater i bob plaid yw gwneud penderfyniad ynghylch pa fesurau sy’n gweithio orau iddyn nhw, fodd bynnag, gallwn weld bod mesurau mwy radical yn draddodiadol wedi bod yn fwy effeithiol.

Yn ogystal â phroses ddethol y pleidiau, mae hefyd etifeddiaeth hanesyddol o oruchafiaeth lwyr gan ddynion yn San Steffan, sy’n dal cynnydd yn ôl.

Mae ymchwil gan ERS wedi canfod bod ‘blocio seddi’ yn ganlyniad i’r diwylliant seddi diogel a feithrinwyd o dan system bleidleisio San Steffan. Yn y bôn oherwydd mai ychydig iawn o seddi ymylol sydd, yn y rhan fwyaf o achosion pan gafodd dynion eu hethol yn y gorffennol, maent wedi dal eu gafael ar eu seddi nes eu bod yn penderfynu eu hunain i gamu o’r neilltu. Golyga hyn, er bod ASau newydd a etholwyd yn 2017 yn gymharol gytbwys rhwng y rhywiau (40%) mae gwaddol y methiant i fynd i’r afael â chydraddoldeb tan yn ddiweddar wedi cadw’r canlyniad cyfartalog yn ôl. Mewn gwirionedd, mae 80% o ASau Cymru sy’n eistedd ar hyn o bryd ac a etholwyd cyn 2010 yn ddynion.

O’r 212 AS sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a etholwyd yn gyntaf yn 2005 neu cyn hynny, dim ond 42 (20%) sy’n fenywod. O 44 o ASau presennol a etholwyd gyntaf yn 1992 neu cyn hynny, dim ond wyth ohonynt sy’n fenywod. Ac wrth gwrs, po hiraf y bydd AS yn dal ei sedd, mae her iddynt yn ymddangos yn llai a llai tebygol.

Seddi dioge

ASau Cymreig erbyn eu blwyddyn gyntaf o etholiad

Blynyddoedd (ASau ar gyfer seddi Cymreig ers:) Gwryw Benyw Cyfanswm Gwryw Benyw
2001 neu cyn hynny 9 1 10 90.0% 10.0%
2005 neu cyn hynny 13 4 17 76.5% 23.5%
2010 neu cyn hynny 21 5 26 80.8% 19.2%
2015 neu cyn hynny 26 9 35 74.3% 25.7%

Ni fydd y Senedd yn symud ymlaen ar gydraddoldeb oni bai ei bod yn cymryd rhai camau difrifol. Yn gyntaf, mae dechrau mesur y diffyg amrywiaeth yn hanfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i bleidiau gyhoeddi gwybodaeth ynghylch amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau, ond ni roddwyd y ddarpariaeth hon ar waith hyd heddiw. Yn aml, y rheswm a roddir am hyn yw’r baich ar bleidiau llai, ond gwyddom fod rhai pleidiau llai eisoes yn casglu’r wybodaeth hon.

Mae diffyg data ar nodweddion gwarchodedig yn rhwystr mawr rhag gwneud cynnydd ar amrywiaeth. Os nad yw maint y broblem yn eglur i ni, yna sut gallwn ni ddechrau mynd i’r afael â hi? Oni bai bod Llywodraeth y DU yn cymryd y mater hwn o ddifri ac yn deddfu Adran 106 y Ddeddf Cydraddoldeb, yna bydd hanfodion anghydraddoldeb yn parhau.

Aelod Seneddol

Rhyw Nifer Canran
Dynion 8 72.7%
Menywod 3 27.3%
Prefer not to say 0 0%

 

Rhywioldeb Nifer Canran
Heterorywiol 10 91%
Cyfunrywiol/Hoyw 1 9%
Deurywiol 0 0%
Gwell ganddynt beidio â dweud 0 0%

 

Oedran Nifer Canran Benyw Gwryw
18-24 0
25-34 2 18.2% 0 2
35-44 0
45-54 3 27.3% 1 2
55-64 3 27.3% 1 2
65-74 1 9.1% 16 1
75+ 1 9.1% 1 1
Gwell ganddynt beidio â dweud 1 9.1%

 

Ethnigrwydd Nifer
Gwyn – Prydeinig, Seisnig, Gogledd Iwerddon, Albanaidd neu Gymreig 11
Gwyn Gwyddelig
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Indiaidd
Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd
Gwell ganddynt beidio â dweud

(Ymatebodd 11 Aelod Seneddol i’n harolwg)

Ochr yn ochr â gwell data ar amrywiaeth, mae angen i ni gymryd mesurau positif i hyrwyddo cydraddoldeb yn y Senedd. Rhaid i’r sefyllfa gyfredol lle mae menywod yn ffurfio ychydig dros chwarter ASau Cymru, lle mai ychydig iawn o ASau sydd o gefndir BAME, lle mae anabledd yn dal i fod yn rhwystr sylfaenol i anghenion yr etholiad, ddod i ben. Yn wir, wnaeth yr un o’r 11 AS o blith cyfanswm o 40 o ASau Cymru nodi eu bod yn unrhyw beth heblaw am wyn.

Oni bai bod cwotâu yn cael eu cyflwyno ar sail ddeddfwriaethol ni fydd pethau’n newid. Heb gwotâu ffurfiol, bydd sefyllfa bresennol y pleidiau sy’n teimlo bod rhaid iddynt drosglwyddo mantell sedd ddiogel i’r un nesaf yn y llinell, sydd eisoes yn ei le, yn parhau.

Fel man cychwyn, byddem yn annog rhoi deddfwriaeth ar waith i sicrhau bod pob plaid yn cynnig ymgeiswyr sydd ag o leiaf 45% ohonynt yn ferched. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn dylid gwneud gwaith i hyrwyddo cyfleoedd i ddarpar ymgeiswyr BAME, ystod ehangach o grwpiau oedran, pobl yr effeithir arnynt gan anableddau a’r gymuned LGBTQ.

Er bod cwotâu yn sicr yn rhan o greu San Steffan mwy amrywiol, ar lefel sylfaenol mae rhwystr arall i gydraddoldeb.

Mae’r system etholiadol yn creu sefyllfa gynhenid ​​lle mae ymdrechion modern i wneud iawn am anghydraddoldeb yn cael eu dal yn ôl gan waddol anghydraddoldeb blaenorol. O ystyried y ffaith bod cymaint o seddi San Steffan yn ddiogel o dan system y Cyntaf i’r Felin, mae cyfansoddiad ASau sydd â seddi o etholiadau blaenorol yn anhygoel o anghyfarta.

Mae newid i system etholiadol gyfrannol yn cynnig llawer o fanteision. Yn gyntaf, yn hytrach na bod un AS yn cael ei ethol ar gyfer ardal, mae mwy nag un AS yn cael eu hethol gan gynnig ystod ehangach o gynrychiolwyr. Yn ogystal, mae cyfres o astudiaethau academaidd ers yr 1980au wedi dangos bod mwy o ferched wedi’u hethol i seneddau trwy systemau cyfrannol. Yn wir, mae 9 o’r 10 senedd yn y byd sydd fwyaf cydradd o ran y rhywiau yn defnyddio systemau PR.

Fel yr ysgrifennodd ERS Cymru yn ein tystiolaeth i Banel Arbenigol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddiwygio Etholiadol ym mis Mawrth 2017:

“Yr hyn sydd bwysicaf am systemau PR yw eu bod yn rhoi mwy o ddewisiadau i bleidiau o ran sut y gallant sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae dal angen i blaid gynnig ymgeiswyr sy’n fenywod. Ond mewn sedd un aelod, daw’r warant trwy ddulliau fel Rhestrau Byrion Menywod yn Unig neu Efeillio – arfau sydd braidd yn ddi-awch. Nid yw cwotâu mor ddi-awch mewn systemau aml-aelod, sy’n rhoi lle i bleidiau hyrwyddo tocyn cytbwys”.

Yn y bôn, mae’n golygu, o dan systemau cynrychiolaeth gyfrannol lle mae sawl cynrychiolydd ar gyfer un sedd, mae mwy o opsiynau i gynnig ymgeiswyr amrywiol.

Mae cynrychiolaeth Cymru yn San Steffan yn cael ei ddal yn ôl o ran amrywiaeth ac mae hyn yn bennaf oherwydd tri ffactor; y system etholiadol, methiant i gyflwyno mesurau i sicrhau cydraddoldeb a methiant i fod o ddifri ynglŷn â’r mater hwn.

Dylai Llywodraeth y DU gydnabod y difrod aruthrol sy’n cael ei wneud i’r Senedd trwy gael grŵp o ASau sy’n bennaf yn wrywaidd ac yn wyn nad ydynt yn adlewyrchu poblogaeth y DU na’i gwledydd. Mae nifer o bobl y buom yn siarad â hwy yn ystod y prosiect hwn ac yn ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi sôn am y pellter rhwng y cyhoedd a sefydliadau gwleidyddol. Mae’r pellter hwnnw’n cynnal diwylliant ‘nhw a ni’, lle mae pobl yn teimlo’n bell iawn oddi wrth y gwleidyddion sy’n eu cynrychioli. Fel y byddwn yn ei drafod ym mhennod 2, mae goblygiadau difrifol i hynny.

Dylai’r Senedd geisio moderneiddio a chreu system lle gallai pobl o bob rhyw, tarddiad ethnig, abledd, oedran a chyfeiriadedd rhywiol deimlo bod lle iddynt.

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth y DU weithredu Adran 106 y Ddeddf Cydraddoldeb mewn pryd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf gan ei gwneud yn ofynnol i bob plaid gyhoeddi data cydraddoldeb mewn fformat safonol cyson. Ar lefel Cymru ni ddylai pleidiau aros am Etholiad Cyffredinol nesaf y DU a dylent gasglu’r wybodaeth hon ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad a’r etholiadau lleol nesaf.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth y DU ddeddfu i sicrhau bod rhaid i bob plaid gynnig ymgeiswyr y mae o leiaf 45% ohonynt yn fenywod. Dylid ymgymryd â gwaith hefyd i ystyried sut i roi mesurau ar waith i hyrwyddo grwpiau amrywiol eraill.

Argymhelliad 7

Dylai pob plaid wleidyddol gyflwyno Cynllun gweithredu ar amrywiaeth ar gyfer dewis ymgeiswyr ar gyfer seddi targed gwag ar lefel San Steffan.

Argymhelliad 8

Dylid mabwysiadu system etholiadol gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cyffredinol y DU, gan ganiatáu i gwotâu rhyw gael eu hymgorffori i wella’r problem ‘seddi diogel.

Cynnulliad Cenedlaethol Cymru

Dros yr 20 mlynedd, bron, ers ei sefydlu, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn eithaf uchel ei barch o ran cydraddoldeb, o leiaf o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Bu yn y penawdau yn 2003 pan dorrodd recordiau a chael nifer cyfartal o ddynion a menywod. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi llithro yn ôl i’r 43% presennol. Er nad yw hyn yn ddrwg o ran cymariaethau byd-eang, mae’n amlwg nad yw cystal â’r adeg honno pan dorrwyd y record. Yn fwy na hynny, mae’r symudiad hwn am yn ôl yn amlygu dylanwad canlyniadau etholiad ar gydraddoldeb.

Nifer y menywod ym mhob tymor y Cynulliad Cenedlaethol

Tymor y Cynulliad Cyfanswm Menywod Menywod %
2018- 26 43.3
2018-2017 25 41.7
2011-16 25 41.7
2007-11 28 46.7
2005-07 31 51.7
2003-05 30 50
1999-2003 24 40

 

Nifer y menywod ym mhob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol

Plaid Gwrwy Benyw Cyfanswm Cyfran
Llafur 13 15 28 53.6
Ceidwadwyr* 9 3 12 25
Plaid Cymru 6 4 10 40
UKIP 3 2 5 40
Dem Rhydd 0 1 1 100
Annibynnol** 2 1 3 33.3

* Rydym wedi cynnwys Mark Reckless yng nghyfrif y Ceidwadwyr gan ei fod yn eistedd yn y grŵp yn y Cynulliad

** Rydym wedi cynnwys Mandy Jones, Neil McEvoy a Dafydd Elis Thomas fel aelodau Annibynnol

Mae’r ail siart uchod yn dangos yr amrywiad o ran rhyw ym mhob plaid. Tra bod Llafur, sy’n defnyddio Rhestrau Byrion Menywod yn Unig a Gefeillio, wedi dychwelyd mwy o ACau benywaidd na rhai gwrywaidd yn yr etholiad diwethaf, mae pleidiau eraill wedi amrywio.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi defnyddio mesurau, gan gynnwys sipio ble mae menywod yn cael eu rhoi yn awtomatig yn gyntaf ac yn drydydd ar y rhestr ranbarthol, ond wrth wneud sylw am hyn mewn cyfweliad ar gyfer yr adroddiad hwn, dywedodd un o’u haelodau, Bethan Sayed AC:

“Wrth gwrs, mae ein plaid wedi cymryd camau i wella cydraddoldeb y rhywiau dros y blynyddoedd trwy weithredu’n gadarnhaol ar y system rhestr ranbarthol a dyma sut ces i fy ethol yn gyntaf. Ond mae hynny wedi gostwng dros y blynyddoedd”

Fodd bynnag, nid yw’r Ceidwadwyr wedi defnyddio unrhyw ddulliau i sicrhau amrywiaeth ac o ganlyniad, nhw sydd â’r gyfran isaf o ACau sy’n fenywod.

Yn adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad y llynedd, rhoddwyd ystyriaeth fanwl iawn i gydraddoldeb o ran rhyw ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gwnaed argymhellion rhagorol y byddem ni’n eu llwyr gefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dylai’r Cynulliad ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol ddechrau adran 106 Deddf Cydraddoldeb 2010 mewn perthynas ag etholiadau’r Cynulliad, neu drosglwyddo’r pŵer i wneud hynny i Weinidogion Cymru. Fel arall, dylai deddfwriaeth i ddiwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad gynnwys darpariaeth a fyddai’n sicrhau bod gwybodaeth ar gael ynghylch amrywiaeth.
  • Er mwyn diogelu’r hyn y mae’r Cynulliad a’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi’i gyflawni o ran cynrychiolaeth gytbwys ar sail rhyw, rydym yn argymell bod cwota rhyw yn cael ei integreiddio o fewn y system etholiadol a gaiff ei sefydlu ar gyfer 2021. Os na fydd hyn yn digwydd – boed hynny oherwydd diffyg consensws gwleidyddol neu gyfyngiadau ar rymoedd deddfu’r Cynulliad – rydym yn cynnig y dylid disgwyl i bleidiau gwleidyddol gymryd camau i sicrhau bod eu prosesau dethol ymgeiswyr yn cefnogi ac yn annog ethol senedd gytbwys o ran y rhywiau i Gymru . Dylai hyn gynnwys mabwysiadu’r cwotâu a amlinellwyd gennym yn wirfoddol gan y pleidiau.
  • Dylid newid y gyfraith etholiadol, gweithdrefnau’r Cynulliad a Phenderfyniadau’r Bwrdd Taliadau ynglŷn â Thâl a Lwfansau i Aelodau er mwyn galluogi ymgeiswyr i sefyll etholiad ar sail trefniadau tryloyw ar gyfer rhannu swyddi. Yr egwyddorion canolog mewn trefniadau o’r fath fyddai fod yr ymgeiswyr yn egluro natur eu cytundeb rhannu swydd i bleidleiswyr, bod partneriaid rhannu swydd yn cael eu trin fel pe baent yn un person, ac na ddylai Aelodau sy’n rhannu swydd esgor ar unrhyw gostau ychwanegol y tu hwnt i gost Aelod Cynulliad unigol.

Mae’r argymhellion hefyd wedi denu llawer o gefnogaeth yn y Cynulliad, gyda Sian Gwenllian AC yn datgan mewn cyfweliad gyda ni:

“Hyd yn hyn, mater i’r pleidiau gwleidyddol unigol fu penderfynu a oedden nhw’n mabwysiadu’r mecanweithiau penodol hynny ai peidio. Mae wedi gweithio i ryw raddau a bod yn deg ond rwy’n credu bod angen iddo ddigwydd trwy ddeddfwriaeth. Mae’r union fecanwaith i’w drafod eto, yn dibynnu ar ba system fydd ganddon ni wrth symud ymlaen. Os oes gennym STV er enghraifft, byddai system cwota yn gweithio’n dda ond os na fyddwn yn cyrraedd y sefyllfa honno mae angen Cynllun B arnon ni. Mae angen i ni feddwl sut ydyn ni’n mynd i gael cynrychiolaeth fwy cyfartal a dylem fod yn edrych ar feysydd penodol fel cwotâu a rhannu swyddi.”

Gyda chynllun yn ei le i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y cynulliad, yn ddibynnol ar gefnogaeth y pleidiau wrth gwrs, mae lle i ystyried meysydd amrywiaeth eraill lle nad yw’r Senedd wedi perfformio cystal.

Ymatebodd 26 o Aelodau Cynulliad i’n harolwg, 43.33% o’r holl ACau:

Aelodau Cynulliad

Gender Nifer Canran
Men 16 61.5%
Women 10 38.5%
Prefer not to say 0 0%

 

Rhywioldeb Nifer Canran
Heterorywiol 25 96.2%
Gwell ganddynt beidio dweud 0 0
Cyfunrywiol/Hoyw 0 0%
Deurywiol 1 3.9%

 

Oed Nifer Canran Benyw Gwryw
18-24 0 0 0
25-34 1 3.9% 0 1
35-44 5 19.2% 3 2
45-54 7 26.9% 2 5
55-64 9 34.6% 4 5
65-74 4 15.4% 1 3
75+ 0

 

Ethnigrwydd Nifer
Gwyn – Prydeinig, Seisnig, Gogledd Iwerddon, Albanaidd neu Gymreig 23
Gwyn – Gwyddelig
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Indiaidd
Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd
Gwell ganddynt beidio â dweud 1
Arall 1
Dim Ateb 1

(Ymatebodd 26 o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’n harolwg)

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu’r diffyg amrywiaeth sydd yn y Cynulliad o ran nodweddion gwarchodedig eraill ac yn atgyfnerthu’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod. Yn wir, nid yw’r Cynulliad erioed wedi cael AC lleiafrifol ethnig benywaidd – ffaith wirioneddol syfrdanol. Ar ben hynny, mae’r ffaith mai hwn yw’r Cynulliad cyntaf lle gwelwyd aelodau sy’n agored yn LGBTQ. Mae cynnydd yn digwydd ar y mater hwn, ond mae’n araf ac mae’n dal yn anodd. Fel y dywedodd yr AC Bethan Sayed:

“Ar lefel ehangach, rwy’n credu bod ffordd bell gyda ni i fynd o hyd. Fe wnes i raglen y BBC ‘The Hour’ o Abertawe yn ddiweddar ac roeddwn i’n eistedd y tu ôl i fenywod ifanc o gefndir lleiafrifol ethnig ac roedden nhw’n dweud ei bod yn wych cael cymaint o ferched yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ond nad yw amrywiaeth y menywod hynny yn rhywbeth y gallan nhw uniaethu ag ef.”

Er bod y Cynulliad ymhell o flaen llywodraeth leol a San Steffan o ran amrywiaeth, fel sefydliad, mae ganddo ffordd bell i fynd eto i fod yn gwbl gynrychioliadol o boblogaeth Cymru. Rhaid i’r holl bleidiau wneud ymdrechion i gynyddu nifer yr ymgeiswyr o gefndir BAME ac i annog rhai sydd ag anableddau i sefyll.

Er nad oes cynsail i’r cwotâu ar faterion ac eithrio rhywedd, mae’n bosib y bydd angen eu hystyried yn y meysydd hyn hefyd ar ryw adeg.

Yn y pen draw, bydd Senedd fwy amrywiol yn un sy’n cynrychioli pobl Cymru yn well a dylai hyn fod yn flaenoriaeth wrth ystyried ein hargymhellion.

Argymhelliad 9

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu holl argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio’r Cynulliad mewn perthynas â chydraddoldeb rhywiol erbyn etholiad nesaf y Cynulliad.

Argymhelliad 10

Dylai pob plaid geisio cael ymgeiswyr o gefndiroedd mwy amrywiol yn etholiadau nesaf y Cynulliad, yn enwedig ymgeiswyr BAME benywaidd a rhai ag anableddau.

Rhwystrau Cymdeithasol

Rhwystrau Cymdeithasol

Er bod llawer o’r rhwystrau sy’n wynebu cydraddoldeb ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru yn sefydliadol, mae’r hyn y gall seneddau a phleidiau ei wneud wedi’i gyfyngu hefyd gan rwystrau cymdeithasol sy’n atal pobl rhag ymwneud â gwleidyddiaeth o gwbl. Mae’r rhain yn ymwneud â realiti bywydau pobl, y pethau dydd i ddydd sy’n gwneud i bobl feddwl nad yw gwleidyddiaeth yn rhywbeth iddyn nhw.

Roedd yn destun syndod mai dyma’r rhwystrau a amlygwyd fwyaf yn ystod y broses o lunio’r adroddiad hwn.

Cam-drin ac aflonyddu

Y broblem fwyaf y clywsom amdani gan wleidyddion etholedig a’r rhai a ddywedodd wrthym eu bod wedi cael eu troi i ffwrdd rhag sefyll oedd camdriniaeth ac aflonyddu. Roedd rhai o’r storïau a glywsom yn gwbl syfrdanol ac yn arwydd o fater difrifol wrth graidd gwleidyddiaeth fodern.

Dywedodd 121 o wleidyddion yn ein harolwg eu bod wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth, gwahaniaethu neu aflonyddu yn eu rolau.

Rhywedd Nifer sydd wedi wynebu camdriniaeth Canran cyfansym yr ymatebwyr (%)
Gwleidyddion sy’n ddynion 72 40
Gwleidyddion sy’n fenywood 47 54
Gwell ganddynt beidio â dweud 2 100
Cyfanswm 121 45.5

Dywedodd gwleidyddion wrthym am achosion oedd yn cynnwys dioddef ymosodiadau mewn deunydd ysgrifenedig gwleidyddol, derbyn llythyrau a galwadau ffôn difrïol yn ogystal â dioddef ymosodiadau llafar oherwydd eu sefyllfa. Cyfeiriwyd at brofiadau gan gynnwys:

“Cam-drin wyneb yn wyneb tra’n canfasio.’ a ‘Cam-drin gan y cyhoedd yn gyffredinol wrth ymweld â thafarndai/bwytai lleol ac wrth guro drysau.”

“Gwnaeth etholwr… gwrdd â mi pan oeddwn yn mynd â fy nghi am dro ac fe ymosododd arnaf ar lafar.”

Math o gamdriniaeth Nifer y gwleidyddion
Camdriniaeth ar-lein 40
Camdriniaeth gan etholwyr 22
Camdriniaeth gan wleidyddion eraill 19
Gwahaniaethu o fewn y blaid 2
Gwahaniaethu ar sail rhywedd 15
Gwahaniaethu ar sail rhywioldeb 8
Ar sail anabledd 1
Heb ei manylu 27
Arall 22
Oedran 6

(Nododd rhai cynrychiolwyr etholedig nifer o fathau o gam-drin ac felly maent yn ymddangos yn y tabl uchod sawl gwaith)

Ni ellir byth cyfiawnhau unrhyw lefel o gamdriniaeth ond roedd rhai o brofiadau’r aelodau etholedig a gymerodd ran yn ein harolwg yn peri pryder ac yn droseddol:

“Derbyniais garthion drwy’r post mewn cerdyn San Ffolant (hynod ddi-chwaeth).”

“[Derbyniais] gynigion rhywiol amhriodol gan etholwyr yn ystod cymorthfeydd ac yn ystod sesiynau canfasio drws i ddrws.”

Ond nid etholwyr anhysbys yw’r unig rai sy’n gyfrifol am yr enghreifftiau hyn o brofiadau ofnadwy. Dywedodd un ymatebydd wrthym:

“Mae un Aelod wedi rhoi slap ar fy mhen ôl ac un arall wedi ceisio fy nhynnu fi o dan goeden a fy nghusanu”

Yn ogystal â’r arolygon, cam-drin ac aflonyddu oedd prif thema’r ymatebion a gawsom gan bobl a ddywedodd eu bod wedi cael eu hatal rhag sefyll. Dywedodd un ymatebwr:

“Pan oeddwn i’n gweithio i wleidyddion, roedd gen i fynediad i’w cyfryngau cymdeithasol, roeddwn yn ateb y ffôn ar eu rhan ac yn agor eu gohebiaeth…Agorais amlen gyda llafnau rasel yn sownd ar y tu mewn. Taflwyd craig (ac yna côn traffig) at ffenestr blaen siop ein swyddfa, gan chwalu’r gwydr dros fy nghydweithiwr. Cefais fy stelcian gartref gan etholwr… Ar y cyfryngau cymdeithasol roedd y sylwadau sarhaus arferol am bwysau fy mos. Roedd fy mos arall a oedd â theulu wedi cael bygythiadau wedi eu cyfeirio at ei wraig a’i blant yn ogystal ag ato ef ei hun. Rwy’n gwybod, pe bawn i byth yn sefyll, yna byddai’n rhaid i mi dderbyn camdriniaeth ar y lefel yma – a chan fy mod i’n fenyw, alla i ond dychmygu’r cam i fyny! Wedi dweud hynny, nid wyf yn gyfforddus â rhoi’r rhai sy’n annwyl i mi – fy mhartner a’r teulu – mewn sefyllfa i dderbyn y fath gamdriniaeth. A bod yn gwbl onest, dydyn nhw ddim yn haeddu hynny.”

Nodwyd bod hyn yn rhwystr yn ein cyfweliadau â gwleidyddion hefyd. Meddai Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd:

“Rwyf wedi bod yn gynghorydd ers pedair blynedd ar ddeg, rwyf wedi ennill pedwar etholiad ac nid wyf erioed wedi cael cymaint o drafferth neu anghydfod ag yr wyf wedi’i gael yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.” Ychwanegodd, “Rwy’n nabod cryn dipyn o wleidyddion o fy mhlaid fy hun ac er nad wyf yn nabod Diane Abbott, gallaf ddweud wrthoch chi am yr effeithiau arni hi; roedd y driniaeth a gafodd y llynedd yn yr etholiad cyffredinol yn ofnadwy, y ffordd y cafodd ei thargedu fel Menyw BME. Roedd yn gwbl warthus a dyna’r math o beth sy’n troi pobl i ffwrdd.”

Cytunodd Bethan Sayed AC:

“Ers i mi briodi â rhywun o India, rwyf wedi profi mwy o ymosodiadau hiliol eu naws nag ydw i erioed wedi profi o’r blaen, wrth reswm. Felly, mae’n rhaid ichi ddelio â hynny hefyd, ac oherwydd, wyddoch chi, a ydych chi’n adrodd y mathau hynny o bethau? Ydych chi’n ei dderbyn gan dweud nad wyf am fod yn ddioddefwr neu a ydych chi’n rhan o’r broblem oherwydd nad ydych chi’n eu hadrodd? Rwy’n credu ei bod yn sefyllfa anodd iawn i fod ynddi fel cynrychiolydd etholedig. Dydw i ddim am fod yn dweud pethau fel  ‘och a gwae’, ‘edrychwch ar y gamdriniaeth rydw i’n ei dioddef’. Dydw i ddim yn teimlo bod hynny’n mynd i lawr yn dda gyda’r cyhoedd chwaith, ond ar y llaw arall, bodau dynol ydyn ni ac os oes rhywun yn ymosod [arnoch chi] ac mae’n ymylu ar fod yn gamdriniaeth, rydych chi’n teimlo bod rhaid i chi wneud rhywbeth am hynny.”

Yn y pen draw, gellir crynhoi’r drafodaeth ynglŷn â cham-drin ac aflonyddu ar wleidyddion i ddau fater. Beth sy’n ei achosi, a beth allwn ni ei wneud yn ei gylch.

Yr ymateb mwyaf i’n harolwg o blith y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael eu cam-drin (40 o ymatebwyr – 18.78%) oedd gan rai a nododd eu bod wedi cael eu cam-drin ar-lein. Roedd llawer o’r bobl y siaradon ni â hwy yn credu bod hyn yn rhannol oherwydd twf y cyfryngau cymdeithasol, sydd nid yn unig wedi gwneud gwleidyddion yn haws eu cyrraedd ond mae hefyd wedi creu byd lle mae rhyfelwr y bysellfwrdd yn ffynnu, byd lle gallwch chi ddweud beth bynnag  rydych chi am ei ddweud a chuddio tu ôl i ddelwedd anhysbys o wy.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dal yn rhan gymharol newydd o’n bywydau ac felly rydym ni fel defnyddwyr yn dal i ddysgu sut i ganfod ein ffordd. O’r ymchwil hwn ac o straeon eraill yr ydym wedi’u clywed ar y cyfryngau dros y 12 mis diwethaf, mae’n amlwg bod angen rhoi newidiadau mawr ar waith

Dywedodd Bethan Sayed AC:

“O ran rhwydweithiau’r cyfryngau cymdeithasol, dim ond pethau sy’n eu siwtio nhw y byddan nhw’n ei wneud … mae’n rhaid i ni ddod o hyd i fecanweithiau sy’n gweithio er mwyn gallu adrodd i’r ffynonellau cyfryngau cymdeithasol hynny yn hytrach na mynd yn syth at yr heddlu. Mae’n rhaid bod yna ffordd ganol… mae llawer o bobl sydd ddim am fynd yn syth at yr heddlu i gofnodi’u cwyn.”

Dywedodd Sian Gwenllian AC:

“Mae’r gamdriniaeth y mae menywod yn benodol yn gorfod ei wynebu yn gwbl annerbyniol a chredaf fod hynny’n newid diwylliannol y mae angen iddo ddigwydd. Mae’n rhyw fath o arwydd o sut y mae menywod yn dal i gael eu hystyried fel pobl y gellir eu difrïo a’u cam-drin”

Mae’n rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol wneud y gwaith o adrodd am a dileu cynnwys camdriniol a mileinig yn haws, yn gyflymach ac yn fwy rhagweithiol.

Rhyddhaodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (PSBC) adroddiad yn 2017, a edrychodd yn fanwl ar y mater hwn. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddatblygu dull llawer mwy awtomataidd o fynd i’r afael â’r math hwn o gynnwys a dywedodd hefyd y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol gynnig offer i ddefnyddwyr allu uwchgyfeirio adroddiadau am weithgarwch ar-lein anghyfreithlon i’r heddlu.

Fel yr awgrymodd y PSBC hefyd, mae cynnig gwell hyfforddiant a chyfarwyddyd i ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig ar gyfer ymdrin â/adrodd am gamdriniaeth yn ffordd arall o ymdrin ag effaith cam-drin ar-lein. Gallai’r pleidiau hefyd ddatblygu cod ymddygiad ar y cyd ar ymddygiad bygythiol i’w ddefnyddio yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.

Yn adroddiad Lleisiau Coll y llynedd, cawsom deimlad pendant o ‘nhw a ni’ ymhlith llawer o bobl y siaradon ni â nhw, gyda llawer yn awgrymu nad yw gwleidyddion yn cynrychioli pobl go iawn. Canfu y prosiect, a siaradodd â thros 800 o bobl ledled Cymru, fod 241 o’r 807 o ymatebion i’n harolwg cyhoeddus yn negyddol ynghylch gwleidyddiaeth, gyda phobl yn nodi’r canlynol fel rhesymau pam:

“Rwy’n credu mai mwg a drychau yw e [gwleidyddiaeth]. Mae’r pŵer i gyd gan ychydig ddethol rai ac esgus bod gennym ni lais y maen nhw”

“Rhwystredigaeth, ymladd, llithro’n ôl, rhywfaint o bositifrwydd, llawer o safonau dwbl”

“Dwyn pŵer, sgorio pwyntiau, hunan-fudd, tablau cynghrair, ystadegau, anwybodaeth, digalondid”

“Spin. Stŵr. Theatr. Siom. Celwydd. Rhaniadau. Tasg amhosibl”

Mae siom y cyhoedd gyda chyflwr gwleidyddiaeth, yn sicr, yn arwydd o pam mae cymaint o bobl yn gwneud y camgymeriad o daro’n ôl yn eu rhwystredigaeth ar eu cynrychiolwyr lleol. Mae’r bwlch hwn rhwng pobl a gwleidyddion yn dangos bod trafodaeth gyhoeddus wedi torri i lawr yn gyfan gwbl a bod angen cryfhau’r berthynas rhwng y ddwy garfan.

Yr wrth-ddadl i hyn yw bod rhai mewn bywyd cyhoeddus a ffigyrau amlwg yn y cyfryngau yn gosod cynsail wael ar iaith negyddol a phegynol. Ystyriwch, er enghraifft, dudalen flaen papur newydd ym mis Mehefin a rybuddiodd ASau mai ‘peth peryglus iddyn nhw fyddai anwybyddu ewyllys y bobl’ neu un arall oedd wedi galw rhai ASau yn ‘saboteurs’. Mae hyn yn creu diwylliant lle mae aflonyddwch a cham-drin yn cael ei oddef ac yn cael ei ddefnyddio i hybu gwerthiant ariannol. O ystyried hynny, nid yw’n syndod bod llawer o bobl yn teimlo ei bod yn dderbyniol trin gwleidyddion fel hyn.

Yn y pen draw, mae gwleidyddion yn bobl sydd ar y cyfan yn awyddus i wneud gwaith da ar ran eu hetholwyr a’u hardal leol, ond eto ymddengys eu bod yn dwyn pwysau ymosodiadau sy’n dod yn sgil system wleidyddol y mae llawer o bobl yn teimlo nad yw’n cyflawni ei gwaith.

Mae’r ymatebion a gasglwyd gennym drwy’r arolwg yn dangos bod camdriniaeth yn effeithio’n anghyfartal ar wleidyddion sy’n fenywod. Mae’n amlwg bod hyn yn darbwyllo menywod a grwpiau amrywiol eraill rhag sefyll.

Argymhelliad 11

Dylid gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (PSBC) y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddatblygu technegau awtomataidd ar gyfer canfod ymddygiad bygythiol a’i dynnu i lawr. Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol hefyd gynnig offer i alluogi defnyddwyr i uwchgyfeirio adroddiadau am weithgaredd anghyfreithlon ar-lein i’r heddlu.

Argymhelliad 12

Dylai pleidiau gwleidyddol Cymru ddatblygu cod ymddygiad ar y cyd ar ymddygiad bygythiol. Dylid cynnig gwell hyfforddiant ac arweiniad i ymgeiswyr ar gamdriniaeth trwy’r cyfryngau cymdeithasol hefyd, fel yr argymhellwyd hefyd gan y PSBC y llynedd.

Argymhelliad 13

Dylid darparu gwell addysg wleidyddol yn ysgolion Cymru i ddechrau ceisio mynd i’r afael â’r diwylliant negyddol sydd ar hyn o bryd yn arwain at lawer o’r cam-drin yr ydym yn ei weld.

Bywyd Teuluol

Mae realiti bod yn wleidydd yn aml yn anodd i lawer o bobl, yn enwedig y rhai sydd â theuluoedd. Mae hyn yn fater nad yw’n berthnasol i ferched yn unig, er ei fod yn effeithio’n anghymesur ar fenywod ac felly mae’n rhwystr i amrywiaeth. Byddai gwella mynediad i wleidyddiaeth ar gyfer rhai sydd ag ymrwymiadau teuluol o fudd i fwyafrif o wleidyddion.

Roedd effaith gwleidyddiaeth ar fywyd teuluol yn thema allweddol yn y cyfweliadau a gynhaliwyd gennym gyda gwleidyddion etholedig. Pwysleisiodd bron pob un o’r gwleidyddion y buom ni’n siarad â nhw, sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd, natur amser llawn rôl gwleidydd. Ymhell o fod yn swydd 9 i 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn dibynnu ar ba sefydliad rydych chi’n cael ei ethol iddo, i lawer ohonynt, mae bod yn wleidydd yn golygu gweithio o leiaf chwe diwrnod yr wythnos o foreau cynnar hyd at nosweithiau hwyr.

Er bod hyn yn rhan o’r swydd y mae llawer o bobl sy’n cael eu hethol yn ymwybodol ohoni cyn sefyll, mae’n dal i greu llawer o straen i’r rhai sydd â theuluoedd neu ymrwymiadau personol. Yn wir, fel y dywedodd cyn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies AC pan siaradon ni ag ef, nid pan fydd pobl yn cael eu hethol y mae hyn yn dechrau, ond ymhell cyn hynny:

“Mae yna’r effaith honno ar eich swydd arferol, sef yr un sy’n talu’r morgais ac yn y pen draw, yn rhoi’r crysau ar gefn y plant. Cyn i chi gael eich ethol, rydych chi’n ymgeisydd am gryn amser ac yng ngwleidyddiaeth heddiw, yn enwedig ar lefel Cynulliad a lefel San Steffan, mae’r cyhoedd ar y cyfan yn disgwyl ichi fod bron yn ymgeisydd llawn amser.  Mae hynny’n sgwrs fawr i’w chael yn y teulu, ynglŷn â gallu cymryd y ddwy, tair, pedair blynedd hynny allan o’ch bywyd a bod yn ymgeisydd ac felly rwy’n credu bod angen ymarfer gwybodaeth enfawr, bod angen ymarfer cymorth i geisio sicrhau bod mwy o bobl yn dod ymlaen nad ydyn nhw, o anghenraid, yn gweld eu hunain yn ddarpar wleidyddion.”

Er bod y rhan fwyaf o drafodaethau ar lwyth gwaith yn canolbwyntio ar y Cynulliad a San Steffan, ni ddylem anghofio profiadau cynghorwyr, sy’n aml yn cydbwyso swydd lawn amser gyda’u rôl fel yr amlygwyd gennym ym Mhennod 1.

Dywedodd Sian Gwenllian AC:

“Mae’n ddiddiwedd. Roeddwn i’n canfod bod yn gynghorydd yn debyg hefyd oherwydd bod pobl yn disgwyl i chi fod ar ben y ffôn neu’r dyddiau hyn ar negesydd Facebook neu beth bynnag ac maen nhw’n disgwyl atebion.”

O ran y Cynulliad a San Steffan, fodd bynnag, mae yna ganfyddiad pendant ymhlith aelodau’r cyhoedd bod eu gwaith yn dechrau ac yn gorffen gyda’r amser yn trafod neu ddim ond yn arsylwi yn y siambr. Y realiti yw bod gwaith pwyllgorau yn cynnwys darllen cannoedd o dudalennau o ddarllen yr wythnos ynghyd â llu o gyfarfodydd. Yn y Cynulliad nid yw’n anghyffredin i Aelod fod ar dri phwyllgor. Yna mae’n rhaid iddynt gydbwyso hyn gydag amser mewn cyfarfodydd grŵp eu pleidiau, mewn digwyddiadau, yn y siambr, yn teithio i’r etholaeth, yn cynnal meddygfeydd ac yn rhedeg swyddfa. Amlygwyd hyn gan adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio’r Cynulliad, a neilltuodd bennod i drafod rôl a llwyth gwaith Aelodau’r Cynulliad (Pennod).

Cododd Sian Gwenllian AC y mater hwn pan wnaethon ni siarad â hi hefyd:

“Bod yn y siambr yma, dyna un agwedd o’r peth, mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith ar gyfer hynny, paratoi ar gyfer hynny. Mae yna bwyllgorau, rwy’n eistedd ar ddau bwyllgor a’r baich gwaith ar y rheiny, os ydych chi am wneud eich gwaith yn iawn, mae’n rhaid i chi dreulio amser yn ymchwilio ac weithiau nid yw hynny’n bosibl. Weithiau mae’n rhaid i chi dderbyn na fyddaf yn gallu gwneud hyn mor drylwyr ag yr hoffwn. Rwy’n credu bod hynny’n rhwystro craffu sy’n digwydd yma.”

Cyfeiriodd Gerald Jones AS at y mater hefyd:

“Weithiau mae gan bobl ganfyddiad mai bod yn y Siambr yw unig rôl ASau. Mae yna beth wmbreth yn fwy iddi na hynny. Ar y naill law, mae’r pwyllgorau dethol, grwpiau hollbleidiol a dyletswyddau yn y Senedd ond hefyd mae’r cydbwysedd gyda gwaith etholaethol oherwydd bod yn rhaid i chi gydbwyso’r ddau.”

O ystyried cymaint o waith sydd i’w wneud fel gwleidydd, mae bywyd teuluol a bywydau personol yn cael eu heffeithio ac mae angen codi cwestiynau ynghylch sut y gall sefydliadau gwleidyddol addasu i greu amgylchedd gwaith sy’n fwy cyfeillgar i’r teulu.

Roedd hyn yn fater a godwyd yn helaeth gan Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Casnewydd. Eglurodd sut mae hi wedi ceisio gwneud ei chyngor yn fwy hyblyg a pharod i newid:

“Pan ddechreuais ar y cyngor ac roeddwn i’n gweithio’n llawn amser fel athrawes, roedd yn wirioneddol amhosibl ceisio dod i rai o’r cyfarfodydd hyn oedd yn cael eu cynnal am 10 o’r gloch y bore. Rwyf wedi helpu i newid hynny dros y blynyddoedd. Er enghraifft, mae’r prif gyngor yn dechrau nawr am 5 o’r gloch… fy nghyfarfod cabinet fy hun, yr arfer oedd y byddai’n rhaid i chi gael cyfarfod cyn-y-cabinet am 9 o’r gloch ar fore Llun a’r cyfarfod cyhoeddus am un ar ddeg. Wel, rydw i wedi newid hynny, felly erbyn hyn ar ddydd Llun mae gennym gyfarfod cyn-y-cabinet am hanner awr wedi pedwar, felly gallaf fi gael aelodau cabinet sy’n gweithio. Ac yna mae gennym gabinet cyhoeddus ddydd Mercher am 4 o’r gloch. Felly mae’n golygu symud cyfarfodydd. Unwaith eto mae yna fanteision ac anfanteision i hynny. Mae rhai merched yn dweud wrthyf mai dyna pryd mae’r plant yn dod adref o’r ysgol, dyna pryd mae’n rhaid i ni drefnu te a mynd â nhw i’w clybiau ac ati, felly does dim ateb perffaith ond symud cyfarfodydd o gwmpas, a byddwn yn datblygu mwy o ddefnydd o Skype a thechnoleg yn y dyfodol. Mae’n dal yn elfennol ar hyn o bryd ond byddai hynny’n ffordd ymlaen fel y gallwch chi fynychu cyfarfod heb fod yn bresennol yn gorfforol mewn lleoliad penodol.”

Mae hyblygrwydd yn rhywbeth y mae mwy a mwy o gynghorau yng Nghymru yn ei fabwysiadu. Rydym wedi siarad â chynghorwyr ac arweinwyr eraill wrth weithio ar y prosiect hwn sydd wedi pwysleisio ymdrechion i gyflwyno cyfarfodydd Skype, i addasu amseroedd cyfarfod, i ganiatáu i fabanod a phlant ddod i gyfarfod gyda’u rhieni os oes angen. Mae’r newidiadau hyn yn dilyn yn benodol yr arweiniad statudol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei Mesur Llywodraeth Leol 2011. Mae angen i ni gael awdurdodau lleol sy’n gallu addasu i anghenion eu haelodau, ac mae hyn yn hanfodol wrth symud tuag at gynrychiolaeth fwy amrywiol ar lefel llywodraeth leol.

Mae angen holi hefyd i ba raddau y mae’r Cynulliad a San Steffan yn creu amgylchedd sy’n gefnogol i’r rhai sydd ag ymrwymiadau eraill. Er bod y Cynulliad yn llawer mwy cyfeillgar i’r teulu o’i gymharu â senedd San Steffan, mae’r baich gwaith a roddir ar Aelodau’r Cynulliad yn dal i fod yn sylweddol a’r oriau’n faith.

Byddai rhywfaint o’r pwysau, yn enwedig mewn perthynas â chyfrifoldebau pwyllgorau, yn cael ei leihau petai maint y cynulliad yn cynyddu. Er ein bod yn credu bod hyn yn hanfodol, ni fydd yn ateb i holl broblemau’r rhai sy’n ei chael yn anodd cydbwyso ymrwymiadau’r teulu. Mae aelodau wedi nodi bod diffyg meithrinfa yn creu anawsterau iddyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth y dylid ymchwilio iddo ar gyfer aelodau a staff.

Mae rhannu swyddi yn elfen ychwanegol a fyddai’n cyflwyno llawer mwy o hyblygrwydd i fywyd gwleidydd, ble byddai dau berson yn rhannu rôl. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r Panel Arbenigol yn ei awgrymu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac y mae cynghorwyr yn Abertawe yn gweithio arno ar hyn o bryd. Er bod angen i’r etholaeth fod yn ymwybodol o’r trefniant hwn ac i gynlluniau a chytundebau priodol gael eu rhoi ar waith, gallai hyn gynnig sefyllfa llawer mwy hylaw i lawer o bobl sy’n cael eu hatal rhag sefyll mewn etholiadau oherwydd ymrwymiadau teuluol.

Yr elfen arall sy’n gwneud bod yn wleidydd yn anodd pan fydd ganddynt ymrwymiadau teuluol i’w cydbwyso yw’r pellter y mae’n rhaid i rai aelodau o’r Cynulliad a senedd San Steffan ei deithio bob wythnos. Er bod San Steffan fel arfer ymhellach i ffwrdd, i rai ACau o Ogledd Cymru, mae’n haws mewn gwirionedd i gyrraedd Llundain na Bae Caerdydd. Gan ddibynnu ar ble y byddai’ch etholaeth, mae’n debygol y byddai’n rhaid i aelodau fod i ffwrdd o gartref am yr wythnos gyfan bron, gan adael ar nos Sul a dychwelyd ar nos Iau.

Fel y dywedodd Gerald Jones AS wrthym yn ei gyfweliad:

“Rwy’n credu y gall wneud hynny[troi pobl i ffwrdd] ac yn sicr oherwydd yr oriau. A bod yn blwmp ac yn blaen, ac eithrio’r Aelodau Seneddol sy’n byw yn Llundain a’r cyffiniau sydd heb y pellteroedd teithio enfawr, mae’r mwyafrif llethol o bobl yn San Steffan yn teithio’n bell, felly maen nhw yno am y dyddiau hynny, o ddydd Llun i ddydd Mercher neu ddydd Llun i ddydd Iau y rhan fwyaf o wythnosau.”

I ACau ac ASau gyda theuluoedd, er y gallai hyn ddod yn drefn arferol, mae’n anodd. Yn y pen draw, mae hon yn her nad oes llawer o atebion iddi heb newid sylfaenol yn y ffordd y mae ein Cynulliad a’n Senedd yn gweithio, ond dylem gydnabod ei bod yn atal llawer o bobl o gefndiroedd amrywiol a gwahanol a allai fod yn sefyll rhag gwneud hynny.

Argymhelliad 14

Dylid cynnal asesiad o hyfywedd meithrinfa yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i’w defnyddio gan Aelodau Cynulliad a staff.

Argymhelliad 15

Dylai rhannu swyddi fod yn opsiwn i wleidyddion ymhob sefydliad, cyn belled â bod y trefniadau priodol yn cael eu gwneud.

Rhwystrau Ariannol

Efallai nad yw arian yn rhywbeth y byddai llawer o bobl yn meddwl amdano fel rhwystr rhag cael amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth, ond mae hyn yn rhywbeth sydd wedi dod i’r amlwg trwy gydol ein hymchwil ar gyfer y prosiect hwn.

Er ein bod wedi codi’r heriau penodol sy’n wynebu cynghorwyr nad ydynt ar gyflog llawn amser ac sy’n aml yn gorfod cydbwyso gwaith llawn amser arall gyda chyfrifoldebau’r cyngor ym mhennod 1, mae cynrychiolwyr eraill yn wynebu heriau hefyd.

Mae hyn yn cynnwys rhai sy’n cymryd toriad cyflog pan fyddant yn cael eu hethol i’r Cynulliad neu i Senedd San Steffan, fodd bynnag, mae hynny’n rhywbeth y mae pobl yn cynllunio ar ei gyfer ac yn barod amdano i raddau helaeth. Daw’r straen mwyaf cyn yr etholiad pan fydd pobl yn rhoi eu hunain trwy’r broses o ddethol ac wedyn o fod yn ymgeisydd.

Dywedodd Andrew RT Davies AC:

“Un o’r problemau mawr hefyd i ymgeiswyr sy’n dod ymlaen, yn wrywaidd, yn fenywaidd, o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig ac anableddau yw lefel yr ymrwymiad a’r amser a’r egni y mae’n rhaid eu rhoi er mwyn bod yn ymgeisydd a bod hynny’n tarfu ar y swydd sy’n talu eich morgais ac yn rhoi crysau ar gefnau’r plant a sicrhau bod gennych incwm yn dod drwy’r drws. Rwyf wedi gweld nifer o ymgeiswyr sydd wedi mynd i ddyfroedd dyfnion iawn yn ariannol oherwydd yr egni a’r amser y bu’n rhaid iddyn nhw eu rhoi i’r rôl o fod yn ymgeisydd, heb lwyddo i gael eu hethol ac yn edrych yn ôl ar efallai 8 i 12 mlynedd o fod yn ymgeisydd, oherwydd yn aml ar lefel seneddol, naill ai’r Cynulliad neu San Steffan, gall ymgeisydd fod yn ymladd sedd dros ddau neu dri chylch. I mi, y rhwystr mwyaf rhag cael pobl yn dod i mewn a chynnig eu hunain yn y lle cyntaf yw ofni’r anghyfarwydd, rywsut”

A dywedodd Gerald Jones AS:

“Ystyried cost pethau? Mae llawer iawn o godi arian yn digwydd, yn sicr o fewn pleidiau gwleidyddol. Efallai bod etholiadau lleol yn llai costus ond, yn sicr, mae etholiadau Cynulliad a’r rhai cenedlaethol yn tueddu i fod yn eithaf costus ac mae’n golygu bod angen llawer o waith codi arian trwy gydol y tymor etholiadol o fewn etholaethau. Mae angen llawer o gynllunio a llawer o amser hefyd.”

Gan ddibynnu ar ba blaid rydych chi’n sefyll drosti, mae cefnogaeth ar gael i ymgeiswyr, ond mae hyd a lled y gefnogaeth honno’n amrywio. Mae Llafur Cymru wedi cyflwyno trefniadau cyllido ar gyfer ymgeiswyr ac mae hyn yn cynnwys ymyriadau cynharach gan gynnwys anfon pobl ar gyrsiau preswyl er mwyn hybu dealltwriaeth o’r rôl, sy’n targedu pobl o gefndir amrywiol yn benodol. Nid oes gan y pleidiau eraill beirianwaith o’r fath ac mae’n ddibynnol iawn ar yr hyn y mae’r blaid yn ei ystyried yn briodol ac yn gallu ei fforddio.

Yn yr adroddiad Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a Chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gomisiynwyd gan Fwrdd Taliadau’r Cynulliad, ceir argymhelliad ynglŷn â chyflwyno cronfa ‘Mynediad i Wleidyddiaeth’, y maent yn ei disgrifio fel un debyg i’r Gronfa Waith, cronfa sy’n talu am addasiadau rhesymol er mwyn cyflogi person anabl. Fodd bynnag, maent yn galw am ymestyn hyn i ymgeiswyr o gartrefi incwm is a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gallai dibynnu llai ar bleidiau am gefnogaeth i ymgeiswyr sicrhau’r un amodau i bawb a chaniatáu i bleidiau symud ymlaen yn nhermau amrywiaeth, yn enwedig pe byddai cyllid yn cael ei dargedu’n benodol at ddarpar ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd.

Argymhelliad 16

Dylid cynnal adolygiad o sut y gellir darparu cyllid ar gyfer ymgeiswyr o gefndir amrywiol, a dylai’r adolygiad hwnnw ystyried argymhelliad  adroddiad ‘Dadansoddi Amrywiaeth’ ynghylch cyflwyno ‘Cronfa Mynediad i Wleidyddiaeth’

Conclusion

Lleisiau Newydd

“Gawn ni beidio trafod beth ydy’r rhwystrau! Rwy’n meddwl ein bod ni’n gwybod beth ydyn nhw. Rwy’n meddwl bod angen inni ddweud nawr, reit, mae yna rwystrau, mae yna broblem. Beth allwn ni ei wneud yn ei gylch? Nid yw’r hyn yr ydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn wedi gweithio… nid ydyn ni o ddifri wedi newid y sefyllfa yn sylfaenol ac mae angen i ni ganolbwyntio nawr ar atebion ac ar gael gwared ar y rhwystrau.” – Sian Gwenllian AC

Mae cael amrywiaeth yn ein sefydliadau gwleidyddol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwleidyddiaeth yn gweithio i bobl Cymru. Ar hyn o bryd rydym mewn sefyllfa lle mae’r cyrff sy’n gwneud penderfyniadau ar ein rhan yn methu ag adlewyrchu’r boblogaeth ac mae hyn yn cael cryn effaith ar y ffordd y mae pobl yn teimlo am wleidyddiaeth.

Mae’r rhwystrau rhag cyrraedd lefelau uwch o amrywiaeth yn gymhleth. Or herwydd, rydym wedi eu categoreiddio yn ddwy thema; rhwystrau sy’n benodol i’r sefydliad a’r rhai sy’n systemig ac yn berthnasol waeth pa sefydliad sydd mewn golwg.

Mae’r adroddiad hwn wedi dweud hanes y bobl yr ydym wedi siarad â nhw yn ystod y prosiect hwn; 266 o wleidyddion etholedig trwy arolwg, mewn cyfweliadau manwl gydag wyth gwleidydd a chyfraniad helaeth gan wyth aelod o’r cyhoedd a ddywedodd wrthym eu bod wedi cael eu hatal rhag sefyll.

Mae’r straeon hyn yn rhoi darlun o gyfundrefn wleidyddol nad yw’n gweithio i lawer o bobl a fyddai â diddordeb mewn sefyll; lle mae angen cyfaddawdu’n sylweddol o ran bywyd teuluol, lle mae risg ddifrifol o ddioddef camdriniaeth ac aflonyddu, a lle ceir effaith ariannol negyddol ar lawer o bobl.

Yn ychwanegol at hynny, mae ein cyrff gwleidyddol yn gosod rhwystrau ychwanegol trwy beidio â chymryd cyfrifoldeb dros y diffyg cynnydd hwn. Rydym yn amau ​​na fydd unrhyw rai o’r rhwystrau hyn yn syndod.

Gweithredu difrifol yw’r unig ffordd ymlaen o’r sefyllfa hon, ac mae hyn yn cynnwys cyflwyno cwotâu ffurfiol. Er nad ydynt yn ateb i bob problem, maent yn rhan annatod o wneud cynnydd yn orfodol a chreu democratiaeth sydd llawer iachach a mwy cynrychioliadol.

Rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion yn yr adroddiad hwn sydd wedi’u targedu ar lawer o lefelau gwleidyddol o Lywodraeth y DU, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed.

Yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, cymerwyd camau bychain i wella amrywiaeth ein sefydliadau gwleidyddol. Yr hyn sydd ei angen nawr yw camau llawer mwy.