Hefyd ar gael yn: English

Ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

Wedi'i bostio ar y 12th Awst 2022

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) yn croesawu sgwrs genedlaethol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ynghylch y ffordd y caiff Cymru ei rhedeg, drwy ei ymgynghoriad agored. Mae dadleuon a phryderon ynghylch trefniadau cyfansoddiadol Cymru a’r DU, a’u sefydlogrwydd a’u heffeithiolrwydd hirdymor, wedi dod i’r amlwg yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng ngoleuni ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac, yn fwy diweddar, pandemig y Coronafeirws. Mae ERS wedi ymgyrchu ers tro ar faterion sy’n ymwneud â llywodraethiant Cymru a’r DU yn y dyfodol, gan gynnwys galw am gonfensiynau cyfansoddiadol ar gyfer y DU gyfan, yn ogystal ag eirioli dros fesurau i wella democratiaeth yng Nghymru, o ddiwygio’r Senedd i ddefnyddio arfau democratiaeth gydgynghorol.

Ynglŷn â’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol

Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yw prif lais y DU ar gyfer ad-drefnu democrataidd. Rydym yn gweithio gyda phawb – o bleidiau gwleidyddol, grwpiau cymdeithas sifil ac academyddion, i’n haelodau a’n cefnogwyr a’r cyhoedd yn ehangach – i ymgyrchu dros well ddemocratiaeth yn y DU.

Ein gweledigaeth yw democratiaeth sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, lle caiff pob llais ei glywed, lle rhoddir yr un gwerth ar bob pleidlais a bod pob dinesydd wedi’i ymrymuso i gymryd rhan. Rydym o blaid newidiadau gwleidyddol parhaus, rydym yn ceisio gwreiddio democratiaeth yng nghalon y ddadl gyhoeddus, ac rydym yn meithrin mannau democrataidd sy’n annog dinasyddiaeth weithredol.

Crynodeb

Hoffai’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol weld Cymru lle caiff pob llais ei glywed, lle gosodir yr un gwerth ar bob pleidlais, a lle rhoddir grym i bob dinesydd i gymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys gwella ein democratiaeth drwy ddileu rhwystrau i gyfranogiad ar bob lefel, cynyddu ymgysylltiad a sicrhau bod gan bawb y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus.

Gydag etholiadau datganoledig eto i gyrraedd 50% o’r rhai sydd â hawl i bleidleisio a chefndir o ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion ledled y DU yn fwy cyffredinol, mae’n amlwg bod angen gwneud rhywbeth i adfywio democratiaeth yng Nghymru yn ogystal ag ar draws y DU.

Dangosodd pandemig Covid-19 fod Llywodraeth Cymru yn gallu dilyn llwybr gwahanol a bod y cyhoedd yn gyffredinol yn gefnogol i hynny. Fodd bynnag, ni arweiniodd y gefnogaeth hon a mwy o amlygrwydd i’r Senedd, Llywodraeth Cymru a datganoli at nifer sylweddol uwch yn pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021 (roedd 46.6% y ganran uchaf i bleidleisio hyd yma, er ei fod yn dal yn llai na 50 y cant o’r etholwyr) nac yn etholiadau lleol 2022, lle’r oedd y nifer a bleidleisiodd yn amrywio o 31.33% yn Nhorfaen i 48.6% yng Ngheredigion. Mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn cynnal democratiaeth er mwyn ailgysylltu’r etholwyr â gwleidyddion, ac mewn rhai achosion creu’r cysylltiadau cyntaf. Rydym yn canmol Llywodraeth Cymru am y camau y mae wedi’u cymryd i ehangu ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, o ymestyn yr hawl i bleidleisio i’r cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Isod rydym wedi amlinellu’r newidiadau y credwn a allai helpu i leihau’r diffyg democrataidd hwn ac adeiladu Cymru lle mae llais pawb yn rhan o’r sgwrs.

Mae’r newidiadau hyn yn perthyn i dair prif thema:

  • Proses – gwella mynediad i gyfranogiad democrataidd yng Nghymru.
  • Ymgysylltiad – cynyddu ymgysylltiad a dealltwriaeth; croesawu camau arloesol mewn democratiaeth gydgynghorol.
  • Llywodraethiant – ail-ddychmygu strwythurau llywodraethu’r DU i feithrin cydweithrediad ac ymddiriedaeth rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth, a sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mor agos â phosibl at y bobl a’r cymunedau y byddant yn effeithio arnynt.
  1. Proses

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf gan y Comisiwn Etholiadol (Rhagfyr 2018) yn awgrymu bod tua hanner miliwn o bobl yng Nghymru (410,000 – 560,000) ar goll o’r gofrestr etholiadol. Meddai Cadeirydd yr adroddiad, Syr John Holmes wrth ystyried y canfyddiadau hyn: ‘Ni ddylai hyn fod yn dderbyniol mewn democratiaeth fodern’, a galwodd am ddefnydd mwy arloesol o’r data cenedlaethol sydd eisoes ar gael i fynd i’r afael â’r broblem hon drwy symud tuag at ffurfiau cofrestru awtomatig neu fwy awtomataidd. Byddai gwella mynediad i’n system bleidleisio drwy gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn gam sylweddol ymlaen i gael gwared ar un o’r rhwystrau cyntaf i gyfranogiad democrataidd.

Yn ogystal â chynyddu hygyrchedd cofrestru i bleidleisio, mae gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu mynd ymlaen a bwrw eu pleidlais ar ddiwrnod yr etholiad hefyd yn hollbwysig. Rydym yn awyddus i weld canlyniadau’r cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg a gynhaliwyd yn ystod yr etholiadau lleol yn gynharach eleni, a byddem yn argymell bod unrhyw wersi o ran cynyddu ymgysylltiad drwy ehangu mynediad at bleidleisio’n cael eu datblygu a’u cyflwyno ledled Cymru cyn yr etholiadau datganoledig nesaf.

Hoffem weld system bleidleisio’n cael ei defnyddio ym mhob etholiad datganoledig sy’n sicrhau bod seddi’n cyfateb i bleidleisiau yn ogystal â chynnig y dewis mwyaf i bleidleiswyr. Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) yw’r dull y byddem yn ei argymell ar gyfer cyflawni hyn lle, ynghyd â seddi sy’n cyfateb i bleidleisiau, mae pleidleiswyr hefyd yn gallu mynegi eu dewisiadau pleidleisio heb ofni gwastraffu eu pleidlais. Rydym yn croesawu’r cynnydd presennol ar Ddiwygio’r Senedd o ran gwreiddio ymrwymiad i gynrychiolaeth gyfrannol a symud i ffwrdd o’r system ‘y Cyntaf i’r Felin’ (FPTP) lle mae’r sawl sy’n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau’n ennill. Serch hynny, nid yw’r cynlluniau presennol ar gyfer system etholiadol Cynrychiolaeth Gyfrannol yn seiliedig ar Restr Gaeedig yn darparu’r rhyddid o ran dewis y mae’r etholwyr yn ei haeddu. Er bod y system hon yn mynd rhywfaint o’r ffordd i fynd i’r afael â’r pleidleisio tactegol a ddefnyddir yn aml mewn etholiadau FPTP, gan gynnwys yr elfen o bleidleisio dros ASC etholaethol a ddefnyddir ar hyn o bryd yn etholiadau’r Senedd, nid yw’n cynnig digon o ddewis i bleidleiswyr, gyda phleidleisiau’n cael eu bwrw dros blaid yn unig ac nid i ymgeiswyr penodol. Yn y sefyllfa hon, STV yw’r safon aur, gan wneud y mwyaf o ddewis pleidleiswyr y tu hwnt i ddim ond gosod ‘X’ mewn blwch; mae’n cynnig pleidleisiau y gellir eu trosglwyddo, gan ddarparu canlyniadau teg a chymesur. Mae cynnydd hefyd wedi’i wneud o ran etholiadau llywodraeth leol, gyda’r cyfle i gynghorau ddewis symud i system STV os oes mwy na 2/3 o blaid gwneud hynny. Er ein bod yn croesawu’r opsiwn i gyflwyno STV ar lefel leol, mae angen gwneud llawer mwy i gefnogi cynghorau i gymryd y cam hwn.

Dylai penderfyniadau a gweithgareddau’r llywodraeth ar bob lefel fod yn dryloyw, gan gadw at egwyddorion Llywodraeth Agored (tryloywder, uniondeb, atebolrwydd a chyfranogiad rhanddeiliaid).

  1. Ymgysylltiad 

Mae’n amlwg o’n hadroddiad Lleisiau Coll yn 2017 bod diffyg dealltwriaeth ynghylch gwleidyddiaeth, ynghyd â rhwystredigaeth o ran sut y gwneir penderfyniadau yn rhesymau allweddol dros beidio ag ymwneud â democratiaeth yng Nghymru. Cafodd y diffyg dealltwriaeth hwn ei adleisio gan bobl ifanc ledled Cymru yn ein hadroddiad Clywed Ein Lleisiau yn 2018.

Mae diffyg cyfryngau Cymreig cadarn ac amrywiol yn cynyddu’r diffyg democrataidd yn y wlad. Nid yw’n dderbyniol fod yna lawer o bobl nad ydynt yn cael gwybodaeth sylfaenol am y Senedd a Llywodraeth Cymru, a fyddai’n caniatáu iddynt gymryd rhan ystyrlon yn etholiadau’r Senedd a gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredinol.

Canfu arolwg gan y BBC/ICM yn 2014 mai dim ond 48% o bobl oedd yn gwybod bod iechyd yn fater datganoledig, ac roedd 42% o bobl yn credu’n anghywir bod gan y Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd reolaeth dros blismona.

Mae nifer o adroddiadau gan bwyllgorau ac academyddion wedi sôn y byddai datganoli neu drosglwyddo rhai pwerau dros ddarlledu yn gwella darpariaeth y cyfryngau yng Nghymru. Mae’r mater hwn wedi cael ei godi’n aml ers dechrau datganoli, ac mae angen ei ystyried ar fyrder, yn enwedig gan mai barn Llywodraeth Cymru yw y dylid datganoli darlledu yn dilyn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.

Mae ERS wedi dadlau ers tro dros gael addysg wleidyddol go iawn yng Nghymru fel un ffordd o frwydro yn erbyn y diffyg democrataidd. Yn 2018 fel rhan o brosiect Clywed Ein Lleisiau buom yn gweithio gyda mwy na 200 o fyfyrwyr mewn deuddeg ysgol ledled Cymru gan gyd-gynhyrchu argymhellion ar gyfer yr hyn yr oeddent am ei ddysgu yn yr ysgol i’w paratoi i gymryd rhan lawn mewn democratiaeth. Fel y mae, mae addysg wleidyddol yn dameidiog, ond wrth siarad â phobl ifanc, mae’n amlwg bod awydd i wybod mwy am y ffordd y gwneir penderfyniadau, am sut i ymgyrchu a dylanwadu ar y penderfyniadau hynny, a sut mae pethau yng Nghymru’n gweithio mewn gwirionedd.

Byddai addysg wleidyddol statudol mewn ysgolion yn darparu’r genhedlaeth nesaf â’r arfau i wneud penderfyniadau gwybodus, tra gallai addysg wleidyddol ehangach helpu i fynd i’r afael â’r un materion ymhlith y boblogaeth ehangach. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod disgyblion yn ‘deall ac arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd‘ drwy’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru’n gam mawr ymlaen i fynd i’r afael â’r bwlch yng ngwybodaeth pobl ifanc. Fodd bynnag, rhaid i bob disgybl gael cyfle i ddysgu hanfodion sylfaenol ein democratiaeth neu byddwn yn ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol.

Mae’r defnydd o offer cydgynghorol, megis cynulliad dinasyddion, yn sicrhau bod pobl wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ac yn gallu gweld eu lleisiau a’u barn yn cael eu parchu ac yn cael effaith. Gall defnyddio offer cydgynghorol ar wahanol lefelau o lywodraeth helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng yr etholwyr a’r system, yn ogystal â darparu atebion dilys, effeithiol a chynaliadwy i’r problemau a wynebwn yn y 21ain ganrif. Mae ERS wedi arwain y ffordd yn yr Alban gan ddefnyddio offer cydgynghorol i rymuso dinasyddion lleol i wneud penderfyniadau yn eu hardaloedd lleol drwy’r prosiect Hawlio’n Ôl Ein Cymunedau Glofaol. Fel rhan o glymblaid Ein Democratiaeth sy’n bwydo i mewn i adolygiad llywodraethiant lleol llywodraeth yr Alban, mae ERS yr Alban wedi treialu a datblygu ffyrdd arloesol o gynnwys dinasyddion yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, gan ddangos sut i greu ”crwybr’ o haenau democrataidd’. Gall prosiectau fel y rhain ddarparu canllaw ar gyfer sut y gellid cyflawni ymgysylltiad tebyg ledled Cymru.

  1. Llywodraethiant

Mae’r cydbwysedd presennol o ran pwerau o fewn y DU yn methu; mae wedi’i angori yn San Steffan ac yn seiliedig ar ei strwythurau a’i ddiwylliant o ganoli a chronni pŵer. Er gwaethaf datganoli ar draws y DU, mae’r canoli hwn yn treiddio trwy gydberthynas y wladwriaeth Brydeinig â gwledydd a chymdogaethau’r DU, gan weithredu fel rhwystr i gydweithio gwirioneddol a hirdymor, ymddiriedaeth a chydraddoldeb o ran parch. Cred ERS y dylid ailystyried y trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer llywodraethiant y DU. Dylai fod yna fframwaith cyfansoddiadol newydd, yn seiliedig ar weledigaeth a phwrpas trosfwaol, cynhwysfawr a hirdymor, yn seiliedig ar egwyddorion a chanllawiau clir, i wasanaethu fel strwythur cyffredinol ar gyfer trefniadau llywodraethiant y DU – ar draws, rhwng ac o fewn pob rhan gyfansoddol. Gallai egwyddorion gynnwys: tryloywder, cyfranogiad a chyd-greu, datganoliaeth, ymddiriedaeth, cydweithio, a chydraddoldeb o ran parch. Dylai fframwaith newydd o’r math hwn nid yn unig fod yn sail i ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol y DU, ond y gwahanol drefniadau datganoli ar draws y DU. Byddem o blaid confensiynau cyfansoddiadol ledled y DU i helpu â sefydlu’r trefniadau hyn.

Byddem hefyd o blaid diwygio Tŷ’r Arglwyddi fel elfen ganolog ar gyfer cryfhau a gwella trefniadau llywodraethiant y DU, gan gydnabod y DU fel y mae, nid fel gwladwriaeth unedol cyn datganoli. Gallai ail siambr ddiwygiedig fod yn fforwm lle gall y pedair gwlad gydweithio. Gallai ail siambr wedi’i hethol fod yn fan lle trafodir materion sy’n ymwneud â’r DU gyfan, yn ogystal â rhai is-genedlaethol a thrawsffiniol, lle gellir trafod buddiannau a phryderon is-genedlaethol a rhoi gwrandawiad teg iddynt, i ffwrdd o awyrgylch mwy gwleidyddol a byr-dymor Tŷ’r Cyffredin, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a dysgu ar y cyd ar draws yr undeb.

Yng Nghymru, mae pwerau datganoledig yn dal i fod wedi’u canoli o fewn y Senedd i raddau helaeth. Dylai pwerau gael eu gwasgaru’n ehangach ledled Cymru a’u dwyn mor agos â phosibl at bobl a chymunedau, yn unol ag egwyddor datganoliaeth gan ganiatáu ar gyfer llunio polisïau lleol a chynnwys dinasyddion yn y broses llunio penderfyniadau.

Darllen mwy o bostiadau...